
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio a dangos rhywfaint o afael ar batrymau cystrawennol y Gymraeg a geirfa (gan gynnwys terminoleg) wrth siarad.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to use and demonstrate some grasp of a range of Welsh syntax structures and vocabulary (including terminology) when speaking.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae ffrindiau yn canfod pwy wnaeth ddwyn eu pêl rygbi wrth drafod rhannau o’r corff.
Disgrifio rhannau o’r corff
DAN Dewch! Dewch i chwarae rygbi.
PAWB Rygbi! Rygbi! Ieeeei!
DAN Woooo, dw i’n edrych ymlaen.
PAWB A fi! A fi!
DAN Wyt ti’n barod i chwarae rygbi, Kasia?
KASIA Ydw, dw i’n barod ond mae rhywun wedi dwyn y bêl rygbi.
PAWB Beth? Naaa…
KASIA Lleidr.
IZZIE O! Welaist ti’r lleidr ’ma?
KASIA Do, ond ddim yn iawn. Doeddwn i ddim yn gwisgo fy sbectol.
PAWB O, Kasia…
KASIA Ond roedd y lleidr yn fyr.
DAN Dw i’n dal, felly nid fi yw’r lleidr.
IZZIE Beth arall?
KASIA Roedd trwyn hir gyda’r lleidr fel Pinocchio.
IZZIE Mae gen i drwyn smwt, felly nid fi yw’r lleidr.
KASIA Roedd bola crwn gyda’r lleidr.
ELIN Mae gen i fol fflat, felly nid fi yw’r lleidr.
KASIA Hmmm, roedd traed bach iawn gyda’r lleidr.
CARTER Mae traed eitha’ mawr gyda fi, felly nid fi yw’r lleidr.
IZZIE Oes gan y lleidr goesau hir?
KASIA Nac oes, ond roedd pedair coes gyda’r lleidr.
PAWB Pedair coes? Gel, ti yw’r lleidr.
DAN Ble mae’r bêl rygbi?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee rygbi, chwarae, lleidr, sbectol, byr, trwyn, smwt, traed, bach, mawr, coesau, hir, pedair
- strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Dw i'n…, Roedd … gyda …, Mae gen i…, felly nid fi…

Gweithgaredd 1
Llusga'r gair i ran gywir y corff.

Gweithgaredd 2
Llusga’r ansoddair 'croes' i’r bocs cywir.

Video
Friends find out who stole their rugby ball while describing parts of the body.
Disgrifio rhannau o’r corff
DAN Dewch! Dewch i chwarae rygbi.
PAWB Rygbi! Rygbi! Ieeeei!
DAN Woooo, dw i’n edrych ymlaen.
PAWB A fi! A fi!
DAN Wyt ti’n barod i chwarae rygbi, Kasia?
KASIA Ydw, dw i’n barod ond mae rhywun wedi dwyn y bêl rygbi.
PAWB Beth? Naaa…
KASIA Lleidr.
IZZIE O! Welaist ti’r lleidr ’ma?
KASIA Do, ond ddim yn iawn. Doeddwn i ddim yn gwisgo fy sbectol.
PAWB O, Kasia…
KASIA Ond roedd y lleidr yn fyr.
DAN Dw i’n dal, felly nid fi yw’r lleidr.
IZZIE Beth arall?
KASIA Roedd trwyn hir gyda’r lleidr fel Pinocchio.
IZZIE Mae gen i drwyn smwt, felly nid fi yw’r lleidr.
KASIA Roedd bola crwn gyda’r lleidr.
ELIN Mae gen i fol fflat, felly nid fi yw’r lleidr.
KASIA Hmmm, roedd traed bach iawn gyda’r lleidr.
CARTER Mae traed eitha’ mawr gyda fi, felly nid fi yw’r lleidr.
IZZIE Oes gan y lleidr goesau hir?
KASIA Nac oes, ond roedd pedair coes gyda’r lleidr.
PAWB Pedair coes? Gel, ti yw’r lleidr.
DAN Ble mae’r bêl rygbi?
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use specific vocabulary, eg rygbi, chwarae, lleidr, sbectol, byr, trwyn, smwt, traed, bach, mawr, coesau, hir, pedair (rugby, to play, thief, glasses, short, nose, snub, feet, small, big, legs, long, the feminine form of 'four')
- structure a sentence using patterns such as, Dw i'n…, Roedd … gyda …, Mae gen i…, felly nid fi… (I'm…, The…had…, I've got a …, so I'm not…)

Activity 1
Drag the word to the correct part of the body.

Activity 2
Drag the opposite adjectives into the correct box.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
