
Ffocws dysgu
Dysga sut i fynegi barn a syniadau’n eglur gan ddefnyddio geirfa arbenigol ac enghreifftiau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to express issues and ideas clearly, using specialist vocabulary and examples.
This lesson includes:
- one video
- one activity
For an English version of this lesson, scroll below.

Rhoi barn
Er mwyn gallu mynegi dy farn yn hyderus, dylet ti ystyried cynnwys y pwyntiau canlynol:
- dweud beth yw dy farn
- rhoi rhesymau am dy farn a chefnogi dy resymau
- rhoi enghreifftiau a datblygu dy safbwynt
- ystyried gwahanol safbwyntiau

Fideo
Yn y fideo, mae Erin a Joseff yn dadlau am y ffordd orau i brotestio am y diffyg cyfleoedd ailgylchu yn y parc.
Gwelwn fod yna ddadl dda yma ble gallwn ni weld dwy ochr y ddadl. Defnyddia’r ddau eirfa mynegi barn, rhesymau a thystiolaeth i gefnogi eu safbwyntiau.
ERIN Wnei di byth guro dy record fel ’na…
JOSEFF Dylai rhywun wneud rhywbeth am y biniau ‘na.
ERIN Yn union. Y cyngor! Pa mor hurt yw e taw dim ond un bin sydd ‘na? Mae angen ailgylchu yn y parc, yn ogystal â phob man arall.
JOSEFF Mm-hm. Be’ wnei di?
ERIN Joseff. Credaf yn gryf fod dyletswydd ar bawb i ailgylchu, neu i roi sbwriel yn y bin, o leiaf. Yn sicr nid ei daflu ar lawr! Wyddost ti ei fod yn cymryd mil o flynyddoedd i blastig ddiraddio’n naturiol?
JOSEFF Does dim amheuaeth fod ailgylchu’n bwysig, Erin. Smo fi’n dadlau am hynny. Ond yn fy marn i, nid dyna’r pwynt. Does dim bin ailgylchu yma.
ERIN Dewn ni o hyd i un.
JOSEFF Pa neges fyddai hynny’n ei rhoi wedyn?
ERIN Be ti’n feddwl?
JOSEFF Wel, os yw pawb yn gwneud ymdrech i ailgylchu’n rhywle arall, pa reswm sydd gan y cyngor i roi bin newydd yn fan hyn? Os oes sbwriel dros y llawr, mae hynny’n dangos fod angen un.
ERIN Ti’n gwybod beth fydde’n cyfleu’r un neges? Ysgrifennu llythyr.
JOSEFF Ym mha ganrif ges di dy eni? Ebost ti’n feddwl!
Mae ‘na ffyrdd mwy effeithiol o brotestio. Dyna fy marn i. Ti’n meddwl ein bod ni’n dal i siarad am Gandhi oherwydd ei fod e wedi ‘sgrifennu llythyron at y cyngor? Dyw beth ry’n ni’n wneud nawr ddim yn gweithio. Mae’n rhaid i ti gyfadde hynny.
ERIN Ond dyw hi ddim yn brotest dda os ti’n gwneud yn union beth ti’n protestio yn ei erbyn! Alla i ddim meddwl am neb mewn hanes sydd wedi dod yn enwog am wneud hynny. Mae 98% o wyddonwyr yn credu bod cynhesu byd-eang yn broblem ddifrifol, wedi ei chreu gan bobl…
JOSEFF Yn gwmws. Ac maen nhw’n credu dylen ni newid ein bywydau’n gyfan gwbl i ddelio ‘da’r peth. Dyw ailgylchu potel fan hyn fan draw ddim yn mynd i helpu yn y tymor hir.
ERIN Mae rhai ohonon ni’n paratoi ar gyfer adegau fel hyn! Gweld hon? Potel ddur, fel ‘mod i ddim yn gorfod defnyddio un blastig dro ar ôl tro. Ac fe ddweda i rywbeth arall wrthot ti ‘fyd…Roeddwn i fod wedi gorffen dwy lap erbyn nawr…
JOSEFF Gwranda… dw i’n deall pa mor gryf ti’n teimlo am hyn. Ond yn bersonol, sai’n credu bod ymddwyn yn neis a dilyn rheolau’n mynd i ddal sylw pobl. Heb os nac oni bai, mae ‘na ffyrdd mwy effeithiol o wneud hynny. Dyna i gyd.
ERIN A, dw i’n dy ddeall di Joseff. Ond dw i’n credu fod angen gwneud y gorau galli di nawr, yn hytrach na gobeithio fod pethau’n mynd i wella yn y dyfodol. Dyw byw fel anifeiliaid ddim yn helpu neb.
JOSEFF A, reit. Ni’n gytûn felly.
ERIN Dw i’n meddwl ein bod ni.
JOSEFF Iawn, ffans?
ERIN Hei! Rhodri! Stopia’r beic ‘na’r funud ‘ma!
JOSEFF Beth wyt ti? Anifail?
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- defnyddio geirfa eang i fynegi barn yn hyderus
- defnyddio rhesymau cadarn a thystiolaeth gryf i gefnogi eu barn
- mynegi barn ar y pwnc o ailgylchu, gan ystyried a defnyddio gwahanol safbwyntiau a dadleuon

Gweithgaredd
Clica'r llun isod i agor y gweithgaredd.
Darllena'r gwahanol safbwyntiau ar gyfer y dadleuon sydd wedi eu hamlinellu yn y gweithgaredd. Dewisa'r term cywir o'r opsiynau uwchben y dadleuon, ac ysgrifenna'r gair sy'n gweddu orau yn y blwch.

