
Cynnwys y wers hon
- Cyflwyniad yn esbonio beth yw troslais a’r defnydd a wneir o iaith ddisgrifiadol
- Un fideo yn egluro am ansoddeiriau estynedig
- Un gweithgaredd, sy'n cynnwys dau fideo, i ymestyn dealltwriaeth o ansoddeiriau estynedig
- Un gweithgaredd i lunio troslais yn disgrifio dy filltir sgwâr
Lesson content
- An introduction explaining what a voiceover is and its use of descriptive language
- One video to familiarise you with extended adjectives
- One activity, which includes two videos, to confirm an understanding of extended adjectives
- One activity writing and recording a voiceover describing your local area

Troslais
Disgrifiad sain sy’n esbonio beth sy’n digwydd ar y sgrin yw troslais.
Mae iaith ddisgrifiadol ac ansoddeiriau estynedig yn chwarae rhan bwysig wrth ysgrifennu troslais, gan fod troslais yn cyfleu’n weledol ac yn effeithiol beth sy’n digwydd ar y sgrin.
Beth yw iaith ddisgrifiadol?
- Mae iaith ddisgrifiadol yn helpu creu naws ac yn dod â lluniau’n fyw.
- Gall iaith ddisgrifiadol ychwanegu at brofiad a dealltwriaeth gwylwyr o olygfa drwy dynnu sylw at, a chanolbwyntio ar fanylion penodol.
- Gan amlaf mae iaith ddisgrifiadol yn ansoddair neu yn gyfres o ansoddeiriau sy’n pwysleisio nodweddion rhywbeth neu rywun.
Beth yw ansoddeiriau estynedig?
Mae ansoddeiriau estynedig yn disgrifio ansoddeiriau mwy cymhleth a manwl.
Wrth ddisgrifio lle neu ardal, gall ansoddeiriau sy’n cyfeirio at faint, lliw neu awyrgylch lle ychwanegu at ddyfnder y disgrifiad.

Fideo 1 / Video 1
Gwylia’r fideo yma i gael deall mwy am ansoddeiriau estynedig.

Enghreifftiau o ansoddeiriau estynedig
Edrycha ar y lluniau yma o ardal Ben Llŷn, gan y ffotograffydd Dafydd Owen.
Mae disgrifiad cyntaf pob llun yn cynnwys ansoddeiriau.
Mae ail ddisgrifiad pob llun yn cynnwys ansoddeiriau estynedig.
Sylwa sut mae’r ansoddeiriau estynedig yn dod â’r lluniau’n fyw.

- Rhes o gytiau twt ar draeth llonydd.
- Rhes o gytiau twt gyda drysau llachar ar draeth llonydd, distaw.

- Garn Fydryn - mynydd pigog yn y pellter.
- Garn Fydryn - mynydd mawreddog a phigog yn fychan yn y pellter.

- Môr gwyrdd, swnllyd yn lapio’r pier bach.
- Môr gwyrdd, swnllyd a ffyrnig yn lapio’r pier bychan.

- Ŵyn bach annwyl yn y cae.
- Ŵyn bach busneslyd yn y cae eang.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Milltir sgwâr
Gwylia a chymhara'r ddau fideo isod. Mae Jeia’n cyflwyno ei milltir sgwâr, Caerdydd, i ni ar ffurf troslais.
Sylwa sut mae'r ail fideo yn defnyddio llawer iawn o ansoddeiriau estynedig. Mae'r defnydd o'r ansoddeiriau estynedig hyn yn gwneud i Gaerdydd swnio fel lle hyfryd i fyw!
Ar ôl gwylio'r ddau fideo, noda’r ansoddeiriau estynedig glywaist ti yn y troslais.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgrifenna a recordia droslais ar gyfer ffilm ddychmygol o dy ardal di - dy filltir sgwâr - gan ddefnyddio iaith ddisgrifiadol ac ansoddeiriau estynedig.
Syniadau sydyn:
- Beth am newid trefn dy frawddegau yn y troslais er mwyn denu a chadw sylw’r gwrandäwr?
- Cyn mynd ati i ysgrifennu dy droslais, beth am ddechrau yn gyntaf gyda rhestr o ansoddeiriau estynedig sy'n disgrifio'r pethau mwyaf nodedig yn dy ardal? Gelli di ychwanegu rhain i'r brawddegau yn y troslais gorffenedig wedyn.

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod a deall yn hyderus beth yw ansoddeiriau estynedig
- defnyddio ansoddeiriau estynedig i lunio troslais yn disgrifio eu milltir sgwâr
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- confidently recognise and understand what extended adjectives are and how they enrich descriptive writing
- use extended adjectives to write a voiceover describing their local area

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
