
Ffocws dysgu
Dysga sut i archwilio a gwneud defnydd addas o wahanol fathau o ysgrifennu ar sgrîn i ryngweithio ag eraill, ee negeseuon e-bost.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to explore and use appropriately the different forms of writing on-screen to interact with others, eg e-mails.
This lesson includes:
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Ysgrifennu neges e-bost
Neges ddigidol yw neges e-bost.
Mae pethau tebyg a gwahanol iawn rhwng e-bost a llythyr.
Dyma fformat neges e-bost.

Beth tybed sy'n wahanol mewn neges e-bost?
- Cynnwys byr.
- Does dim angen ysgrifennu cyfeiriad a chôd post y sawl sy'n anfon/derbyn y llythyr fel rhan o'r neges.
- Gan amlaf, does dim angen defnyddio 'Annwyl…' fel cyfarchiad ar y cychwyn. Defnyddia 'Helô!' neu 'Bore da' er enghraifft.
- Rhaid i'r cyfeiriad e-bost fod yn berffaith gywir pan wyt yn anfon neges at rywun. Does dim bylchau mewn cyfeiriad e-bost.
- Mae angen teitl i'r e-bost fel bod y testun yn glir i'r person sy'n ei dderbyn.

Teitl y neges e-bost
Dyma enghreifftiau i ti:
PWNC: Gwahoddiad i barti!
PWNC: Cyfarfod cyngor ysgol
Mae'n bwysig i ti gofio mai dim ond ychydig eiriau sydd eu hangen fel teitl er mwyn ei gadw'n gryno, hynny yw yn fyr.
Cynnwys y neges e-bost
Ysgrifenna mewn ffordd gryno (byr) fel bod y darllenydd yn gallu darllen beth wyt ti wedi ei ysgrifennu yn gyflym. Mae modd ysgrifennu mewn brawddegau llawn neu ar ffurf nodiadau. Mae hyn yn dibynnu ar ddau beth:
- y person sy'n mynd i dderbyn y neges e-bost
- cynnwys y neges e-bost
Cyfeiriadau e-bost
Cofia deipio'r cyfeiriad e-bost yn hollol gywir bob tro. Byddai un camgymeriad bach yn y cyfeiriad yn golygu na fydd dy neges yn cael ei hanfon, neu fod dy neges yn cael ei hanfon at y person anghywir!
Does dim angen bwlch o gwbl mewn cyfeiriad e-bost - mae'n cael ei ysgrifennu fel un gair hir.
Dyma rai enghreifftiau i ti:


Gweithgaredd 1
Mae Eben wedi bod yn brysur yn ysgrifennu neges e-bost. Sut byddet ti’n gwneud y neges yn fwy cryno?
Ysgrifenna fersiwn newydd o neges e-bost Eben isod ar ddarn o bapur, neu yn ddigidol.
- Help llaw: Cofia’r wybodaeth sydd yn y pwyntiau bwled uchod!

AT: [email protected]
ODDI WRTH: [email protected]
PWNC: Trip gwersylla!
Bore da Siôn,
Sut wyt ti a’r teulu? Gobeithio bod pawb yn cadw’n iawn ac yn mwynhau’r tywydd braf. Dw i newydd edrych ar ragolygon y tywydd ar fy ffôn ac maen nhw’n addo tywydd bendigedig am wythnos arall – hwrê! Oherwydd hynny ry’n ni fel teulu wedi penderfynu mynd i wersyllfa fory am ychydig ddyddiau. Ry’n ni am fynd i Sir Benfro. Hoffet ti ddod gyda ni? Mae Mam yn dweud bod croeso i ti ddod – mae hen ddigon o le yn ein pabell ni!
Beth amdani, Siôn? Fe gawn ni gymaint o hwyl! Ry’n ni am fynd i’r traeth a cherdded llwybr y glannau a choginio barbyciws a gwylio’r sêr cyn mynd i gysgu.
Byddwn ni’n gadael bore fory tua 10yb ac yn dychwelyd nos Lun erbyn amser swper. Os wyt ti am ddod bydd angen i ti ddod â sach gysgu, digon o ddillad sbâr a dy bethau ymolchi – o, a dy ddillad nofio, wrth gwrs! Mae gyda ni donfwrdd sbâr y galli di ei ddefnyddio i fynd i donfyrddio yn y môr – sôn am hwyl!
Rho wybod os wyt ti am ddod ac fe wneith Mam ffonio dy rieni y prynhawn yma i drafod yn iawn. Croesi bysedd y byddi di’n gallu dod!
Wela i di fory gobeithio.
Cofia’r eli haul!
Eben

Gweithgaredd 2
Ysgrifenna neges e-bost at dy ffrind yn gofyn iddo/iddi ddod gyda ti i ddisgo'r ysgol ar ddiwedd y tymor. Bydd digon o fwyd a diod ar gael.