Voicing an opinion
In order to be able to voice your opinion confidently, you should consider including the following points:
- say what your opinion is
- give reasons for your opinion and support your reasons
- give examples and develop your standpoint
- consider different standpoints

Video
In the video, Erin and Joseff argue about the best way to protest about the lack of recycling opportunities in the park.
We see that there is a good argument here where we can see both sides of the argument. They both use appropriate vocabulary for expressing opinions, reasons and evidence to support their viewpoints.
ERIN Wnei di byth guro dy record fel ’na…
JOSEFF Dylai rhywun wneud rhywbeth am y biniau ‘na.
ERIN Yn union. Y cyngor! Pa mor hurt yw e taw dim ond un bin sydd ‘na? Mae angen ailgylchu yn y parc, yn ogystal â phob man arall.
JOSEFF Mm-hm. Be’ wnei di?
ERIN Joseff. Credaf yn gryf fod dyletswydd ar bawb i ailgylchu, neu i roi sbwriel yn y bin, o leiaf. Yn sicr nid ei daflu ar lawr! Wyddost ti ei fod yn cymryd mil o flynyddoedd i blastig ddiraddio’n naturiol?
JOSEFF Does dim amheuaeth fod ailgylchu’n bwysig, Erin. Smo fi’n dadlau am hynny. Ond yn fy marn i, nid dyna’r pwynt. Does dim bin ailgylchu yma.
ERIN Dewn ni o hyd i un.
JOSEFF Pa neges fyddai hynny’n ei rhoi wedyn?
ERIN Be ti’n feddwl?
JOSEFF Wel, os yw pawb yn gwneud ymdrech i ailgylchu’n rhywle arall, pa reswm sydd gan y cyngor i roi bin newydd yn fan hyn? Os oes sbwriel dros y llawr, mae hynny’n dangos fod angen un.
ERIN Ti’n gwybod beth fydde’n cyfleu’r un neges? Ysgrifennu llythyr.
JOSEFF Ym mha ganrif ges di dy eni? Ebost ti’n feddwl!
Mae ‘na ffyrdd mwy effeithiol o brotestio. Dyna fy marn i. Ti’n meddwl ein bod ni’n dal i siarad am Gandhi oherwydd ei fod e wedi ‘sgrifennu llythyron at y cyngor? Dyw beth ry’n ni’n wneud nawr ddim yn gweithio. Mae’n rhaid i ti gyfadde hynny.
ERIN Ond dyw hi ddim yn brotest dda os ti’n gwneud yn union beth ti’n protestio yn ei erbyn! Alla i ddim meddwl am neb mewn hanes sydd wedi dod yn enwog am wneud hynny. Mae 98% o wyddonwyr yn credu bod cynhesu byd-eang yn broblem ddifrifol, wedi ei chreu gan bobl…
JOSEFF Yn gwmws. Ac maen nhw’n credu dylen ni newid ein bywydau’n gyfan gwbl i ddelio ‘da’r peth. Dyw ailgylchu potel fan hyn fan draw ddim yn mynd i helpu yn y tymor hir.
ERIN Mae rhai ohonon ni’n paratoi ar gyfer adegau fel hyn! Gweld hon? Potel ddur, fel ‘mod i ddim yn gorfod defnyddio un blastig dro ar ôl tro. Ac fe ddweda i rywbeth arall wrthot ti ‘fyd…Roeddwn i fod wedi gorffen dwy lap erbyn nawr…
JOSEFF Gwranda… dw i’n deall pa mor gryf ti’n teimlo am hyn. Ond yn bersonol, sai’n credu bod ymddwyn yn neis a dilyn rheolau’n mynd i ddal sylw pobl. Heb os nac oni bai, mae ‘na ffyrdd mwy effeithiol o wneud hynny. Dyna i gyd.
ERIN A, dw i’n dy ddeall di Joseff. Ond dw i’n credu fod angen gwneud y gorau galli di nawr, yn hytrach na gobeithio fod pethau’n mynd i wella yn y dyfodol. Dyw byw fel anifeiliaid ddim yn helpu neb.
JOSEFF A, reit. Ni’n gytûn felly.
ERIN Dw i’n meddwl ein bod ni.
JOSEFF Iawn, ffans?
ERIN Hei! Rhodri! Stopia’r beic ‘na’r funud ‘ma!
JOSEFF Beth wyt ti? Anifail?
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- use a wide range of vocabulary to confidently express their views and opinions
- use reliable reasoning and strong evidence to back their arguments
- express their opinion on the theme of recycling, whilst considering and using different standpoints and arguments

Activity
Click on the image below to open the activity.
Read the different standpoints for the arguments outlined in the activity. Choose the correct term from the options above the arguments, and write the word that fits best in the box.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
