
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio iaith ysgrifenedig at ddibenion neu swyddogaethau gwahanol o fewn gweithgareddau dysgu wrth chwarae a dysgu gweithredol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn to use written language for different purposes or functions within play and active learning.
This lesson includes:
- one video
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Kasia yn dweud wrth Elin ei bod hi'n mynd i syrffio - dim ots am y tywydd.
Syrffio mewn tywydd gwahanol
ELIN Hei. S’mai? Sut mae’r tywydd heddiw, Kasia?
KASIA Mae hi’n heulog heddiw felly rydyn ni’n mynd i syrffio. Dere Gel.
Yy-oo, mae hi’n wyntog nawr, Gel.
Mae hi’n wyntog iawn.
ELIN Roedd hi’n rhy wyntog dw i’n credu!
Hei, beth wyt ti’n wneud? Sut mae’r tywydd heddiw, Kasia?
KASIA Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn.
ELIN Bwrw hen wragedd a ffyn?
KASIA Bwrw glaw yn drwm dw i’n feddwl! Ond rydyn ni’n mynd i syrffio.
Dim ots am y glaw. Dere Gel.
ELIN Bwrw glaw yn rhy drwm efallai?
KASIA Dydy e ddim yn ddoniol!
ELIN Na. Dydy o ddim yn ddoniol o gwbl.
Hei, sut mae’r tywydd heddiw, Kasia?
KASIA Roedd hi’n oer iawn y bore ’ma ac mae hi’n bwrw eira nawr.
Brrrr.
ELIN Ydy hi’n rhewi?
KASIA Ydy. Mae popeth wedi rhewi.
Yy-oo. Geeeeeel!
O diâr, mae hi’n dechrau mynd yn niwlog Gel.
Yn niwlog iawn.
Yn niwlog iawn iawn.
ELIN Dw i’n siŵr bydd hi’n braf eto cyn bo hir!
KASIA Ahh, dw i wrth fy modd yn syrffio. Edrycha arna i Gel.
Siarc! Help! Help! Geeeeeel.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee heddiw, gwyntog, bwrw glaw, oer, bwrw eira, rhewi, niwlog, braf, rhy
- strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Sut mae’r tywydd heddiw?, Mae hi'n…, Roedd hi'n…
- adnabod idiom, ee bwrw hen wragedd a ffyn

Gweithgaredd 1
Llusga'r tywydd at y lluniau cywir.

Gweithgaredd 2
Teipia’r gair cywir yn y blwch i gwblhau pob brawddeg.

Gweithgaredd 3
Sut mae'r tywydd heddiw?
Edrycha allan o'r ffenestr. Sut mae'r tywydd heddiw? Ysgrifenna ar bapur sut mae'r tywydd heddiw i ymarfer dy ysgrifen, er enghraifft:
- Mae hi'n braf iawn heddiw.
- Mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn heddiw.
- Mae hi'n rhy oer heddiw.
Cofia gymryd gofal i ddechrau pob brawddeg gyda phrif lythyren a rhoi atalnod llawn ar ddiwedd y frawddeg.
Pan rwyt ti wedi ysgrifennu dy frawddeg, beth am dynnu llun o'r tywydd heddiw?
Gelli di wneud y gweithgaredd hwn bob dydd yr wythnos hon er mwyn nodi'r newid yn y tywydd.

Video
Kasia tells Elin that she's going to go surfing - no matter what the weather.
Syrffio mewn tywydd gwahanol
ELIN Hei. S’mai? Sut mae’r tywydd heddiw, Kasia?
KASIA Mae hi’n heulog heddiw felly rydyn ni’n mynd i syrffio. Dere Gel.
Yy-oo, mae hi’n wyntog nawr, Gel.
Mae hi’n wyntog iawn.
ELIN Roedd hi’n rhy wyntog dw i’n credu!
Hei, beth wyt ti’n wneud? Sut mae’r tywydd heddiw, Kasia?
KASIA Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn.
ELIN Bwrw hen wragedd a ffyn?
KASIA Bwrw glaw yn drwm dw i’n feddwl! Ond rydyn ni’n mynd i syrffio.
Dim ots am y glaw. Dere Gel.
ELIN Bwrw glaw yn rhy drwm efallai?
KASIA Dydy e ddim yn ddoniol!
ELIN Na. Dydy o ddim yn ddoniol o gwbl.
Hei, sut mae’r tywydd heddiw, Kasia?
KASIA Roedd hi’n oer iawn y bore ’ma ac mae hi’n bwrw eira nawr.
Brrrr.
ELIN Ydy hi’n rhewi?
KASIA Ydy. Mae popeth wedi rhewi.
Yy-oo. Geeeeeel!
O diâr, mae hi’n dechrau mynd yn niwlog Gel.
Yn niwlog iawn.
Yn niwlog iawn iawn.
ELIN Dw i’n siŵr bydd hi’n braf eto cyn bo hir!
KASIA Ahh, dw i wrth fy modd yn syrffio. Edrycha arna i Gel.
Siarc! Help! Help! Geeeeeel.
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use particular vocabulary, eg heddiw, gwyntog, bwrw glaw, oer, bwrw eira, rhewi, niwlog, braf, rhy (today, windy, raining, cold, to snow, freezing, foggy, sunny, too)
- structure a sentence using patterns such as, Sut mae’r tywydd heddiw?, Mae hi'n…, Roedd hi'n… (How’s the weather today?, It is…, It was…)
- recognise an idiom, eg bwrw hen wragedd a ffyn (raining cats and dogs - literally: raining old ladies and sticks)

Activity 1
Drag the weather to the correct pictures.

Activity 2
Type the correct word in the box to complete each sentence.

Activity 3
How's the weather today?
Look out of the window. How's the weather today? Write down what the weather is like on a piece of paper to practise your handwriting, for example:
- Mae hi'n braf iawn heddiw. (It's very nice today.)
- Mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn heddiw. (It's raining cats and dogs today.)
- Mae hi'n rhy oer heddiw. (It's too cold today.)
Remember to start each sentence with a capital letter and put a full stop at the end of the sentence.
When you've written your sentence, draw a picture of the weather today.
How about doing this activity every day this week to chart the changes in the weather?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