Ysgrifennu neges e-bost at grŵp o bobl
Dyma enghraifft o neges e-bost arall, sydd wedi ei hysgrifennu ar gyfer grŵp o bobl yn yr ysgol.
Mae modd defnyddio hanner colon (sef ';' ) rhwng cyfeiriadau e-bost, os wyt ti'n cynnwys mwy nag un cyfeiriad.
Fe weli di fod nifer o gyfeiriadau e-bost isod. Bydd pawb sydd wedi eu rhestru yn derbyn copi o’r neges e-bost. Mae hwn yn cynnwys unrhyw gyfeiriad sy'n rhan o'r llinell CC - sy'n derbyn copi hefyd.
AT:[email protected]; [email protected]; [email protected]CC: [email protected]
ODDI WRTH: [email protected]
TESTUN: Cyfarfod Pwyllgor y Siarter Iaith
Helô bawb,
Dim ond nodyn cyflym i roi gwybod i chi am drefniadau cyfarfod nesaf Pwyllgor y Siarter Iaith. Byddwn yn cwrdd ddydd Iau nesaf, Ionawr 12fed rhwng 12:30yp ac 1yp yn swyddfa’r Pennaeth. Cofiwch ei bod yn bwysig iawn i holl aelodau’r Pwyllgor fod yn bresennol.
Bydd gyda ni dipyn i’w drafod, gan gynnwys trefniadau disgo Santes Dwynwen, syniadau ar gyfer dathlu Dydd Miwsig Cymru a’r rhestr chwarae o ganeuon Cymraeg i’w chwarae ar yr iard yn ystod amser egwyl. Bydd hefyd angen i ni edrych ar ymatebion holl blant yr ysgol i’r holiaduron 'Defnydd o’r Gymraeg' a ddosbarthwyd cyn y Nadolig.
Gan obeithio’ch gweld chi i gyd yn y cyfarfod.
Diolch, a hwyl am y tro,
Seren Llywelyn
Cadeirydd Pwyllgor Siarter Iaith Ysgol y Graig


Neges destun
Mae ffonau symudol yn boblogaidd iawn ac yn ffordd effeithiol o gadw mewn cysylltiad.
Yn hytrach na siarad ar y ffôn symudol, gallwn yrru neges ysgrifenedig ddigidol ar y ffôn, cyfrifiadur, tabled neu gonsol gemau.
Mae negeseuon testun yn fyr ac yn cael eu hysgrifennu er mwyn arbed amser.
Mae hwn yn debyg iawn i'r hen delegram.
Mae angen i ti ofyn i oedolyn cyn anfon neges destun ar dy ffôn symudol.
Help llaw: Does dim rhaid i ti nodi dy enw ar ddiwedd neges destun bob tro!

Dyma enghraifft o ddulliau creadigol o ysgrifennu geiriau mewn neges destun:
- ar = R
- ara deg = ARA10
- Ateb = @B
- becso = BXO
- eisiau = Sio
- ein dau = N2
- fi = V
- gweld = oo (sef dau lygad!)
- Nain = 9
- nawr = 9r
- ni'n dau = N2
- pobl = PBL
Dyma rai enghreifftiau o negeseuon testun sy'n defnyddio ffyrdd creadigol o ysgrifennu:
- Wt tisho swper am 6 heno? Gad V wbod!
- Joio nithiwr! roedd y 2 yn chwys laddar!
- Disgo cal gaeaf yn ysgol am 5. Ffansi?

Gweithgaredd 3
Ysgrifenna bedair neges destun i bedwar ffrind – un i bob ffrind ar ddarn o bapur, neu yn ddigidol. Beth am drio defnyddio rhai o'r enghreifftiau uchod i fyrhau dy neges? Cofia ofyn i oedolyn am ganiatâd cyn anfon y negeseuon.
Dyma enghraifft i ti
Mae Nain eisiau gweld Pobol y Cwm nawr =
Ma 9 sio oo PBL y Cwm 9r

Writing an e-mail
An e-mail is a digital message.
There are many similarities and differences between an e-mail and a letter.
Here’s the format for an e-mail.

What’s different in an e-mail?
- Brief content.
- There’s no need to write the address and postcode of the sender/recipient as part of the letter.
- You usually don’t need to use ‘Dear…’ as a greeting at the beginning. Use ‘Hello!’ or ‘Good morning’ for example.
- The e-mail address must be completely correct when you send someone a message. There should be no gaps in an e-mail address.
- You need to give the e-mail a title so that the person receiving it knows what it’s about.

E-mail title
Here are some examples for you:
SUBJECT: Party invitation!
SUBJECT: School council meeting
It’s important you remember that a title only needs to be a few words long in order to keep it concise (short).
E-mail content
Write in a concise (short) way so that the reader can read what you have written quickly. You can write in full sentences or in note form. This depends on two things:
- the person receiving the e-mail
- the content of the e-mail
E-mail addresses
Remember to type the e-mail address correctly each time. One small mistake in the address would mean that your message wouldn’t be sent at all, or that it would be sent to the wrong person!
There are no spaces in an e-mail address – it is written as one long word.
Here are some examples for you:


Activity 1
Eben has been busy writing an e-mail.
How would you make it shorter?Write your new version of Eben's email below on a piece of paper, or digitally.
- Top tip: Remember the information that's in the bullet points above!

AT: [email protected]
ODDI WRTH: [email protected]
PWNC: Trip gwersylla!
Bore da Siôn,
Sut wyt ti a’r teulu? Gobeithio bod pawb yn cadw’n iawn ac yn mwynhau’r tywydd braf. Dw i newydd edrych ar ragolygon y tywydd ar fy ffôn ac maen nhw’n addo tywydd bendigedig am wythnos arall – hwrê! Oherwydd hynny ry’n ni fel teulu wedi penderfynu mynd i wersyllfa fory am ychydig ddyddiau. Ry’n ni am fynd i Sir Benfro. Hoffet ti ddod gyda ni? Mae Mam yn dweud bod croeso i ti ddod – mae hen ddigon o le yn ein pabell ni!
Beth amdani, Siôn? Fe gawn ni gymaint o hwyl! Ry’n ni am fynd i’r traeth a cherdded llwybr y glannau a choginio barbyciws a gwylio’r sêr cyn mynd i gysgu.
Byddwn ni’n gadael bore fory tua 10yb ac yn dychwelyd nos Lun erbyn amser swper. Os wyt ti am ddod bydd angen i ti ddod â sach gysgu, digon o ddillad sbâr a dy bethau ymolchi – o, a dy ddillad nofio, wrth gwrs! Mae gyda ni donfwrdd sbâr y galli di ei ddefnyddio i fynd i donfyrddio yn y môr – sôn am hwyl!
Rho wybod os wyt ti am ddod ac fe wneith Mam ffonio dy rieni y prynhawn yma i drafod yn iawn. Croesi bysedd y byddi di’n gallu dod!
Wela i di fory gobeithio.
Cofia’r eli haul!
Eben
Here's a translation of the e-mail:
TO:[email protected]
FROM:[email protected]
SUBJECT: Camping trip!
Good morning Siôn,
How are you and the family? I hope everyone is well and enjoying the sunny weather. I’ve just had a look at the weather forecast on my phone and it’s supposed to be another week of wonderful weather – yay! As it’s going to be nice, we as a family have decided to go camping tomorrow for a few days. We're going to go to Pembrokeshire. Would you like to come with us? Mum says you’re welcome to come – there's plenty of space in our tent!
How about it, Siôn? It will be so much fun! We're going to go to the beach and walk along the coast path, and cook barbecues and look at the stars before going to sleep.
We’ll be leaving at about 10am tomorrow and coming back around dinner time on Monday. If you want to come, you’ll need to bring a sleeping bag, plenty of spare clothes and a washbag – oh, and your swimming stuff, of course! We have a spare surfboard you could use to go surfing in the sea – such fun!
Let me know if you want to come and Mum will call your parents to discuss it properly this afternoon. Hope you can come!
See you tomorrow, hopefully!
Remember to bring sun lotion!
Eben

Activity 2
Write an e-mail to your friend asking him/her to come with you to the end-of-term school disco.There will be plenty of food and drink available.

