
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio’r ystod gyfan o atalnodi’n gywir i wneud i’r ystyr fod yn glir.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to use the full range of punctuation accurately to clarify meaning.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw atalnodi?
Mae atalnodi yn bwysig wrth ysgrifennu, oherwydd mae'n gallu osgoi dryswch a chamddealltwriaeth i'r darllenydd.
Atalnod llawn
Mae angen defnyddio atalnod llawn i ddangos bod y frawddeg wedi dod i ben.
Enghreifftiau
Eddie ydw i.
Mae hi'n ddydd Mawrth heddiw.
Dw i'n edrych ymlaen at fynd i'r parc fory.
Coma
Mae ychwanegu coma yn gallu newid ystyr brawddeg:
Edrycha ar y ddwy frawddeg yma:
- Dw i eisiau bwyta Mam.
- __Dw i eisiau bwyta, Mam. __
Heb ychwanegu'r coma, maen nhw'n golygu dau beth gwahanol iawn:
- Dw i eisiau bwyta Mam. = rwyt ti eisiau bwyta dy fam
- Dw i eisiau bwyta, Mam. = rwyt ti'n dweud wrth fy fam dy fod angen bwyd
Pan rwyt ti'n ychwanegu gwybodaeth ychwanegol, am rywbeth neu rywun, yng nghanol brawddeg hir, mae angen i ti ddefnyddio coma ( , ) ar ddechrau ac ar ddiwedd y wybodaeth ychwanegol. Mae defnyddio coma fel hyn yn debyg i sut wyt ti'n gallu defnyddio cromfachau.
- Mae Ryan (y bachgen sy'n byw drws nesaf) yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw.
- Mae Ryan, y bachgen sy'n byw drws nesaf, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw.
Edrycha ar y wybodaeth ychwanegol mewn print trwm yn y frawddeg isod, a sylwa ar yr atalnodau ar ddechrau ac ar ddiwedd y wybodaeth ychwanegol:
Yn sydyn, rhedodd Gareth Bale__, chwaraewr gorau Cymru,__ gyda'r bêl wrth ei droed.
Dyma enghraifft arall i ti:
Mae'r plant__, sydd wedi bod gartref am 12 wythnos oherwydd y coronafeirws,__ wedi dychwelyd i'r ysgol.

Ebychnod
Ebychnod yw atalnod sy’n cael ei ddefnyddio ar ddiwedd ebychiad. Mae ebychnod yn edrych fel hyn - '!'
Mae ebychnod yn cael ei ddefnyddio i nodi syndod, neu os oes gen ti rywbeth digrif i'w ddweud.
Enghreifftiau
- Wwww! Nefi wen! Mae'r un peth wedi digwydd eto!
- Na! Dw i ddim yn dy gredu!
- Help!


Gofynnod
Mae gofynnod yn dangos dy fod yn gofyn cwestiwn. Term arall ar gyfer gofynnod yw marc cwestiwn.
Defnyddia'r symbol ‘?’, i ddangos fod brawddeg yn gwestiwn.
Enghreifftiau
- Sut wyt ti?
- Pryd mae te?
- Tybed i ble aeth y balŵn?
- Pwy sydd wedi derbyn y llythyr?


Cromfachau
Cromfachau yw’r marciau sy’n cael eu rhoi ar ddechrau a diwedd ychwanegiad o fewn brawddeg.
Enghreifftiau
- Aeth Gwenllian (chwaer Owain) i'r Alban ar ei gwyliau eleni.
- Miss Griffiths (Athrawes Blwyddyn 6) yw fy hoff athrawes yn yr ysgol.
- Bydd y bws yn gadael am 9 o'r gloch (peidiwch ag anghofio eich pecyn bwyd).

Collnod
Defnyddia'r collnod i ddangos bod llythyren ar goll.
Enghreifftiau
- mae + yr > mae'r
- mae + yn > mae'n
- dw i + yn > dw i'n
- i + yr > i'r
- o + yr > o'r
Dyfynnod
Os wyt ti eisiau dangos bod rhywun yn siarad, defnyddia ddyfynodau. Mae hyn yn golygu rhoi'r symbolau " " o gwmpas y geiriau sy'n cael eu dweud, er enghraifft:
"Dw i eisiau bwyd," dywedodd Seren.
Os oes cymeriad arall yn ateb, defnyddia set arall o ddyfynodau:
"Pryd mae te?" gofynnodd Seren. "Am chwech o'r gloch," meddai ei mam.
Cofia roi unrhyw atalnodi megis gofynnod, atalnod llawn, coma ac ebychnod tu mewn i'r dyfynodau.

