
Ffocws dysgu
Dysga ganfod haneri mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to find halves in practical situations.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Gwylia'r fideo a dysga am haneri a chwarteri.
Watch the video and learn about halves and quarters.
Beth yw ffracsiynau?
Pan rwyt ti’n rhannu rhywbeth yn ddau ddarn hafal, rydyn ni’n galw pob darn yn hanner. Ehh - dyna chi dric!
Roeddet ti’n gyfan, a nawr rwyt ti wedi cael dy rannu’n ddau ddarn.
Chwarteri? Dyna pryd mae gwrthrych cyfan yn cael ei rannu’n bedwar darn hafal.
Llwyddiant!
Nawr, rwyt ti wedi cael dy rannu’n bedwar chwarter.
Felly, rwyt ti’n gallu rhannu rhywbeth cyfan yn ddau hanner, neu’n bedwar chwarter.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall bod dau hanner yn gwneud un cyfan
- gwybod bod pedwar chwarter yn gwneud un cyfan
- ymarfer creu haneri a chwarteri wrth blygu papur
Notes for parents
After watching the video, students will:
- understand that two halves make one whole
- know that four quarters make one whole
- be able to practise making halves and quarters by folding paper

Ffracsiynau
Mae ffracsiynau’n cynrychioli rhan o rif cyfan.
Mae dau hanner yn gwneud un cyfan.
Edrycha ar y cylchoedd. Mae'r gacen yn cael ei thorri'n ddau hanner ac mae'r ddau hanner yn gwneud un cyfan.

Fractions
Fractions represent part of a whole number.
Two halves make one whole.
Look at the circles. The cake has been cut into two halves and the two halves make one whole.

Gweithgaredd / Activity
Edrycha ar y siapiau isod. Pa siapiau sydd wedi'u torri yn eu hanner?
Look at the shapes below. Which shapes have been cut in half?


Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
