
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio ffeithiau rhif wrth adio i 100.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo i ddysgu cyfri o 1 i 100 mewn unedau a degolion
- dau weithgaredd i helpu gydag unedau a degolion
Learning focus
Learn how to use number facts when adding to 100.
This lesson includes:
- one video to learn how to count from 1 to 100 in units and tens
- two activities to help with units and tens

Fideo / Video
Mae Zac a Zoe yn gwerthu 100 tocyn raffl. Bydd yr enillydd yn ennill cacen enfawr.
Zac and Zoe are selling 100 raffle tickets. The winner will win an enormous cake.
Cyfri 1-100
ZOE Dyma ni! Gwobr gynta’ y raffl!
ZAC Dw i am ddechrau gwerthu tocynnau raffl rŵan!
ZOE Mae’n rhaid rhoi hanner y tocynnau yn y bwced raffl i ddechrau, Zac.
Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg, pum deg, chwe deg, saith deg, wyth deg, naw deg, cant!
Barod!
JERRY Ga’ i dri deg tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Tri deg punt os gwelwch yn dda.
Tri deg tocyn. Pob lwc.
HELEN Ga’ i bedwar deg pedwar tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg tocyn…
…pedwar deg un, pedwar deg dau, pedwar deg tri, pedwar deg
pedwar tocyn. Pedwar deg pedwar punt os gwelwch yn dda.
Pob lwc.
HELEN Sawl tocyn sy’ gyda ni gyda’n gilydd?
JERRY Ym…mae tri deg a phedwar deg pedwar yn gwneud saith deg pedwar.
HELEN Rydyn ni’n mynd i ennill y raffl!
ZOE Sawl tocyn sy’ ar ôl Zac?
ZAC Deg, dau ddeg, dau ddeg un, dau ddeg dau, dau ddeg tri, dau ddeg pedawr, dau ddeg pump, dau ddeg chwech.
ZORA Ga’ i ddau ddeg pump tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Dau ddeg pump punt os gwelwch yn dda.
Pob lwc.
Dim ond un tocyn sy’ ar ôl!
ZOE Dydy’r tocyn yna ddim yn mynd i ennill y raffl. Rho’r tocyn i Gel!
ZAC Mae hi’n amser tynnu’r raffl!
ZOE Rhif cant sy’n ennill!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r animeiddwaith, bydd disgyblion yn gallu:
- deall yn weledol sut mae rhifau yn cynyddu
- cyfrif mewn degau ac unedau hyd at 100
- defnyddio'r gair 'sawl' yn gywir
Notes for parents
After watching the animation, students will be able to:
- visualise how numbers increase
- count in tens and units up to 100
- use the word sawl (how many) correctly as an alternative to faint (how many)

Gweithgaredd 1 /Activity 1
Wyt ti'n gallu gwneud y symiau hyn?
Are you able to do these sums?
- 30 + 44 = ______
- 25 + 5 = ______
- 40 + 12 = ______
- 64 + 10 = ______

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Wyt ti'n gallu creu set o docynnau raffl fel sydd yn y fideo?
Can you make a set of raffle tickets like in the video?
Beth am gynnal raffl gyda'r teulu? Beth wyt ti am roi fel gwobr i'r person sy'n ennill? Tegan, ffrwyth neu flodyn o'r ardd efallai? Mi gei di benderfynu!
How about holding a raffle for your family. What are you going to give to the winner? A toy, a piece of fruit or a flower from thegarden perhaps? You decide!

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
