
Ffocws dysgu
Dysga sut i gyfri i ddeg.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to count to ten.
This lesson includes:
- one video
- two activities
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Mae tri ffrind yn cyfri i ddeg wrth iddyn nhw groesi'r afon.
Three friends count to ten as they cross the river.
Cyfri 1-10
ANNA Dw i eisiau croesi yn gynta’ achos dw i eisiau cyrraedd y gwersyll yn gynta’.
Un, dau, tri…
Eh? Hwyaden?!
O, mae’r dŵr yn oer!
CHARLIE Dw i eisiau croesi yn gynta’ achos dw i eisiau cyrraedd y gwersyll yn gynta’!
Un, dau, tri…
Eh…Pedwar…
Pump, chwech…saith…
Dyfrgi?!
O, mae’r dŵr yn oer iawn!
BETHAN Ym, dw i eisiau croesi yn gynta’ achos dw i eisiau cyrraedd y gwersyll yn gynta’.
ANNA/CHARLIE Wnei di byth groesi!
BETHAN Un, dau, tri…
Pedwar…
Pump, chwech….
Saith…
Wyth, naw, deg!
Hwrê! Fi yw’r cynta’ i groesi! Fi fydd y cynta’ i gyrraedd y gwersyll!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
cyfri yn hyderus o un i ddeg yn Gymraeg
ysgrifennu'r rhifau 1 - 10 ar bapur
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
count confidently from one to ten in Welsh
write the numbers 1 to 10 down on paper

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl a lliwia'r nifer cywir o wrthrychau ym mhob rhes. Os nad oes argraffydd gyda ti, beth am ofyn i rywun dy helpu i greu dy daflen dy hun?
Download the worksheet from the Twinkl website and colour the correct number of objects in each row. If you don't have a printer, how about asking someone at home to help you make your own worksheet?

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Gyda chaniatâd a chymorth oedolyn, chwilia a chasgla ddeg gwrthrych o gwmpas y tŷ a'u rhoi nhw i gyd mewn pentwr. Mae'r gwrthrychau yn gallu bod yn deganau, llyfrau, neu unrhyw beth sydd ddim yn fregus. Wedyn, un ar y tro, cyfra'r gwrthrychau o un i ddeg.
Pan rwyt ti wedi gorffen, wyt ti'n gallu cyfri yn ôl o ddeg i un?
With an adult's help and permission, look for and collect ten objects around the house and place them in a pile together. The objects can be toys, books, or anything that isn't fragile. Then, one at a time, count the objects from one to ten.
When you have finished, can you count back from ten to one?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

