
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio geirfa addas wrth chwarae ac mewn gweithgareddau strwythuredig a sefyllfaoedd ffurfiol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use appropriate vocabulary when playing and in structured activities and formal situations.
This lesson includes:
- one video
- three activities

For an English version of this lesson, scroll below.
Fideo
Mae Rhys yn nôl llawer o grysau-t gwahanol liw i Anna eu trio ymlaen.
Crysau-t lliwgar
ANNA Dw i eisiau prynu crys-t newydd.
RHYS Beth ydy dy hoff liw, Anna?
ANNA Dw i ddim yn siŵr iawn, ond dw i’n hoffi coch.
RHYS Wyt ti’n hoffi hwn?
ANNA Ymmm…Dw i am drio’r crys-t yn yr ystafell newid.
Dydw i ddim yn hoffi’r crys-t coch achos dydy e ddim yn ffitio.
RHYS Wyt ti eisiau trio crys-t lliw arall?
ANNA Ydw plîs. Un melyn ac un gwyrdd efallai?
RHYS Pa liw wyt ti’n hoffi? Melyn? Gwyrdd?
ANNA Dw i’n hoffi’r ddau!
RHYS Wel? Wyt ti am brynu un o’r crysau-t?
ANNA Na. Dw i eisiau trio crys-t porffor plîs.
RHYS Dyma grys-t porffor gyda seren lwyd.
ANNA Diolch.
Dw i eisiau trio lliwiau eraill, Rhys!
RHYS Gwyn fel yr eira.
Du fel y nos.
Glas fel y môr.
Oren fel…wel, oren.
Pa liw wyt ti’n hoffi orau, Anna?
Anna!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- defnyddio berfenwau a phatrymau gramadegol cywir i fynegi barn ar lafar, er enghraifft dw i eisiau…, dw i'n hoffi…
- amrywio ffordd o fynegi barn ar lafar, er enghraifft dw i am… ar gyfer dw i eisiau…
- defnyddio ystod o liwiau yn hyderus, er enghraifft coch, melyn, gwyrdd, gwyn, du, glas, oren
- defnyddio cymariaethau, er enghraifft glas fel y môr, du fel y nos

Gweithgaredd 1
I egluro beth yw dy hoff liw, dyweda:
- Fy hoff liw ydy…
- Fy hoff liw yw…
I egluro beth yw hoff liw pobl eraill, dyweda er enghraifft:
- Hoff liw Dad ydy…
- Hoff liw Dad yw…
Gwna arolwg o dy ffrindiau ac aelodau'r teulu, drwy nodi ar bapur beth yw hoff liw pob person. Paid ag anghofio nodi dy hoff liw dy hun! Wedyn, darllena'r canfyddiadau ar goedd i ffrind.
Os wyt ti eisiau, beth am ofyn i bobl roi'r rheswm eu bod mor hoff o'u hoff liw, er enghraifft:
- Hoff liw Mam ydy glas, achos mae hi'n cefnogi tîm pêl-droed Caerdydd.
- Fy hoff liw i yw gwyn, fel yr eira.

Gweithgaredd 2
Beth am ail-greu'r senario siop o'r fideo, drwy arddangos nifer o eitemau gwahanol liw, er enghraifft dillad, esgidiau, tegannau, bwyd, pensiliau, blodau, - yn wir, unrhyw beth rwyt ti eisiau!
Bydd rhaid gofyn i rywun arall chwarae gyda ti. Bydd angen i un ohonoch fod yn berchennog y siop a bydd rhaid i'r llall fod yn gwsmer.
Dylai'r cwsmer ofyn am, a rhoi barn ar y gwahanol eitemau yn y siop, er enghraifft:
- Ga i afal coch os gwelwch yn dda?
- Ga i drowsus melyn os gwelwch yn dda?
- Dw i ddim yn hoffi'r crys glas. Oes crys mewn lliw arall?
Cofia gyfnewid rôl fel dy fod yn chwarae rôl y perchennog a'r cwsmer.

Gweithgaredd 3
Oeddet ti'n gwybod bod modd creu lliw newydd drwy gymysgu dau liw gyda'i gilydd?
Defnyddia baent i gymysgu'r lliwiau isod gyda'i gilydd. Pa liwiau newydd wyt ti wedi eu creu?
- glas + melyn =
- coch + glas =
- gwyn + coch =
- coch + melyn =
- du + gwyn =

Video
Rhys fetches lots of different coloured t-shirts for Anna to try on.
Crysau-t lliwgar
ANNA Dw i eisiau prynu crys-t newydd.
RHYS Beth ydy dy hoff liw, Anna?
ANNA Dw i ddim yn siŵr iawn, ond dw i’n hoffi coch.
RHYS Wyt ti’n hoffi hwn?
ANNA Ymmm…Dw i am drio’r crys-t yn yr ystafell newid.
Dydw i ddim yn hoffi’r crys-t coch achos dydy e ddim yn ffitio.
RHYS Wyt ti eisiau trio crys-t lliw arall?
ANNA Ydw plîs. Un melyn ac un gwyrdd efallai?
RHYS Pa liw wyt ti’n hoffi? Melyn? Gwyrdd?
ANNA Dw i’n hoffi’r ddau!
RHYS Wel? Wyt ti am brynu un o’r crysau-t?
ANNA Na. Dw i eisiau trio crys-t porffor plîs.
RHYS Dyma grys-t porffor gyda seren lwyd.
ANNA Diolch.
Dw i eisiau trio lliwiau eraill, Rhys!
RHYS Gwyn fel yr eira.
Du fel y nos.
Glas fel y môr.
Oren fel…wel, oren.
Pa liw wyt ti’n hoffi orau, Anna?
Anna!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- use verbal nouns and grammatical patterns to express opinion when speaking, for exampledw i eisiau…, dw i'n hoffi… (I want…, I like…)
- vary how to express an opinion in speech, for exampledw i am…in place ofdw i eisiau… (I want)
- confidently use a range of vocabulary for different colours, for examplecoch, melyn, gwyrdd, gwyn, du, glas, oren (red, yellow, green, white, black, blue, orange)
- use comparisons, for exampleglas fel y môr, du fel y nos (blue like the sea, black like the night)

Activity 1
To explain what your favourite colour is, say:
- Fy hoff liw ydy… (My favourite colour is…)
- Fy hoff liw yw… (My favourite colour is…)
To explain what other people's favourite colour is, say for example:
- Hoff liw Dad ydy… (Dad's favourite colour is…)
- Hoff liw Dad yw… (Dad's favourite colour is…)
Carry out a survey with your friends and family, by noting down what each person's favourite colour is. Don't forget to include yourself! Then read out your findings to a friend.
If you like, why not ask people to give a reason for why they like their favourite colour so much, for example:
- Hoff liw Mam ydy glas, achos mae hi'n cefnogi tîm pêl-droed Caerdydd. (Mam's favourite colour is blue, because she supports the Cardiff football team.)
- Fy hoff liw i yw gwyn, fel yr eira. (My favourite colour is white like the snow.)

Activity 2
How about recreating the shop scenario from the video and displaying a number of different items of different colours, for example clothes, shoes, toys, food, pencils, flowers - in fact, anything you want!
You'll have to ask someone else to play with you. One of you will need to be the shopkeeper and the other will need to be the customer.
The customer should ask for, as well as give an opinion on the different items in the shop, for example:
- Ga i afal coch os gwelwch yn dda? (May I have a red apple please?)
- Ga i drowsus melyn os gwelwch yn dda? (May I have yellow trousers please?)
- Dw i ddim yn hoffi'r crys glas. Oes crys mewn lliw arall? (I don't like the blue shirt. Is there a shirt in another colour?)
Remember to swap roles so that you play the role of both the shopkeeper and the customer.

Activity 3
Did you know that you can create a new colour by mixing two colours together?
Use paint to mix the colours below together. What new colours have you created?
- glas + melyn (blue + yellow) =
- coch + glas (red + blue) =
- gwyn + coch (white + red) =
- coch + melyn (red + yellow) =
- du + gwyn (black + white) =

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
