Ffocws dysgu
Dysga sut i ddwyn i gof ac ail-ddweud naratifau a gwybodaeth o destunau gan gynnwys rhai manylion.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- dau fideo
- pedwar gweithgaredd
Learning focus
Learn how to recall and retell narratives and information from texts with some details.
This lesson includes:
- two videos
- four activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo 1
Gwranda ar athrawes yn adrodd stori Yr Iâr Fach Goch.
Yr Iâr Fach Goch

Gweithgaredd 1
Nawr, gwylia'r athrawes yn adrodd y stori eto yn Fideo 2 isod, gan ddarllen ar goedd gyda hi drwy ddarllen yr is-deitlau ar y sgrin. Cofia amrywio goslef a chyflymder dy lais wrth ddarllen yn uchel gan ddilyn beth mae'r athrawes yn ei wneud. Cofia hefyd roi sylw i'r atalnodi.

Fideo 2
Darllena'r stori ar goedd gyda'r athrawes gan ddefnyddio'r is-deitlau yn y fideo.
Yr Iâr Fach Goch
Un tro, roedd yna iâr fach goch yn byw ar fferm.
Un bore, dyma hi’n deffro, a mynd allan i’r buarth.
Gwelodd hadau ŷd ar y buarth.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i blannu’r hadau ŷd yma?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi blannu’r hadau,” meddai’r iâr fach goch.
A dyma hi’n dechrau plannau’r hadau.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i roi dŵr i’r hadau?” gofynodd yr iâr fach goch.

“Wel wir, rhaid i mi roi dŵr i’r hadau,” dywedodd yr iâr fach goch.
A dyma hi’n dechrau rhoi dŵr i’r hadau.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i dorri’r ŷd?” gofynodd yr iâr fach goch.

“Wel wir, rhaid i mi dorri’r ŷd.”
A dyma hi’n dechrau torri’r ŷd.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i gario’r ŷd i’r felin?” gofynodd yr iâr fach goch.

“Wel wir, rhaid i mi gario’r ŷd,” meddai’r iâr fach goch.
A dyma hi’n dechrau cario’r ŷd.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i falu yr ŷd?” gofynodd yr iâr fach goch.

“Wel wir, rhaid i mi falu’r ŷd,” meddai’r iâr fach goch.
“Pwy sy’n mynd i fy helpu i i wneud bara?” gofynodd yr iâr fach goch.

“Wel wir, rhaid i mi wneud y bara.”
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i fwyta’r bara?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, y fi!” meddai’r ci.
“Mi-aw, y fi!” meddai’r gath.
“Cwac, y fi!” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, chewch chi ddim. Dydych chi ddim wedi fy helpu i.”
A dyma’r iâr fach goch yn bwyta’r bara.
Y diwedd.

Gweithgaredd 2
Yn y stori roedd yr iâr fach goch yn gorfod gwneud popeth, oherwydd doedd y ci, y gath na'r hwyaden ddim yn fodlon ei helpu hi. Wyt ti'n cofio trefn y stori?
Rho'r pwyntiau isod yn y drefn gywir.
- gwneud y bara
- rhoi dŵr i'r hadau
- malu'r ŷd
- plannu'r hadau
- cario'r ŷd i'r felin
- bwyta'r bara
- torri'r ŷd

Gweithgaredd 3
Tynna gyfres o luniau i ddangos beth sy'n digwydd yn y stori yn y drefn gywir.

Gweithgaredd 4
Dyweda stori Yr Iâr Fach Goch wrth oedolyn yn dy eiriau dy hun. Cofia ddefnyddio synau’r anifeiliaid ac i wneud y symudiadau.

Nodiadau i rieni
Ar ôl y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- dangos dealltwriaeth o’r stori
- dangos eu bod yn deall trefn y stori
- darllen stori ar goedd yn hyderus, gan dalu sylw i'r atalnodi ac amrwyio goslef a chyflymder eu llais
- defnyddio patrymau iaith syml wrth adrodd y stori

Video 1
Listen to a teacher telling the story Yr Iâr Fach Goch (The Little Red Hen).
Yr Iâr Fach Goch

Activity 1
Now watch the teacher telling the story again in Video 2 below, and read aloud along with her using the subtitles on the screen. Remember to vary the intonation and pace of your voice by copying what the teacher does. Also, pay attention to the punctuation.

Video 2
Read the story aloud with the teacher, using the subtitles in the video.
Yr Iâr Fach Goch
Un tro, roedd yna iâr fach goch yn byw ar fferm.
Un bore, dyma hi’n deffro, a mynd allan i’r buarth.
Gwelodd hadau ŷd ar y buarth.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i blannu’r hadau ŷd yma?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi blannu’r hadau,” meddai’r iâr fach goch.
A dyma hi’n dechrau plannau’r hadau.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i roi dŵr i’r hadau?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi roi dŵr i’r hadau,” dywedodd yr iâr fach goch.
A dyma hi’n dechrau rhoi dŵr i’r hadau.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i dorri’r ŷd?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi dorri’r ŷd.”
A dyma hi’n dechrau torri’r ŷd.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i gario’r ŷd i’r felin?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi gario’r ŷd,” meddai’r iâr fach goch.
A dyma hi’n dechrau cario’r ŷd.
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i i falu yr ŷd?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi falu’r ŷd,” meddai’r iâr fach goch.
“Pwy sy’n mynd i fy helpu i i wneud bara?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r ci.
“Mi-aw, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r gath.
“Cwac, dydw i ddim am dy helpu,” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, rhaid i mi wneud y bara.”
“Pwy sydd yn mynd i fy helpu i fwyta’r bara?” gofynodd yr iâr fach goch.
“Wff, y fi!” meddai’r ci.
“Mi-aw, y fi!” meddai’r gath.
“Cwac, y fi!” meddai’r hwyaden.
“Wel wir, chewch chi ddim. Dydych chi ddim wedi fy helpu i.”
A dyma’r iâr fach goch yn bwyta’r bara.
Y diwedd.

Activity 2
In the story, the little red hen had to do everything herself, because the dog, the cat and the duck were unwilling to help her. Can you remember the order of the story?
Put the following points in the right order.
- gwneud y bara (making the bread)
- rhoi dŵr i'r hadau (watering the seeds)
- malu'r ŷd (grinding the wheat)
- plannu'r hadau (planting the seeds)
- cario'r ŷd i'r felin (carrying the wheat to the mill)
- bwyta'r bara (eating the bread)
- torri'r ŷd (cutting the wheat)

Activity 3
Draw a series of pictures in the right order showing what happens in the story.

Activity 4
Tell the story of Yr Iâr Fach Goch to an adult in your own words. Remember to use the animal sounds and do the movements.

Notes for parents
After the lesson, students will be able to:
- show an understanding of the story
- show they understand the order of the story
- read aloud confidently, paying attention to punctuation and the intonation and speed of their voice
- use simple language patterns while telling the story

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11