Fideo
Mae Erin a Mali yn ymweld â dinas newydd ac yn tecstio Rhodri a Joseff i sôn am eu diwrnod. Yn anffodus, mae atalnodi gwael Erin yn achosi dryswch i’r bechgyn yn y caffi. Gwylia’r fideo i ddeall am bwysigrwydd atalnodi.
JOSEFF ‘Bwyd ofnadwy. O flasus.’ Sai’n meddwl bod yr atalnod llawn ‘na yn y lle cywir. Un gwall bach, ac mae’n newid yr ystyr yn gyfan gwbl. Hei, ti’n clywed y sŵn ‘na?
RHODRI Pa sŵn?
JOSEFF* Yn union! Tawelwch! Dyw Erin ddim yn malu awyr.
RHODRI Ma’ hi’n siarad fel melin bupur. Ti’n meddwl ‘i bod hi a Mali yn mwynhau eu diwrnod allan?
JOSEFF Gawn ni weld nawr!
RHODRI Neges gan Mali.
MALI “Shwmae, bois. Nodyn cyflym i ddweud cymaint o amser da ry’n ni’n ei gael. Digon o adeiladau hanesyddol, diddorol, a hudolus.”
RHODRI Wel, ‘na chi braf.
JOSEFF Ha! Dyw Erin ddim yn cytuno.
ERIN Dyma’r ddinas fwya’ diflas yn y byd llawn hen adeiladau llychlyd a hen bobol yn trafod pethau ddigwyddodd ganrifoedd yn ôl does dim digon o bobol ifanc o gwmpas a fi ‘di cael digon ac mae Mali wrth ei bodd gyda’r holl hanes ond pwy sydd eisiau dysgu am hen bethe mae’n well ‘da fi fynd i’r gampfa neu wylio’r Gemau… Olympaidd.
JOSEFF Mae Erin… yn cael problemau… ‘da atalnodi… hefyd.
RHODRI Sgen Erin ddim amsar i atalnodi, siŵr. Ti’m yn ennill y ras gan metr bob blwyddyn yn Mabolgampau’r ysgol wrth atalnodi.
JOSEFF Ond ma fe mor hawdd! Atalnod llawn rhwng brawddegau, coma os ti moyn gadael bwlch yng nghanol brawddeg, gwahannod mewn rhestrau…
RHODRI Aros funud. Dwi’n gyrru hyn i gyd iddi hi…
JOSEFF Prif lythyren ar ddechrau brawddeg, wrth gwrs. Cromfachau o gwmpas darn o wybodaeth ychwanegol. Dyfynodau os ti’n… wel… dyfynnu.
RHODRI A… gyrru. Dwi’m yn meddwl bod hi ‘di gwerthfawrogi hwnna.
JOSEFF “Maer ddinas yn enfawr yn hen ac yn ddiflas.”
RHODRI Chwara teg! Ma’ hi’n cyfarfod y maer, ac yn sarhau’r boi!
JOSEFF Atalnodi sydd ar fai fan hyn eto. “Mae”, collnod, “r”. Ti’n defnyddio collnod pan mae gen ti lythyren ar goll. Yn yr achos yma, mae hi’n golygu “mae yr” yn lle “maer”. Deall?
RHODRI Ro i wbod iddi rŵan.
JOSEFF “Y trên yn hwyr? Pam.”
RHODRI Sut ‘da ni fod i wbod os ydi’r trên yn hwyr neu beidio? A pwy ‘di Pam?
JOSEFF Nid Pam. Erin. Mae’i wedi rhoi’r marc cwestiwn a’r atalnod llawn yn y llefydd anghywir.
ERIN Y trên yn hwyr. Paaaam?
RHODRI Wna i roi gwbod iddi.
JOSEFF Mae’n iawn. Y… weda i wrthi nes ymlaen. Bwyd ofnadwy?
RHODRI O flasus!
JOSEFF Na. Na. Na.
RHODRI Jest bwyd ofnadwy.
JOSEFF Roedden nhw’n iawn y tro cynta’.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo bydd disgyblion yn gallu:
deall sut i atalnodi yn gywir a sicrhau eu bod yn gallu, ee nodi diwedd brawddegau (atalnod llawn) a chymalau (coma), a dysgu sut i ddefnyddio'r collnod yn gywir
gweld paragraff heb unrhyw atalnodi, yna deall sut i'w rannu yn frawddegau byrrach, mwy synhwyrol drwy ddefnyddio, ee prif lythyren, coma, atalnod llawn a chollnod yn y mannau cywir

Gweithgaredd 1
Llenwa’r blwch gyda’r atalnod cywir.

Gweithgaredd 2
Uwcholeua ble mae angen collnod.

What is punctuation?
Punctuation is important when writing because it can prevent the reader from misunderstanding or getting confused.
Full stop
A full stop must be used to indicate that the sentence has finished.
Examples
- Eddie ydw i. - I am Eddie.
- Mae hi'n ddydd Mawrth heddiw. - Today is Tuesday.
- Dw i'n edrych ymlaen at fynd i'r parc fory. - I’m looking forward to go to the park tomorrow.
Comma
Adding a comma can change a sentence's meaning.
Look at these two sentences:
- Dw i eisiau bwyta Mam. - (I want to eat Mum.)
- Dw i eisiau bwyta, Mam. - (I want to eat, Mum.)
Without the comma, they mean two very different things:
- Dw i eisiau bwyta Mam. = you want to eat your mother
- Dw i eisiau bwyta, Mam. = you’re telling your mother that you want food
When you add extra information, about something or someone, in the middle of a long sentence, you need to use a comma (,) before and after the additional information. Using a comma like this is similar to how you can use brackets.
- Mae Ryan (y bachgen sy'n byw drws nesaf) yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw. - Ryan (the boy who lives next door) is celebrating his 10th birthday today.
- Mae Ryan, y bachgen sy'n byw drws nesaf, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw. - Ryan, the boy who lives next door, is celebrating his 10th birthday today.
Look at the extra information in bold in the sentence below and notice the commas before and after the extra information:
Yn sydyn, rhedodd Gareth Bale__, chwaraewr gorau Cymru,__ gyda'r bêl wrth ei droed. - Suddenly, Gareth Bale,Wales’ best player,ran with the ball at his feet.
Here’s another example for you:
Mae'r plant__, sydd wedi bod gartref am 12 wythnos oherwydd y coronafeirws,__ wedi dychwelyd i'r ysgol. - The children,who have been at home for 12 weeks because of the coronavirus,have returned to school.

Exclamation mark
An exclamation mark is a type of punctuation used at the end of an exclamation. This is what an exclamation mark looks like - ‘!’
An exclamation mark is used to convey shock or if you have something funny to say.
Examples
- Wwww! Nefi wen! Mae'r un peth wedi digwydd eto! - Ooh! Goodness gracious! The same thing has happened again!
- Na! Dw i ddim yn dy gredu! - No! I don't believe you!
- Help! - Help!


Question mark
A question mark shows that you are asking a question.
Use the ‘?’ symbol to show that the sentence is a question.
Examples
- Sut wyt ti? - How are you?
- Pryd mae te? - When are we having tea?
- Tybed i ble aeth y balŵn? - I wonder where the balloon went?
- Pwy sydd wedi derbyn y llythyr? - Who is the letter for?


Brackets
Brackets are the marks used before and after additional text within a sentence.
Examples
- Aeth Gwenllian (chwaer Owain) i'r Alban ar ei gwyliau eleni. - Gwenllian (Owain's sister) went to Scotland on holiday this year.
- Miss Griffiths (Athrawes Blwyddyn 6) yw fy hoff athrawes yn yr ysgol. - Miss Griffiths (the Year 6 teacher) is my favourite teacher in the school.
- Bydd y bws yn gadael am 9 o'r gloch (peidiwch ag anghofio eich pecyn bwyd). - The bus will leave at 9 o’clock (don’t forget your lunch box).

Apostrophe
Use the apostrophe to show that a letter is missing.
Examples
- mae + yr > mae'r (the…is)
- mae + yn > mae'n (… is)
- dw i + yn > dw i'n (I am…)
- i + yr > i'r (to the)
- o + yr > o'r (*from the *)
Speech marks
If you want to show that someone is speaking, use speech marks. This means you use the symbols " " around the words being spoken, for example:
"Dw i eisiau bwyd," dywedodd Seren. - "I want food," said Seren.
If another character answers, use another set of speech marks:
"Pryd mae te?" gofynnodd Seren. "Am chwech o'r gloch," meddai ei mam. - "When are we having tea?" Seren asked. "At six o’clock," her mother replied.
Remember to include any punctuation, such as question marks, full stops, commas and exclamation marks, inside the speech marks.

Video
Erin and Mali are visiting a new city and text Rhodri and Joseff to tell them about their day. Unfortunately, Erin's poor punctuation confuses the boys in the café. Watch the video to understand about the importance of punctuation.
JOSEFF ‘Bwyd ofnadwy. O flasus.’ Sai’n meddwl bod yr atalnod llawn ‘na yn y lle cywir. Un gwall bach, ac mae’n newid yr ystyr yn gyfan gwbl. Hei, ti’n clywed y sŵn ‘na?
RHODRI Pa sŵn?
JOSEFF* Yn union! Tawelwch! Dyw Erin ddim yn malu awyr.
RHODRI Ma’ hi’n siarad fel melin bupur. Ti’n meddwl ‘i bod hi a Mali yn mwynhau eu diwrnod allan?
JOSEFF Gawn ni weld nawr!
RHODRI Neges gan Mali.
MALI “Shwmae, bois. Nodyn cyflym i ddweud cymaint o amser da ry’n ni’n ei gael. Digon o adeiladau hanesyddol, diddorol, a hudolus.”
RHODRI Wel, ‘na chi braf.
JOSEFF Ha! Dyw Erin ddim yn cytuno.
ERIN Dyma’r ddinas fwya’ diflas yn y byd llawn hen adeiladau llychlyd a hen bobol yn trafod pethau ddigwyddodd ganrifoedd yn ôl does dim digon o bobol ifanc o gwmpas a fi ‘di cael digon ac mae Mali wrth ei bodd gyda’r holl hanes ond pwy sydd eisiau dysgu am hen bethe mae’n well ‘da fi fynd i’r gampfa neu wylio’r Gemau… Olympaidd.
JOSEFF Mae Erin… yn cael problemau… ‘da atalnodi… hefyd.
RHODRI Sgen Erin ddim amsar i atalnodi, siŵr. Ti’m yn ennill y ras gan metr bob blwyddyn yn Mabolgampau’r ysgol wrth atalnodi.
JOSEFF Ond ma fe mor hawdd! Atalnod llawn rhwng brawddegau, coma os ti moyn gadael bwlch yng nghanol brawddeg, gwahannod mewn rhestrau…
RHODRI Aros funud. Dwi’n gyrru hyn i gyd iddi hi…
JOSEFF Prif lythyren ar ddechrau brawddeg, wrth gwrs. Cromfachau o gwmpas darn o wybodaeth ychwanegol. Dyfynodau os ti’n… wel… dyfynnu.
RHODRI A… gyrru. Dwi’m yn meddwl bod hi ‘di gwerthfawrogi hwnna.
JOSEFF “Maer ddinas yn enfawr yn hen ac yn ddiflas.”
RHODRI Chwara teg! Ma’ hi’n cyfarfod y maer, ac yn sarhau’r boi!
JOSEFF Atalnodi sydd ar fai fan hyn eto. “Mae”, collnod, “r”. Ti’n defnyddio collnod pan mae gen ti lythyren ar goll. Yn yr achos yma, mae hi’n golygu “mae yr” yn lle “maer”. Deall?
RHODRI Ro i wbod iddi rŵan.
JOSEFF “Y trên yn hwyr? Pam.”
RHODRI Sut ‘da ni fod i wbod os ydi’r trên yn hwyr neu beidio? A pwy ‘di Pam?
JOSEFF Nid Pam. Erin. Mae’i wedi rhoi’r marc cwestiwn a’r atalnod llawn yn y llefydd anghywir.
ERIN Y trên yn hwyr. Paaaam?
RHODRI Wna i roi gwbod iddi.
JOSEFF Mae’n iawn. Y… weda i wrthi nes ymlaen. Bwyd ofnadwy?
RHODRI O flasus!
JOSEFF Na. Na. Na.
RHODRI Jest bwyd ofnadwy.
JOSEFF Roedden nhw’n iawn y tro cynta’.
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
use the full range of punctuation accurately to clarify meaning, eg demarcating sentences (full stops) and clauses (commas), and using apostrophes correctly
understand how a paragraph containing only one sentence with no punctuation can be divided into shorter, more sensical sentences by correctly using, eg capital letters, commas, full stops and apostrophes

Activity 1
Fill the gap with the correct punctuation.

Activity 2
Highlight where an apostrophe is needed.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
