Cyflwyniad llafar - Cranogwen

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Gwybodaeth ar strwythur ac arddull cyflwyniad llafar
  • Un gweithgaredd yn ymarfer berfau gorchmynnol
  • Un fideo ar Cranogwen, sydd yn sail i weithgaredd
  • Un gweithgaredd i ymarfer creu cyflwyniad

Lesson content

  • An introduction to the style and structure of an oral presentation
  • One activity on imperative verbal forms
  • One video on Cranogwen, which will form the basis of an activity
  • One activity to practise formatting a presentation
Llinell / Line

Rhoi cyflwyniad

Mae’r gallu i gyflwyno syniad i dy gyd-ddisgyblion yn sgil bwysig.

Dyma drefn syml i ti ei dilyn i greu cyflwyniad:

  • agoriad cadarn – dyma'r ffordd i ddenu sylw’r gynulleidfa o’r eiliad gyntaf

  • prif gorff y cyflwyniad – rhaid cynnwys gwybodaeth a ffeithiau diddorol yn y darn hwn, felly cofia ymchwilio’n iawn i’r testun

  • casgliad i gloi – ceisia grynhoi beth rwyt ti wedi ei ddweud ym mhrif gorff dy gyflwyniad mewn paragraff byr ar y diwedd

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i fynd ati yn y wers Cyflwyniad llafar.

Arddull cyflwyniad

Bydd angen i ti gofio cyfeirio at y gynulleidfa fel ‘chi’, ee:

  • oeddech chi’n gwybod?..
  • meddyliwch am hyn….
  • a ydych chi’n teimlo bod….
  • fe glywoch fod….

Y rheswm am hyn yw:

  • mae mwy nag un person yn rhan o gynulleidfa, felly mae angen defnyddio ffurf luosog y ferf
  • fyddi di ddim o angenrheidrwydd yn adnabod pawb yn y gynulleidfa, felly mae angen defnyddio iaith ffurfiol gyda phobl nad wyt yn eu hadnabod

Ffurfiau berfol 'ti' a 'chi'

Ti (ffurf anffurfiol)

I greu berfau gyda'r ffurf anffurfiol/unigol, rhaid i ti ychwanegu -a at fôn y ferf:

  • cerdded: cerdd____+ a > cerdda
  • penderfynu: penderfyn____ + a > penderfyna
  • cysgu: cysg____ + a > cysga

Os yw berfau’n gorffen â -io, mae angen cadw’r i ar gyfer bôn y ferf:

  • ceisio: ceisi____+ a > ceisia
  • gweithio: gweithi____ + a > gweithia

Weithiau bydd angen ychwanegu -a at ddiwedd berfenw:

  • siarad: siarad____ + a > siarada
  • eistedd: eistedd____ + a > eistedda

Chi (ffurf ffurfiol/lluosog)

I greu berfau gyda'r ffurf ffurfiol/lluosog, rhaid ychwanegu -wch at fôn y ferf:

  • cerdded: cerdd____+ wch > cerddwch
  • penderfynu: penderfyn____ + wch > penderfynwch
  • cysgu: cysg____ + wch > cysgwch

Os yw berfau’n gorffen â -io, mae angen cadw’r i ar gyfer bôn y ferf:

  • ceisio: ceisi____+ wch > ceisiwch
  • gweithio: gweithi____ + wch > gweithiwch

Weithiau bydd angen ychwanegu -wch at ddiwedd berfenw:

  • siarad: siarad____ + wch > siaradwch
  • eistedd: eistedd____ + wch > eisteddwch

Wrth roi cyflwyniad, mae beth sydd gen ti i’w ddweud yn bwysig wrth gwrs, ond cofia hefyd fod angen:

  • siarad yn glir ac yn eglur - bydd angen i'r gynulleidfa glywed a deall pob gair
  • sefyll yn gadarn ac yn syth fel bod y gynulleidfa yn cymryd sylw ohonot
  • bob hyn a hyn, cerdda yn ôl ac ymlaen ar y llwyfan er mwyn sicrhau bod pawb yn medru dy weld a dy glywed
  • dal llygad aelodau o'r gynulleidfa, yn enwedig os wyt ti am bwysleisio ffaith arbennig neu holi cwestiwn sy'n mynd i brocio'r cydwybod
  • mwynhau’r profiad!
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Defnyddia’r rheolau uchod i dy helpu i lenwi’r tabl.

BerfenwFfurf 'chi' (ffurfiol/lluosog)Ffurf 'ti' (anffurfiol/unigol)
Teimlo
Penderfynu
Edrych
Ystyried
Meddwl
Gwrando
Gwylio
Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia’r fideo yma am hanes Cranogwen, sef un o fenywod amlycaf Cymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dychmyga dy fod wedi cael dy wahodd i wneud cyflwyniad ar Cranogwen o flaen criw o dy gyd-ddisgyblion. Mae disgwyl i ti sôn am ei bywyd a’i doniau.

Ysgrifenna dy gyflwyniad ohoni ar sail y wybodaeth yn y ffilm gan gofio bod angen:

  • agoriad bachog
  • cyflwyniad sy’n llawn gwybodaeth a ffeithiau
  • diweddglo cadarn sy’n crynhoi
  • cyfeirio at y darllenydd fel ‘chi’

Her: Cer ati i greu cyflwyniad pwerbwynt i gyd-fynd gyda dy gyflwyniad a rho gynnig ar gyflwyno’r testun o flaen teulu a ffrindiau.

Llinell / Line

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn:

  • deall sut i strwythuro cyflwyniad syml
  • medru ysgrifennu cyflwyniad yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael yn fideo Cranogwen
  • ymwybodol o gynulleidfa ac yn medru cyfeirio ati’n briodol

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • understand how to structure a simple presentation
  • write a presentation based on the information given in the video of Cranogwen
  • refer to their audience appropriately

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU