
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to use money to pay for items up to £10 and calculate the change.
This lesson includes:
- one video
- two activities
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo i ddysgu mwy am wario arian ar fwyd ar gyfer parti pen-blwydd.
Watch the video and learn more about spending money on food for a birthday party.
Faint ydw i wedi gwario?
Sut wyt ti’n mynd i ddathlu dy ben-blwydd cynta ar y Ddaear?
Cacen a brocoli?
Yyyy, iawn… ocê… rwyt ti’n mynd i gael parti. Beth am hetiau?
Reit, wel, bydd rhaid i ti brynu cwpwl o bethau. Faint o arian sydd gyda ti?
Deg punt. Mwy na digon!
Mae dwy het ym mhob bag, felly rwyt ti angen pedwar pecyn, achos mae dau lluosi â phedwar yn gwneud wyth. Faint bydd hynny’n costio?
Mae wyth lluosi ag un bunt yn gwneud wyth punt.
A faint yw’r, yh… blodfresych?
Saithdeg pump ceiniog.
Ac os rydyn ni’n adio hynny i gyd, mae’n gwneud wyth punt saithdeg pump ceiniog. Os rwyt ti’n talu gyda deg punt, byddi di’n cael newid, achos mae deg punt tynnu wyth punt saithdeg pump yn gwneud un bunt dauddeg pump ceiniog.
Gwych - mae popeth yn barod nawr, felly amser am y canhwyllau.
Yh, na! Rwyt ti i fod i…
Does dim ots – mae’n berffaith.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- adio rhifau syml
- lluosi rhifau syml
- talu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- add simple numbers
- multiply simple numbers
- pay for items up to £10 and calculate the change

Darnau arian a phapurau banc
Mae arian yn cynnwys amrywiaeth o ddarnau arian metel yn ogystal â phapurau neu nodion banc. Rydym naill ai yn gwario arian neu'n ei gynilo.
Os wyt ti'n defnyddio nodion banc neu ddarnau arian i dalu am bethau sy'n costio'n llai na gwerth yr arian, cei di arian yn ôl fel newid.
Er enghraifft, pe baet ti'n prynu cacen sy'n costio £6 gyda phapur £10, byddet ti'n derbyn £4 yn ôl fel newid. Gall newid gael ei roi mewn amrywiaeth o ddarnau arian.

Coins and notes
Money is made up of a selection of metal coins and paper notes. We either spend money or save it up.
If you use notes or coins to pay for things that cost less than the money's value, you get money back as change.
For example, if you were to buy a cake that costs £6 with a £10 note, you would get £4 back in change. Change can be given in a variety of coins.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Lawrlwytha'r linc isod o wefan Twinkl a chyfra faint o arian sydd ym mhob jar.
Download the link from the Twinkl website below and count how much money is in each jar.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Symiau yn ymwneud ag arian.
Sums about money.
- Mae Owain yn prynu llyfr am £1.50 a phren mesur am £2.60. Faint mae e wedi gwario i gyd?
Owain buys a book for £1.50 and a ruler for £2.60. How much has he spent all together?
- Mae Anest yn prynu dwy goeden afalau am £1.95 yr un. Faint mae hi wedi gwario i gyd?
Anest buys two apple trees for £1.95 each. How much has she spent all together?
- Mae Lois yn prynu hances newydd am £5.99 a sgert am £9.99. Faint mae hi wedi gwario i gyd?
Lois buys a new handkerchief for £5.99 and a skirt for £9.99. How much has she spent all together?
- Mae Lloyd yn prynu tegan am £4.99 a sanau am £9.99. Faint o newid fydd e'n ei gael o bapur £20.00?
Lloyd buys a toy for £4.99 and socks for £9.99. How much change will he get from a twenty pound note?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

