
Cynnwys y wers hon
- Sut mae’r galon yn pwmpio’r gwaed o gwmpas y corff
- Sut mae cyhyrau a chymalau yn ei gwneud hi’n bosib i ni symud
Lesson content
- How the heart pumps blood around the body
- How muscles and joints make it possible for us to move

Y galon a'r gwaed

Mae'r galon yn organ bwysig iawn. Mae'n pwmpio'r gwaed o amgylch y corff.
Mae pibellau gwaed yn cario gwaed o amgylch y corff.
Mae rhydwelïau yn cario gwaed o'r galon i organau eraill. Y tu mewn i'r organau, mae'r rhydwelïau yn rhannu'n bibellau llai o'r enw capilarïau.
Mae gwythiennau yn cario gwaed o'r capilarïau yn ôl i'r galon.
Mae gwaed yn cylchredeg yn y corff drwy'r rhydwelïau a'r gwythiennau.

Curiad y galon
Gwaed yn cael ei bwmpio gan y galon drwy'r rhydwelïau ydy curiad y galon.
Mae'r curiad (pwls) yn rhoi mesur o gyfradd curiad y galon (pa mor gyflym mae'r galon yn curo).
Tua 70 curiad pob munud yw cyfradd curiad dy galon pan rwyt ti'n gorffwys.
Mae'r galon yn curo yn gyflymach yn ystod ymarfer corff ac rwyt ti'n anadlu'n gyflymach.

Cymalau a chyhyrau
Rwyt ti angen cymalau a chyhyrau i symud. Y man lle mae dau asgwrn yn cwrdd ydy cymal.
Mae cyhyrau yn sownd wrth esgyrn. Gallan nhw ond cyfangu (byrhau) neu ymlacio (mynd nôl i'w maint gwreiddiol). Maen nhw'n tynnu ar esgyrn wrth iddyn nhw gyfangu. Maen nhw'n gweithio mewn parau.

Cofia
Dydy cyhyrau byth yn ymestyn a byth yn gwthio.

Cwis / Quiz
Faint wyt ti wedi ei ddysgu? Rho gynnig ar y cwis hwn!

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
