
Ffocws dysgu
Dysga gyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig i adio rhifau 3 digid drwy ddefnyddio dull meddwl neu ysgrifenedig priodol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn to calculate using mental and written methods to add 3-digit numbers using an appropriate mental or writtenmethod.
This lesson includes:
- one video
- three activites

Fideo / Video
Mae Jerry ac Albert yn cadw gwenyn! Defnyddia adio i weld faint sydd ganddynt.
Jerry and Albert keep bees! Use addition to find out how many they've got.
Sut i adio gan ddefnyddio colofnau
Do ni'm yn gwbod bo ti'n cadw gwenyn Jerry?
Faint sy' da ti?
Dau gant a thri deg dau.
Drych! Ma Albert wedi dod o hyd i fwy i ti!
A, dyna ni! 95 yn fwy o wenyn i dy gwch gwenyn.
Felly, faint sy gen ti i gyd nawr?
A, paid â phoeni, gallwn ni ddefnyddio colofnau rhif.
Gallwn ddefnyddio colofnau rhif i adio rhifau mawr at ei gilydd yn rhwydd.
Ry ni'n gwneud hyn trwy rannu'r sym mewn i golofnau gwerth lle…
…ac yna'n adio'r digidau ym mhob colofn ar wahân.
Yr unedau yn gyntaf. Sef pump a dau yn y sym yma.
Trwy adio'r digidau yna ry ni'n cael saith.
Saith yw digid olaf ein cyfanswm ni.
Reit te! Ymlaen at y degau.
Mae adio naw a thri yn rhoi 12 i ni.
Mae'r rhif yma'n cynnwys dau ddigid.
Un deg, a dwy uned.
Pan fo hyn yn digwydd rwyt ti'n cymryd yr unedau a'u rhoi nhw yn ein cyfanswm terfynol.
A chario'r degau draw mewn i'r sym nesaf.
Dim ond un digid sydd gyda ni yng ngholofn y cannoedd felly ry ni'n adio'r digid sy di cael ei gario draw at hwnna.
Bwm! Ry ni di cyfrifo bo da ti 327 o wenyn yn y cwch!
Gyda help colofnau rhif.
Ti'n gweld Albert? Dyw nhw ddim i'w hofni.
A ym, o'r gore. Dim problem, ym…
Rhed!
Nodiadau i rieni
- Rhaid gwahanu’r digidau mewn i golofnau gwerth lle. Hynny yw, yn y rhif 232, mae 2 o unedau, 3 o ddegau a 2 o gannoedd. Wrth wahanu 95 i golofnau gwerth lle, mae 5 o unedau a 9 o ddegau.
- Yna, rhaid adio pob colofn gan ddechrau gyda’r unedau.
- Wrth adio, os ydym yn cael cyfanswm sy’n uwch na 9, rhaid i ni roi’r unedau mewn ac yna cario’r degau ar draws i’r golofn nesaf ar y chwith.
- Os taw dim ond un digid sydd yng ngholofn y cannoedd, rhaid cofio adio hwn gyda’r degau wnaethom gario ar draws eisoes.
Notes for parents
- We must separate the digits into place value columns. Therefore, with the number 232, we have 2 units or ones, 3 tens and 2 hundreds. When we separate 95, we have 5 units or ones and 9 tens.
- Then, you should add each column, starting with the units.
- When adding, if we get a total greater than 9, we must put the units in as normal but carry the tens digit across one place to the left.
- If you only have one digit left in a column, just remember to add it to the tens digit you carried across.


Wrth ysgrifennu symiau, gwahana’r rhifau’n unedau, degau, cannoedd a miloedd. Rhestra’r rhifau mewn colofn a dechreua drwy adio’r unedau’n gyntaf bob tro.
- Amcangyfrifa’n gyntaf a gwirio wedyn – mae’n syniad da amcangyfrif yr ateb yn gyntaf ac wedyn gwirio dy ateb go iawn.
- Does dim ots am y drefn – cofia fod 345 + 129 yr un fath â 129 + 345.
- Geiriau allweddol – cadwa lygad allan am y geiriau hyn mewn problemau, achos mae’r rhain i gyd yn arwydd bod angen adio:
- cyfanswm
- swm
- gyda’i gilydd
- mwy
When writing down sums, separate the numbers into ones, tens, hundreds and thousands. List the numbers in a column and always start adding with the ones first.
- Estimate first and check afterwards - it's a good idea to estimate a rough answer first and then check your actual answer.
- Order doesn't matter - remember that 345 + 129 is the same as 129 + 345.
- Key words - look out for these words in problems because they all indicate an addition calculation:
- total
- sum
- altogether/together
- more


Gweithgaredd 1 / Activity 1
Datrysa’r broblem adio.
Solve the addition problem.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Datrysa’r broblem adio.
Solve the addition problem.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Datrysa’r broblem adio.
Solve the addition problem.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
