Treiglad trwynol

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i'r treiglad trwynol
  • Tri gweithgaredd i ymarfer y treiglad trwynol

Lesson content

  • One introduction to the nasal mutation
  • Three activities to practise the nasal mutation
Llinell / Line

Cyflwyniad

Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu’n gywir yn Gymraeg.

Mae tri math o dreiglad yn Gymraeg. Dyma’r rheolau ar gyfer y treiglad trwynol.

Mae’r tabl canlynol yn dangos pa lythrennau sy’n newid wrth ddefnyddio’r treiglad trwynol.

LlythyrenTreiglad trwynol
p>mh
t>nh
c>ngh
b>m
d>n
g>ng

Mae’r treiglad trwynol yn cael ei ddefnyddio ar ddau achlysur yn unig:

1. Ar ôl 'fy'

  • fy + pen > fy mhen
  • fy + trwyn > fy nhrwyn
  • fy + cyfrifiadur > fy nghyfrifiadur
  • fy + gardd > fy ngardd
  • fy + brawd > fy mrawd
  • fy + dosbarth > fy nosbarth

2. Ar ôl yr arddodiad ‘yn’

Mae nifer o enwau llefydd, a llefydd yn gyffredinol, angen cael eu treiglo’n drwynol os ydyn nhw’n dilyn yr arddodiad ‘yn’. Mae’r ‘yn’ yma yn golygu in yn Saesneg, ee in Cardiff, in Angharad’s house.

Os bydd gair sy’n dilyn yr arddodiad ‘yn’ yn dechrau gyda ‘d’ neu ‘t’:

  • bydd angen i ti dreiglo ‘d’ > ’n’ a ‘t’ > ’nh’

Dyma rai enghreifftiau:

  • yn + Dolgellau > yn Nolgellau
  • yn + de Cymru > yn ne Cymru
  • yn + Tywyn > yn Nhywyn
  • yn + Trefynwy > yn Nhrefynwy
  • tŷ Angharad > yn nhŷ Angharad

Ond weithiau mae angen i ti fod yn ofalus wrth ddefnyddio’r arddodiad ‘yn’.

Os bydd gair sy’n dilyn yr arddodiad ‘yn’ yn dechrau gyda ‘b’ neu ‘p’:

  • bydd angen i ti dreiglo ‘b’ > ‘m’ a ‘p’ > ‘mh’
  • a bydd hefyd angen i ti newid yr arddodiad ‘yn’ > ‘ym’

Dyma rai enghreifftiau:

  • yn + Bangor > ym Mangor
  • yn + Brynaman > ym Mrynaman
  • yn + brechdan Huw > ym mrechdan Huw
  • yn + Pontarddulais > ym Mhontarddulais
  • yn + Porthmadog > ym Mhorthmadog
  • yn + parti Lois > ym mharti Lois

Yn yr un ffordd, os bydd gair sy’n dilyn yr arddodiad ‘yn’ yn dechrau gyda ‘c’ neu ‘g’:

  • bydd angen i ti dreiglo ‘c’ > ‘ngh’ a ‘g’ > ‘ng’
  • a bydd hefyd angen i ti newid yr arddodiad ‘yn’ > ‘yng’

Dyma rai enghreifftiau:

  • yn + Caerdydd > yng Nghaerdydd
  • yn + Caernarfon > yng Nghaernarfon
  • yn + car Sali > yng nghar Sali
  • yn + Glynebwy > yng Nglynebwy
  • yn + gardd Tomos > yng ngardd Tomos
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Rho’r arddodiad ‘yn’ o flaen y llefydd canlynol. Cofia dreiglo’r ‘yn’ os oes angen.

  • Gaerwen
  • Caerfyrddin
  • Dyfed
  • Trawsfynydd
  • Betws-y-Coed
  • parti Morgan
  • pentref Mamgu
  • tŷ Nel
  • bath y babi
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Rho ‘fy’ o flaen y canlynol, a chofia dreiglo lle bo angen.

  • afal
  • bag
  • pensil
  • cath
  • llyfr
  • cwsg
  • gwely
  • dant
  • trowsus
Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Llenwa'r bylchau yn y brawddegau isod gyda’r gair sydd yn y cromfachau wedi’i dreiglo

  1. Corgi ydy fy ______ (ci) i.
  2. Mae fy ______ (pysgod aur) i’n hen iawn.
  3. Mae fy ______ (brawd) i’n canu mewn band. Maen nhw’n ofnadwy!
  4. Mae parti yng ______ (canolfan hamdden) y pentref nos Sadwrn.
  5. Roedd parti yn ______ (tŷ) John nos Sadwrn.
  6. Bydd y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng ______ (Caerdydd) ym mis Ionawr.
Llinell / Line

Cwis

Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun.

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU