
Ffocws dysgu
Defnyddia sgiliau rhif i ddarllen ac ysgrifennu geiriau rhifau i 10.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo i ddysgu cyfrif o 1 i 10
- tri gweithgaredd i ymarfer cyfrif o 1 i 10
Learning focus
Use number skills to read and write numbers to 10.
This lesson includes:
- one video to learn how to count from 1 to 10
- three activities to practise counting from 1 to 10

Fideo / Video
Mae tri ffrind yn croesi afon drwy neidio ar gerrig a'u cyfrif nhw.
Three friends cross the river by jumping on stones and counting them.
Cyfri 1-10
ANNA Dw i eisiau croesi yn gynta’ achos dw i eisiau cyrraedd y gwersyll yn gynta’.
Un, dau, tri…
Eh? Hwyaden?!
O, mae’r dŵr yn oer!
CHARLIE Dw i eisiau croesi yn gynta’ achos dw i eisiau cyrraedd y gwersyll yn gynta’!
Un, dau, tri…
Eh…Pedwar…
Pump, chwech…saith…
Dyfrgi?!
O, mae’r dŵr yn oer iawn!
BETHAN Ym, dw i eisiau croesi yn gynta’ achos dw i eisiau cyrraedd y gwersyll yn gynta’.
ANNA/CHARLIE Wnei di byth groesi!
BETHAN Un, dau, tri…
Pedwar…
Pump, chwech….
Saith…
Wyth, naw, deg!
Hwrê! Fi yw’r cynta’ i groesi! Fi fydd y cynta’ i gyrraedd y gwersyll!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
cyfrif yn hyderus o un i ddeg yn Gymraeg
ysgrifennu'r rhifau 1 - 10 ar bapur
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
count confidently from one to ten in Welsh
write the numbers 1 to 10 down on paper

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Gwylia'r fideo eto ac ysgrifennu'r rhifau 1 i 10 ar ddarn o bapur.
Watch the video again and write the numbers 1 to 10 on a piece of paper.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Wyt ti'n gallu gwneud y symiau hyn?
Are you able to do these sums?
- 2 + 1 = __
- 4 + 1 = __
- 6 + 1 = __
- 3 + 2 = __

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
