
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i egluro beth yw ansoddair a sut i ddefnyddio ansoddeiriau
- Un fideo, sy'n cynnwys gweithgareddau i'w cyflawni, i egluro am ansoddeiriau a'u defnydd
- Dau weithgaredd rhyngweithiol ar ddefnydd ansoddeiriau
Lesson content
- One introduction explaining what adjectives are and how to use them
- One video, which includes activities within it, explaining what adjectives are and how to use them
- Two interactive activities on the use of adjectives

Beth yw ansoddair?
Mae ansoddair yn disgrifio enw. Yn Gymraeg, mae ansoddeiriau fel arfer yn dilyn yr enw.
Yn yr enghreifftiau ‘y llyfr coch’ neu ‘y llyfr trwm’, mae ‘coch’ yn dilyn yr enw ac yn disgrifio lliw y llyfr, ac mae ‘trwm’ yn dilyn yr enw ac yn disgrifio pwysau’r llyfr.
Treiglo ansoddeiriau ar ôl enwau benywaidd
Yn Gymraeg, mae enwau yn naill ai:
- gwrywaidd, ee bachgen, llyfr, ci
- benywaidd, ee merch, coeden, cath
Rhaid treiglo’r ansoddair yn feddal os yw’r ansoddair yn dilyn enw benywaidd, ee:
- merch + dewr > merch ddewr
- coeden + mawr > coeden fawr
- cath + cariadus > cath gariadus
Trefn ansoddeiriau
Weithiau mae rhai ansoddeiriau yn dod o flaen enw yn Gymraeg.
Pan mae’r ansoddair yn cael ei roi o flaen enw, rhaid defnyddio’r treiglad meddal ar gyfer yr enw, ee:
- hen + llyfr > hen lyfr
- hen + tŷ > hen dŷ
- gwahanol + pobl > gwahanol bobl
Cyffelybiaeth
Mae cyffelybiaeth yn cael ei defnyddio er mwyn cymharu un peth â pheth arall. Gair arall am gyffelybiaeth yw cymhariaeth.
Bydd cyffelybiaeth yn cael ei defnyddio mewn disgrifiad er mwyn i ni allu deall mwy am y ddelwedd sy'n cael ei disgrifio.
Ar gyfer adnabod cyffelybiaeth mewn darn ysgrifenedig, chwilia am y geiriau:
- fel
- megis
- mor … â…

Fideo / Video
Gwylia'r wers gan athrawes Gymraeg sy'n egluro mwy am ansoddeiriau.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- adolygu ansoddeiriau
- treiglo ansoddeiriau yn gywir ar ôl 'yn'
- dechrau defnyddio cyffelybiaethau
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- revise adjectives
- mutate adjectives correctly after 'yn'
- start to use comparisons

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Dyma enghraifft o baragraff yn ein perswadio i fynd i fwyty newydd. Uwcholeua’r ansoddeiriau yn y darn.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Darllena'r adolygiad ffilm canlynol, ac uwcholeua'r ansoddeiriau.

Cwis
Faint wyt ti wedi’i ddysgu am ansoddeiriau?
Ceisia wneud y cwis canlynol i brofi dy hun.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
