
Cynnwys y wers hon
- Un fideo a chyflwyniad yn atgoffa beth ydy idiom a’i bwrpas
- Dau weithgaredd i dy helpu adnabod, cofio a defnyddio idiomau
- Un fideo a gweithgaredd yn dilyn i ymarfer defnyddio idiomau wrth ysgrifennu’n greadigol
Lesson content
- One video and presentation recapping what an idiom is and what purpose they serve
- Two activities to help you recognise, remember and use idioms
- One video and follow up activity to practice using idioms when writing creatively

Fideo 1 / Video 1
Gwylia’r fideo yma gan athrawes yn dy atgoffa o bwrpas idiomau.

Pwrpas defnyddio idiomau
Mae defnyddio idiomau yn:
- ychwanegu lliw at yr hyn sy’n cael ei ddweud
- pwysleisio teimlad, barn neu brofiad
- tynnu sylw at ymddangosiad, cymeriad neu weithgaredd
Mae defnydd effeithiol o idiomau yn nodwedd ddarn o waith o safon uwch.
Adnabod a chofio idiomau
Mae idiomau’n frawddegau gweledol iawn sy’n dy helpu i ychwanegu lliw at stori neu ddisgrifiad bywiog o olygfa.
Un techneg gwych i gofio idiomau’n effeithiol yw i greu darlun yn dy ddychymyg - neu ar bapur - o’r idiom.


Gweithgaredd 1 / Activity 1
Tybed wyt ti’n gallu dyfalu beth yw’r idiomau yma?
Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 1 - Cofio a defnyddio idiomau


Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dylunia lun yr un i gyfleu ystyr chwech idiom hoffet ti eu dysgu gan ddewis o’r rhestr yn y tabl.
Enghraifft - Gwneud fy ngorau glas = llun o gwpan/gwobr chwaraeon lliw glas.
| Idiom | Ystyr | |
|---|---|---|
| Gwneud fy ngorau glas | Ceisio y gorau gallaf wrth wneud rhywbeth | |
| Uchel ei chloch/ei gloch | Hi/fo yn brolio | |
| Ar bigau’r drain | Yn nerfus | |
| Yn wyllt gacwn | Yn flin/yn grac iawn | |
| Gwenu o glust i glust | Yn hapus iawn | |
| Mae hi wedi canu ar… (rywun) | Mae hi drosodd i (rywun) | |
| Fel cynffon buwch | Yn hwyrach na phawb arall | |
| Bwrw hen wragedd a ffyn | Yn arllwys y glaw | |
| Mae dau du i bob dudalen | Mae yna ddwy ochr i bob stori | |
| Dyna’r drwg yn y caws | Dyna beth ydy’r broblem | |
| Troi’n gath yn y badell | Newid y pwnc |
Nawr dy fod wedi creu chwe llun ar gyfer dy chwe idiom, ysgrifenna sgwrs neges destun rhwng dau ffrind am eu penwythnosau gwahanol gan ddefnyddio’r idiomau hynny.
Enghraifft


Fideo 2 / Video 2
Gwylia’r fideo yma o’r cyffro yng Nghaerdydd cyn gêm rygbi rhyngwladol.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Pa bedair idiom gallet ti eu defnyddio i ddisgrifio’r cyffro a’r prysurdeb sydd yn y fideo?
Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 3 - Cofio a defnyddio idiomau

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
