
Ffocws dysgu
Dysga gyfrif mewn grwpiau o ddeg.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to count in groups of ten.
This lesson includes:
one video
two activities

Fideo / Video
Gwylia Zac a Zoe yn cyfri i 100 wrth iddyn nhw werthu tocynnau raffl.
Watch Zac and Zoe count to 100 whilst they sell raffle tickets.
ZOE Dyma ni! Gwobr gyntaf y raffl!
ZAC Dw i am ddechrau gwerthu tocynnau raffl rŵan!
ZOE Mae’n rhaid rhoi hanner y tocynnau yn y bwced raffl i ddechrau, Zac. Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg, pum deg, chwe deg, saith deg, wyth deg, naw deg, cant! Barod!
JERRY Ga’ i dri deg tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Tri deg punt os gwelwch yn dda. Tri deg tocyn. Pob lwc.
HELEN Ga’ i bedwar deg pedwar tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg tocyn…
…pedwar deg un, pedwar deg dau, pedwar deg tri, pedwar deg pedwar tocyn. Pedwar deg pedwar punt os gwelwch yn dda. Pob lwc.
HELEN Sawl tocyn sydd gyda ni gyda’n gilydd?
JERRY Ym…mae tri deg a phedwar deg pedwar yn gwneud saith deg pedwar.
HELEN Rydyn ni’n mynd i ennill y raffl!
ZOE Sawl tocyn sydd ar ôl Zac?
ZAC Deg, dau ddeg, dau ddeg un, dau ddeg dau, dau ddeg tri, dau ddeg pedwar, dau ddeg pump, dau ddeg chwech.
ZORA Ga’ i ddau ddeg pump tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Dau ddeg pump punt os gwelwch yn dda. Pob lwc. Dim ond un tocyn sydd ar ôl!
ZOE Dydy’r tocyn yna ddim yn mynd i ennill y raffl. Rho’r tocyn i Gel!
ZAC Mae hi’n amser tynnu’r raffl!
ZOE Rhif cant sy’n ennill!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- cyfrif mewn degau ac unedau hyd at 100
- adio degau at ei gilydd
- deall yn weledol sut mae rhifau yn cynyddu
Notes for parents
After watching the video, pupils will be able to:
- count in tens and units up to 100
- add tens together
- visualise how numbers increase

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Cwblha'r patrwm rhif drwy lenwi'r blychau. Cofia ddilyn y rheol, sef adio 10 bob tro.
Complete the number pattern by filling in the blanks. Remember to follow the rule, which is to add 10 each time.
| Rhif (Number) | Adio 10 (Add 10) | Adio 10 (Add 10) | Adio 10 (Add 10) | Adio 10 (Add 10) | Adio 10 (Add 10) |
|---|---|---|---|---|---|
| 6 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 15 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 23 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 36 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 44 | __ | __ | __ | __ | __ |

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Cwblha'r patrwm rhif drwy lenwi'r blychau. Cofia ddilyn y rheol.
Complete the number pattern by filling in the blanks. Remember to follow the rule.
| Rhif (Number) | Tynnu 10 (Minus 10) | Tynnu 10 (Minus 10) | Tynnu 10 (Minus 10) | Tynnu 10 (Minus 10) | Tynnu 10 (Minus 10) |
|---|---|---|---|---|---|
| 97 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 84 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 61 | __ | __ | __ | __ | __ |
| 75 | __ | __ | __ | __ | __ |
| __ | 82 | __ | __ | __ | __ |

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
