
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio ieithwedd unedau imperial a ddefnyddir yn feunyddiol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to use the language of imperial units in daily use.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Esboniad o fesuriadau imperialaidd.
Beth yw mesuriadau imperialaidd?
Ry ni i gyd yn dysgu sut i ddefnyddio mesuriadau metrig.
Ond cyn bod mesuriadau metrig wedi cael eu dyfeisio ro ni'n defnyddio'r system imperialaidd.
Ac ry'n ni'n dal i ddefnyddio rhai o'r mesuriadau hynny.
Er enghraifft, pa mor dal yw'r adeiladwr? Chwe troedfedd?
Chwe troedfedd wedes i, dim chwe troed!
Mae'n chwe troedfedd o uchder sy'n hen ffordd o fesur hyd - troedfeddi a modfeddi.
Gallwn ei fesur, hefyd, gan ddefnyddio centimetrau.
Mae chwe troedfedd yr un peth â 183 centimetr.
Dewch i weld faint mae'n ei bwyso mewn pwysi, mesur imperial ar gyfer pwysau.
Mae pwys ychydig yn llai na hanner cilo, felly mae e'n pwyso 185 pwys.
Gawn ni ddefnyddio'r system fetrig plis?
O'r gorau… 84 cilo.
Ffîw!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn deall y canlynol:
- Cyn defnyddio unedau metrig, roedden ni'n defnyddio’r system imperialaidd.
- Mae troedfeddi a modfeddi yn hen ffordd o fesur hyd. Mae 6 troedfedd yr un peth â 183 cm.
- Mae pwys (lb) a chilo (kg) yn hen ffordd o fesur pwysau. Mae un pwys tipyn bach yn llai na hanner cilo. Mae 185 pwys yr un peth â 84 kg.
Notes for parents
After watching the video, students will understand the following:
- Before using the metric system, we used the imperial measuring system.
- Feet and inches are the old way of measuring length. 6 feet is the same as 183 cm.
- Pounds (lb) and kilos (kg) are the old way of measuring weight. One pound is a little less than half a kilo. 185 pounds is the same as 84 kg.

Hen unedau mesur hyd yw milltiroedd, troedfeddi a modfeddi. Mae rhain yn cael eu galw'n unedau hyd imperial ond dydyn nhw ddim fel arfer yn cael eu defnyddio mewn mathemateg erbyn hyn.
- Mae 12 modfedd mewn troedfedd.
- Mae modfedd yn hafal i tua 2.5 centimetr.
- Mae troedfedd yn hafal i tua 30 centimetr.
- Mae milltir yn hafal i tua 1.6 cilometr.

Gweithgaredd / Activity
Dewisa’r mesuriadau imperial gan ddefnyddio’r bathodyn.
Select the imperial measurements using the badge.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