Writing a group e-mail
Here’s an example of another e-mail, written for a group of people in the school.
You can use a semicolon (‘;') between e-mail addresses if you’re including more than one e-mail address.
You can see there are many e-mail addresses below. Everyone in the list will receive a copy of the e-mail. This includes any addresses on the CC line – who also receive a copy.
AT:[email protected]; [email protected]; [email protected]CC: [email protected]
ODDI WRTH: [email protected]
TESTUN: Cyfarfod Pwyllgor y Siarter Iaith
Helô bawb,
Dim ond nodyn cyflym i roi gwybod i chi am drefniadau cyfarfod nesaf Pwyllgor y Siarter Iaith. Byddwn yn cwrdd ddydd Iau nesaf, Ionawr 12fed rhwng 12:30yp ac 1yp yn swyddfa’r Pennaeth. Cofiwch ei bod yn bwysig iawn i holl aelodau’r Pwyllgor fod yn bresennol.
Bydd gyda ni dipyn i’w drafod, gan gynnwys trefniadau disgo Santes Dwynwen, syniadau ar gyfer dathlu Dydd Miwsig Cymru a’r rhestr chwarae o ganeuon Cymraeg i’w chwarae ar yr iard yn ystod amser egwyl. Bydd hefyd angen i ni edrych ar ymatebion holl blant yr ysgol i’r holiaduron 'Defnydd o’r Gymraeg' a ddosbarthwyd cyn y Nadolig.
Gan obeithio’ch gweld chi i gyd yn y cyfarfod.
Diolch, a hwyl am y tro,
Seren Llywelyn
Cadeirydd Pwyllgor Siarter Iaith Ysgol y Graig
Here's a translation of the group e-mail:
TO:[email protected]; [email protected]; [email protected]
CC:[email protected]
FROM:[email protected]
SUBJECT: Language Charter Committee Meeting
Hello everyone,
This is just a quick note to tell you about the arrangements for the next meeting of the Language Charter Committee. We shall be meeting next Thursday, January 12th between 12:30pm and 1pm in the Head's office. Remember it’s important for all Committee members to attend.
We will have quite a bit to discuss, including the Santes Dwynwen disco, ideas for celebrating Welsh Music Day, and the playlist of Welsh songs to be played on the schoolyard during break time. We will also need to look at all the children’s responses to the questionnaire on ‘The Use of the Welsh Language’ that was handed out before Christmas.
I hope to see you all at the meeting.
Thank you and best wishes,
Seren Llywelyn
Chair of Ysgol y Graig’s Language Charter Committee


Text message
Mobile phones are very popular and are an effective way of keeping in touch.
Rather than talking on the phone, we can send a written digital message on the phone, computer, tablet or games console.
Text messages are short and are written to save time.
They are similar to the old telegram.
You need to ask an adult before sending messages on your mobile phone.
Helping hand: You don’t need to put your name at the end of text messages every time!

Here are some examples of creative ways to write words in a text message:
- ar = R (on)
- ara deg = ARA10 (slowly)
- Ateb = @B (answer)
- becso = BXO (worry)
- eisiau = Sio (want)
- ein dau = N2 (both of us)
- fi = V (me)
- gweld = oo (sef dau lygad! / two eyes!) (see)
- Nain = 9 (grandma)
- nawr = 9r (now)
- ni'n dau = N2 (both of us)
- pobl = PBL (people)
Here are some examples of text messages that use creative ways of writing:
- Wt tisho swper am 6 heno? Gad V wbod! (Do you want dinner at 6 tonight? Let me know!)
- Joio nithiwr! roedd y 2 yn chwys laddar! (Enjoyed last night! both of them were dripping with sweat!)
- Disgo cal gaeaf yn ysgol am 5. Ffansi? (Halloween disco @ school @ 5. Fancy it?)

Activity 3
Write four text messages to your friends - one for each friend, on a piece of paper or digitally.Why not have a go using some of the examples above to make your messages shorter?Remember to ask an adult for permission before sending your messages.
Here's an example for you:
Mae Nain eisiau gweld Pobol y Cwm nawr =
Ma 9 sio oo PBL y Cwm 9r

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
