
Ffocws dysgu
Dysga ddisgrifio safle, cyfeiriad a symudiad.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to describe position, direction and movement.
This lesson includes:
- one video
- two activities
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Gwylia Carter yn dod o hyd i'r tŷ i ddosbarthu'r parsel.
Watch Carter find the house to deliver the parcel.
Cyfeiriadau
RAV Helo, siop anrhegion. Rav yn siarad.
MRS JONES Shwmai? Mrs Jones sy’ ’ma. Allwch chi anfon y parsel wnes i archebu plîs?
RAV Wrth gwrs. Ble ydych chi’n byw, Mrs Jones?
MRS JONES Dw i’n byw yn rhif un, Stad Erw Las.
RAV Dw i ddim yn gwybod ble mae Stad Erw Las. Sut mae cyrraedd Stad Erw Las?
MRS JONES Ewch heibio Mynydd Bach yna trowch i’r dde.
Ewch i lawr y ffordd a heibio Traeth Aur.
Trowch i’r chwith. Mae pwll nofio mawr yno.
Mae eglwys gyferbyn â’r pwll nofio mawr.
Mae Stad Erw Las y tu ôl i’r eglwys.
RAV Diolch, Mrs Jones.
Carter, cer â’r parsel yma i dŷ Mrs Jones plîs.
CARTER Ble mae hi’n byw?
RAV Fe gei di’r cyfarwyddiadau ar y ffordd.
Cer heibio Mynydd Bach a thro i’r dde.
Cer i lawr y ffordd a heibio Traeth Aur.
Tro i’r chwith. Mae pwll nofio mawr yno.
Mae eglwys gyferbyn â’r pwll nofio mawr.
Mae Stad Erw Las y tu ôl i’r eglwys.
CARTER Stad Erw Las?
RAV Mae Mrs Jones yn byw yn rhif un.
CARTER Dw i’n byw yn rhif un!
Mam. Mae Rav yn anfon hwn i ti.
MRS JONES I Gel mae e. Pen-blwydd hapus!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo bydd disgyblion yn gallu:
- dilyn set o gyfarwyddiadau
- defnyddio geirfa fathemategol i ddisgrifio safle
- ymarfer rhoi cyfeiriadau syml i eraill
Notes for parents
After watching the video pupils will be able to:
- follow a set of instructions
- use mathematical vocabulary to describe position
- practise giving simple directions to others

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Clicia ar y ddolen isod a lawrlwytha'r daflen waith o wefan Twinkl. Mae tri gweithgaredd ar gael. Gwna'r daflen gyntaf.
Click on the link below and download the worksheet from the Twinkl website. There are three activities. Do the first worksheet.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Beth am ymarfer rhoi cyfarwyddiadau i bobl eraill? Gallet ti ddechrau o dy dŷ di i wahanol lefydd agos. Tynna lun map o'r daith, fel yn y fideo.
What about practising giving directions to others? You could start from your house to other places close by. Draw a picture and map of the journey, like in the video.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

