
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i ysgrifennu erthyglau
- Tri gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu erthyglau
Lesson content
- One introduction to writing articles
- Three activities to practise writing articles

Beth yw erthygl?
Pwrpas erthygl yw trafod rhywbeth sydd wedi digwydd neu adrodd hanes, fel arfer heb fynegi barn ar y cynnwys.
Mae papurau newyddion yn cyhoeddi erthyglau, ond gelli di gael hyd i erthyglau ar-lein, mewn cylchgronau ac hefyd mewn papurau academaidd.
Bwriad erthygl yw cynnig gwybodaeth gyflawn am ddigwyddiad neu sefyllfa i’r darllenydd, hynny yw, ateb y cwestiynau canlynol - pwy, ble, pryd, beth a pham?
Darn o ysgrifen ffurfiol yw erthygl, gyda naws broffesiynol iddi. Gall erthygl gynnwys lluniau, is-deitlau a dyfyniadau gan wahanol ffynonellau, a hyd yn oed tystiolaeth llygad-dyst am ddigwyddiad.Mae erthygl dda yn cynnwys digon o fanylion ac yn crynhoi’r prif ddigwyddiadau pwysig.Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu erthygl:
- ffurf - ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu, ee erthygl
- cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu, ee plant, oedolion, dynion, menywod?
- pwrpas - pam wyt ti’n ysgrifennu, ee i gyhoeddi, adrodd, adolygu?
- arddull - sut wyt ti’n ysgrifennu, ee ffurfiol, difrifol, ffeithiol?
- cynnwys – beth wyt ti’n ysgrifennu, ee adrodd digwyddiadau’n glir, ffeithiol ac yn ddiduedd, safbwyntiau eraill?
Mathau o erthyglau
Mae sawl math gwahanol o erthygl, ee:
- cylchgrawn
- papur newydd
- erthygl ar y we
- erthygl academaidd
Iaith ac arddull
Rhaid cofio’r nodweddion canlynol wrth ysgrifennu erthygl.
- Dewis pennawd trawiadol.
- Dweud beth sydd wedi digwydd yn syml, yn drefnus ac yn glir.
- Defnyddio disgrifiadau ffeithiol a defnydd da o ansoddeiriau a chymariaethau.
- Rhaid ateb y cwestiynau: pwy? beth? ble? pryd? pam? sut?
- Gall erthygl fod wedi cael ei hysgrifennu yn y presennol neu’r gorffennol.
- Rhaid ysgrifennu’r erthygl yn y trydydd person, ee ef, hi, nhw, ei, eu.
- Mae angen i ti ddefnyddio berfau amhersonol, ee gwelwyd, darllenwyd.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Darllena’r enghraifft o erthygl papur newydd isod, yna ateba’r cwestiynau yma:
- Pwy?
- Ble?
- Pryd?
- Pam?
- Sut?
Wrecsam yn Ennill
Ionawr 23, 2016
Wrecsam 3–1 Lincoln
Daeth rhediad gwael Wrecsam i ben gyda buddugoliaeth dros Lincoln ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Doedd y Dreigiau heb ennill mewn pedair gêm yn y Gynghrair Genedlaethol cyn ymweliad Lincoln ond roedd goliau York, Jennings a Heslop yn ddigon i ddod â’r rhediad hwnnw i ben.
Rhoddwyd yr ymwelwyr ar y blaen gan Matt Rhead yn y chwarter awr cyntaf yn dilyn trosedd Rhys Taylor ar Jack Muldoon.
Roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl, serch hynny, diolch i beniad Wes York o groesiad Connor Jennings.
Jennings ei hun sgoriodd i roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, yn manteisio wedi i Paul Farman yn y gôl wneud smonach o groesiad Dominic Vose.
Cafodd Lincoln gyfleoedd wedi hynny ond roedd Taylor yn cael gêm dda yn y gôl i Wrecsam, a roedd y tri phwynt yn ddiogel i’w dîm bum munud o’r diwedd diolch i ergyd Simon Heslop o bellter.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam dros Lincoln i’r degfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, ond maent yn parhau chwe phwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Ysgifenna erthygl papur newydd yn trafod cynllun bwyta’n iach mewn ysgolion.
Cofia fod angen y canlynol:
- pennawd bachog sy’n dal sylw
- paragraff agoriadol sy’n cyfleu’r cynnwys
- paragraffu trefnus wrth adrodd y ffeithiau
- iaith ffurfiol a diduedd, gan ddefnyddio’r trydydd person a berfau amhersonol

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Berfau Amhersonol
- Mae berfau amhersonol yn gorffen gydag '–wyd' wrth sôn am ddigwyddiadau’r gorffennol.
- Maen nhw’n cael eu defnyddio wrth ysgrifennu erthyglau ac adroddiadau, ac wrth ysgrifennu’n ffurfiol.
Defnyddia ffurf amhersonol y ferf i lanw’r bylchau isod.
- _______________ y tŷ i’r llawr dros nos. (Llosgi)
- _______________ nifer o bobl mewn damweiniau. (Anafu)
- _______________ y gôl a enillodd y gêm yn y munud olaf un. (Sgorio)
- _______________ cannoedd o dai pan ddigwyddodd y tirlithriad. (Claddu)
- _______________ hyd i olion Rhufeinig wrth adeiladu’r archfarchnad. (Cael)
- _______________ y tŷ am chwarter miliwn o bunnau. (Prynu)
Clicia yma i weld yr atebion cywir ar gyfer defnyddio berfau amhersonol yn y brawddegau uchod

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
