Deialog stori fer

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un cyflwyniad i iaith ac arddull ysgrifennu stori fer
  • Un fideo yn sôn am strwythur a’r defnydd o ddeialog mewn stori fer
  • Un gweithgaredd i dy helpu adnabod pwysigrwydd deialog mewn stori fer
  • Un gweithgaredd yn ymarfer ysgrifennu deialog

Lesson content

  • An introduction to the language and style used in short stories
  • One video about the structure and use of dialogue in short stories
  • One activity to help you identify the importance of dialogue in a short story
  • One activity to practise writing dialogue
Llinell / Line

Iaith ac arddull ysgrifennu stori fer

  • Rwyt ti angen penderfynu os wyt ti’n ysgrifennu yn y gorffennol neu’r presennol, a glynu wrth dy benderfyniad trwy’r stori.
  • Rwyt ti’n gallu ysgrifennu yn y person cyntaf – gwelaf/gwelais, clywaf/clywais, teimlaf/teimlais, ​blasaf/blasais.
  • Neu rwyt ti’n gallu ysgrifennu yn y trydydd person – gwelodd ef/clywodd hi/teimlodd o.
  • Cofia dreiglo’n feddal ar ôl berf gryno – gwelais __b__obl, clywaf __l__eisiau, teimlodd hi wynt ​cryf.
  • Mae angen defnyddio amrywiaeth o dechnegau arddull, ee ansoddeiriau, cymariaethau, ​personoli neu drosiadau.
  • Cofia gyfeirio at y synhwyrau, ee clywed, blasu, arogli, teimlo, gweld.
  • Rhaid sicrhau bod agoriad diddorol, uchafbwynt a diweddglo addas.
  • Rhaid i ti amrywio dechrau brawddegau.
Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia'r fideo gan athrawes Gymraeg, sy'n egluro pwysigrwydd defnyddio deialog wrth ysgrifennu stori fer.

Llinell / Line

Ysgrifennu deialog

Mae ysgrifennu deialog yn rhoi’r cyfle i awdur greu darlun cyflawn o’r cymeriad a’i fyd.Mae’n gwneud hyn drwy gofio:

  • y llais
  • y corff
  • yr amgylchfyd
  • y meddwl

Y llais

Mae’n bosib dangos llawer am y cymeriadau drwy ddisgrifio’r llais a sut mae rhywbeth yn cael ei ddweud, ee:

  • “Be?! Be?! Ti di colli dy ffôn?” bloeddiodd Dad nerth ei ben.

Y corff

Mae’n bosib dangos beth mae’r cymeriad yn ei wneud neu sut maen nhw’n symud, ee:

  • “Faint o’r gloch ydy hi? Ydy hi’n amser cinio eto? Dwi’n llwgu!” cwynodd Guto gan rwbio’i fol yn araf.

Yr amgylchfyd

Mae’n bosib dangos ym mha le mae’r sgwrs yn digwydd a beth sy’n digwydd o amgylch y cymeriadau, ee:

  • “Waw! Am ffrog hyfryd; bysai’n berffaith i’r parti,” ebychodd Angharad yn uchel dros y siop ddillad ffasiynol.

Y meddwl

Mae’n bosib dangos sut mae’r cymeriad yn meddwl, ee:

  • “Pumdeg punt! Diolch Nain, dyma’r anrheg pen-blwydd orau,” meddai Anwen yn llon.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Darllena’r darn yma o ‘Pac o Straeon Rygbi 2’ gan Alun Wyn Bevan.

"Gwych, bechgyn!" bloeddiodd Mr Ifans yr athro chwaraeon, a llamu ar y cae efo'i goesau hirion.
"Absolutely brilliant!"
"Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi'u hitio nhw!"
Wedi dysgu Cymraeg oedd Mr Ifans, tua'r un pryd â phan newidiodd ei enw o Evans i Ifans. Roedd o mor frwdfrydig am bob dim bob amser, ac edrycha'n debyg i ebol efo'i osgo heglog a'i wallt hir.

Beth mae’r disgrifiadau isod o lais, y corff, yr amgylchfyd a’r meddwl yn dweud am gymeriad Mr Ifans?

  • bloeddiodd
  • llamu ar y cae
  • gyda’i goesau hirion
  • mor frwdfrydig
  • edrycha’n debyg i ebol
  • osgo heglog a’i wallt hir

Eglura dy ateb.

Llinell / Line

Dyfynodau

Mae'n bwysig defnyddio dyfynodau (" …") o gwmpas yr hyn mae cymeriadau'n eu dweud a chofia, mae angen agor a chau’r dyfynodau, ee:

  • "Diolch i ti am yr anrheg pen-blwydd!" meddai Elin.

Mae'n rhaid rhoi priflythyren i ddilyn y dyfynodau agoriadol, ee:

  • "Diolch i ti am yr anrheg pen-blwydd!”

Atalnodi

Cofia atalnodi gan ddefnyddio:

  • atalnod
  • atalnod llawn
  • gofynnod
  • ebychnod
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dyma luniau o blant yn mwynhau trip i’r traeth tra'n aros yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

Dewisa lun ac ysgrifenna sgwrs ddychmygol rhwng y cymeriadau yn y llun, gan gofio creu darlun cyflawn o’r cymeriadau a’u byd a defnyddio dyfynodau ac atalnodi.

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall strwythur ac arddull deialog stori fer
  • ysgrifennu darn byr o ddeialog gan atalnodi a defnyddio dyfynodau yn gywir

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • understand the structure and language used in dialogue in short stories
  • write a short piece of dialogue, using punctuation and quotation marks correctly

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU