
Cynnwys y wers hon
- Un gerdd i’w darllen a’i hastudio
- Tri fideo gan y bardd yn trafod y gerdd
- Dau weithgaredd i ymarfer sgiliau gwerthfawrogi barddoniaeth
Lesson content
- One poem to read and study
- Three videos of the poet discussing the poem
- Two activities to practise poetry appreciation skills

Beth yw barddoniaeth?
Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad o ysgrifennu barddoniaeth. Ond pam tybed bod beirdd yn teimlo’r angen i ysgrifennu cerddi?

Fideo 1 / Video 1
Mae beirdd yn barddoni am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau neu deimladau.
Gwylia'r bardd Gwion Hallam yn egluro sut aeth ati i farddoni cyfrol o saith cerdd, sy’n addas i bobl ifanc, o’r enw, ‘Cerddi y Coridorau’.

Gwerthfawrogi barddoniaeth
Fel cynulleidfa, gallwn ni werthfawrogi gwaith beirdd wrth astudio a dadansoddi eu gwaith. Yr enw ar hyn yw gwerthfawrogi barddoniaeth.
Wrth werthfawrogi barddoniaeth, mae angen i ni ystyried sawl peth:
- cynnwys a neges y gerdd
- sut mae’r bardd yn cyfleu ei neges (hynny yw, nodweddion arddull a mesur)
- ymateb personol
Cynnwys a neges y gerdd
Dyma’r math o gwestiynau rhaid eu gofyn wrth astudio cynnwys a neges cerdd:
- Am beth mae’r gerdd yn sôn?
- Beth mae’r bardd yn ei ddweud yn y gerdd?
- Ydy’r gerdd yn sôn am brofiad personol?
- Ydy'r gerdd yn adrodd hanes mewn cyfnod o amser?
- Ydy'r gerdd yn disgrifio digwyddiad penodol?
- Ydy’r bardd yn myfyrio ar rywbeth?
Wrth drafod cynnwys, rhaid dyfynnu a dadansoddi gan edrych dan wyneb y geiriau a cheisio ateb y cwestiynau uchod.

Fideo 2 / Video 2
Gwylia’r bardd Gwion Hallam yn darllen ei gerdd 'Bws Ysgol' neu ddarllena’r gerdd isod dy hun.
Bws Ysgol
Mor rhyfedd sut all taith
bob dydd
mewn bws
droi’n artaith byw,
a sut all croeso’r
seddau mawr cartŵn
droi’n hunllef real iawn
i un.
Mae’n eistedd hefo’i
fag fel ffrind
a’i groen yn gwrando’n chwys;
fel milwr ffilm sy’n cofio’r sgript
mae’n disgwyl bang y bom,
yn paratoi at glec
grenêd y geiriau.
Oi gay-boy? Ma’ pawb yn gwbod!
Hei o ’ma, s’dim lle i homos!
Ocê, os ti’n gê dwed y gwir!
Nid gofyn ond dweud
a neb eisiau ateb –
haws chwerthin a chwislan
ar gelwydd sedd gefn
na gwrando ar y gwir:
gwell closio at y bwli
na’r boi sy’n diodde
ei boen.
– Gwion Hallam, allan o

Cynnwys y gerdd
Am beth mae’r bardd yn sôn?
Yma, cawn hanes plentyn yn cael ei fwlio ar fws ysgol. Does neb yn ochri gydag ef gan ei bod yn haws ochri gyda bwli na dioddefwr. Mae’r profiad yn “artaith byw” i’r plentyn sy’n cael ei fwlio bob dydd, yn ddi-baid. Mae’n aros am “glec y geiriau” sy’n awgrymu bod y bwlio yn digwydd o hyd ac o hyd a bod pob gair cas yn ei frifo mwy a mwy. Does neb yn ffrind iddo a neb yn fodlon “gwrando ar y gwir”.
Beth yw neges y bardd?
Ydy’r bardd yn dweud rhywbeth wrthym yma? Efallai ei fod am i ni gymryd sylw o beth sy’n digwydd o’n cwmpas. Ydyn ni’n euog o ochri gyda bwli yn hytrach na’r “boi sy’n diodde ei boen”? Neu efallai bod y bardd eisiau i ni ystyried teimladau eraill a’r effaith mae ein geiriau yn gallu eu cael?
Sut mae’r bardd yn cyfleu ei neges ?
Wrth ystyried sut mae’r bardd yn cyfleu ei neges, mae angen trafod y nodweddion arddull a ddefnyddir yn y gerdd.
Rheol 3E
Dilynwn y rheol 3E wrth drafod arddull:
- Enw – rhaid enwi’r nodwedd sy’n cael ei defnyddio, ee ansoddair.
- Enghraifft – rhaid dyfynnu’r enghraifft, ee “artaith byw”.
- Effaith – rhaid trafod effaith y nodwedd. Er mwyn gwneud hyn, ystyria beth mae’r bardd yn denu sylw ato a pham. Er enghraifft, mae’n pwysleisio’r ansoddeiriau sy’n mynegi casineb y bwli tuag at y dioddefwr. Mae’n gwneud hyn er mwyn disgrifio effaith y geiriau cas ar y diddoddefwr – maent yn ei boeni ac yn teimlo fel “artaith byw” iddo, sy’n denu sylw i ba mor ofnadwy yw’r geiriau a’r profiad.
Beth yw mesur y gerdd?
Mae hon yn gerdd yn y mesur rhydd. Nid oes rheolau pendant yn y gerdd – mae gan y bardd ryddid i amrywio hyd y llinellau a’r penillion, odlau a sillafau.

Fideo 3 / Video 3
Gwranda ar y bardd yn egluro sut aeth ati i greu’r gerdd 'Bws Ysgol'.
Pa nodweddion arddull mae e’n cyfeirio atynt? Oes technegau eraill y mae e’n eu trafod?

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Llenwa’r tabl trin arddull isod gydag enghreifftiau o’r gerdd 'Bws Ysgol' sy'n cyfateb i'r nodweddion sydd eisoes wedi eu nodi yn y tabl. Rwyt wedi clywed y bardd yn trafod rhai o'r enghreifftiau hyn yn y fideos.
Wedyn, cer ati i lenwi gweddill y tabl trwy geisio trafod effaith yr enghreifftiau, gan gofio ystyried beth mae’r bardd yn denu sylw ato a pham.
| Enw’r nodwedd | Enghraifft | Effaith | |
|---|---|---|---|
| trosiad | |||
| cyffelybiaeth / cymhariaeth | |||
| personoli | |||
| cyflythrennu | |||
| deialog |

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ymateb personol
Beth yw dy ymateb personol di i’r gerdd? Wyt ti’n ei hoffi? Ydy’r gerdd yn berthnasol ac yn addas? Nid oes atebion anghywir yma ond mae angen cyfiawnhau dy farn gyda rheswm!
Her: Cer ati i ysgrifennu gwerthfawrogiad o’r gerdd 'Bws Ysgol'.
Rhaid cofio cynnwys paragraff am y canlynol:
- cynnwys a neges y gerdd
- sut mae’r bardd yn cyfleu ei neges (hynny yw, nodweddion arddull a mesur)
- ymateb personol
Syniadau dechrau brawddegau
- Egyr y gerdd… (Mae’r gerdd yn agor…)
- Mynega’r bardd ei… (Mae’r bardd yn mynegi ei…)
- Gwelwn ddarlun…
- Gallwn weld…
- Neges y gerdd yw…
- Llwydda’r gerdd i gyfleu…
- Teimla’r bardd…
- Sonia’r bardd am…
- Defnyddia…
- Wrth gloi’r gerdd…

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- gwerthfawrogi'r gerdd ‘Bws Ysgol’ gan Gwion Hallam
- gwerthfawrogi sut mae arddulliau iaith amrywiol yn cyfoethogi darn o farddoniaeth
- ysgrifennu gwerthfawrogiad o’r gerdd 'Bws Ysgol'
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- appreciate the poem ‘Bws Ysgol’ by Gwion Hallam
- appreciate how various language styles enrich a piece of poetry
- write an appreciation of the poem 'Bws Ysgol'

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
