Beth yw cyfesurynnau?

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga ddefnyddio cyfeirnodau grid i bennu lleoliad.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • dau weithgaredd

Learning focus

Learn how to use grid references to specify location.

This lessons includes:

  • one video
  • two activities
Llinell / Line

Fideo / Video

Sut i ddefnyddio cyfesurynnau er mwyn dod o hyd i drysor.

How to use coordinates to find treasure.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo bydd disgyblion yn:

  • deall bod gan grid ddau echelin a gall eu defnyddio i ddarganfod pwynt ar grid
  • gwybod bod yr echelin X yn llorweddol
  • gwybod bod yr echelin Y yn fertigol

Notes for parents

After watching the video pupils will:

  • understand that there are two axes on a grid and they can be used to find a point on a grid
  • know that the X axis is horizontal
  • know that the Y axis is vertical
Llinell / Line

Cyfesurynnau

Mae gan bwynt ar grid ddau rif i nodi ei safle. Cyfesurynnau yw’r rhifau hyn.

Wrth ysgrifennu cyfesurynnau byddwn bob amser yn ysgrifennu nifer y camau ar draws yn gyntaf, wedyn nifer y camau i fyny neu i lawr.

Mae dwy echelin gan bob grid. Rydyn ni’n galw’r echelin lorweddol yn echelin X a’r echelin fertigol yn echelin Y. Gallwn ddefnyddio’r echelinau hyn i ganfod pwynt ar grid.

Coordinates

A point on a grid has two numbers to identify its position. These numbers are known as coordinates.

Coordinates are always written with the number of steps across first, then the number of steps up or down.

Grids have two axes. The horizontal axis is called the x-axis and the vertical axis is called the y-axis. These axes can be used to find a point on a grid.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Rho’r gist drysor ar y cyfesurynnau (4,3).

Put the treasure chest on the coordinates (4,3).

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Gosoda Triongl ar (1,4), Cylch ar (3,1) a’r trysor ar (3,3).

Place Triangle on (1,4), Circle on (3,1) and the treasure on (3,3).

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU