
Ffocws dysgu
Dysga amcangyfrif drwy dalgrynnu i’r 10 neu’r 100 agosaf.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to estimate by rounding to the nearest 10 or 100.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Mae Jerry ac Albert yn amcangyfri gyda losin.
Jerry and Albert estimate with sweets.
Talgrynnu losin
Shwmae Albert, waw!
Ma hynna'n lot o losin. Be ma Jerry'n ei wneud?
A! Labelu pob jar gyda'r nifer o losin.
Ond sut wyt ti'n gwybod faint o losin sydd ym mhob jar?
O waw, gwych!
Ond gyda rhywbeth fel hyn does dim rhaid bod yn union gywir.
Gelli di dalgrynnu'r rhif i roi syniad bras o faint sydd ym mhob jar.
Hyfryd. Mae talgrynnu rhifau yn rhoi syniad cyffredinol o beth allai'r cyfanswm fod.
Mae'n gallu gwneud y rhif yn haws i'w ddeall ac yn gyflymach i'w ddweud.
I dalgrynnu rhif i'r 10 agosaf, drycha ar yr unedau.
Ie, dyna'r un Jerry.
Os yw'r rhif yn gorffen gyda 5 neu fwy, talgrynna i fyny.
Mae 156 yn cael ei dalgrynnu fyny i 160.
Ond os yw'n 4 neu lai, yna talgrynna i lawr.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, dylai'r disgyblion wybod:
- ystyr y term talgrynnu
- rheolau talgrynnu i'r 10 a'r 100 agosaf
- bod talgrynnu yn gallu gwneud y rhif yn haws i'w ddeall
Notes for parents
After watching the video, students should know:
- the meaning of the term rounding
- the rules for rounding to the nearest 10 and 100
- that rounding numbers can make them easier to understand

Talgrynnu i’r 10 agosaf
I dalgrynnu rhif i’r 10 agosaf, edrycha ar ddigid yr unedau. Os yw digid yr unedau’n 5 neu fwy, talgrynna i fyny. Os yw digid yr unedau’n 4 neu lai, talgrynna i lawr.
- Y digid olaf yn 38 yw 8. Felly caiff ei dalgrynnu i fyny i 40.
- Y digid olaf yn 64 yw 4. Felly caiff ei dalgrynnu i lawr i 60.
- 5 yw digid olaf 45. Bydd 5 bob amser yn cael ei dalgrynnu i fyny. Felly mae 45 yn talgrynnu i fyny i 50.
Rounding to the nearest 10
To round numbers to the nearest 10, look at the digit of the units. If the digit of the units is 5 or more, round up. If the digit of the units is 4 or less, round down.
- The last digit in 38 is 8. So it's rounded up to 40.
- The last digit in 64 is 4. So it's rounded down to 60.
- 5 is the last digit of 45. 5 is always rounded up. So 45 is rounded up to 50.

Talgrynnu i’r 100 agosaf
I dalgrynnu rhif i’r 100 agosaf, edrycha ar ddigid y degau. Os yw digid y degau’n 5 neu fwy, talgrynna i fyny. Os yw digid y degau’n 4 neu lai, talgrynna i lawr.
- 7 yw digid y degau yn 871. Felly caiff ei dalgrynnu i fyny i 900.
- 1 yw digid y degau yn 518. Felly caiff ei dalgrynnu i lawr i 500.

Rounding to the nearest 100
To round a number to the nearest 100, look at the digit of the tens. If the digit of the tens is 5 or more, round up. If the digit of the tens is 4 or less, round down.
- 7 is the digit of the tens in 871. So it's rounded up to 900.
- 1 is the digit of the tens in 518. So it's rounded down to 500.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Wyt ti'n gallu talgrynnu’r rhifau i’r 10 agosaf a newid y labeli?
Can you round the numbers to the nearest 10 and change the labels?

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Mae dwy rownd i'r gweithgaredd hwn.
Yn y rownd gyntaf, rhaid i ti dalgrynnu'r rhifau i’r 10 agosaf. Rho dy atebion yn y blychau.
Yn yr ail rownd, rhaid i ti dalgrynnu’r rhifau i’r 100 agosaf a llenwa'r blychau gyda'r atebion cywir.
There are two rounds in this activity.
Firstly, round the numbers to the nearest 10. Write your answers in the boxes.
Next, round the numbers to the nearest 100 and fill in the boxes with the correct answers.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
