
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio rhythm ac odl i greu llafarganeuon, odlau a cherddi mwy cymhleth.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use rhythm and rhyme to create more detailed chants, rhymes and poems.
This lesson includes:
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw cerdd?

Darn o farddoniaeth yw cerdd. Mae barddoniaeth yn hwyl ac yn ffordd dda o chwarae gyda geiriau.
Mae'r byd natur yn gallu rhoi syniadau i feirdd wrth iddyn nhw ysgrifennu cerddi.


Rwyt ti'n fardd hefyd!
Efallai dy fod ti ddim wedi sylweddoli eto ond mae'n debyg dy fod ti - yn union fel mae beirdd yn ei wneud - yn gweld rhai pethau'n debyg i bethau eraill ac yn eu disgrifio'n ofalus ac ychydig yn wahanol.

- Wyt ti erioed wedi meddwl bod brocoli yn debyg i goeden?
- Wyt ti erioed wedi meddwl bod cymylau yn debyg i ddefaid heb goesau yn arnofio yn yr awyr?
- Wyt ti erioed wedi meddwl bod dŵr sy'n tasgu i lawr rhaeadr yn debyg i laeth?
Mae lluniau fel hyn o'n cwmpas ni trwy'r dydd a phob dydd. Edrycha i weld.

Dyma enghraifft o gerdd.
Darllena’r gerdd 'Dyheu am yr Haf'.

Dyheu am yr Haf
Awyr las a chaeau gwyrddion,
Haul yn euraidd, blodau gwynion.
Lliwiau’r haf, nosweithiau hirion,
Sydd yn llanw fy mreuddwydion.


Beth ydy odl?
Yn aml mewn cerdd mae geiriau sy'n odli ar ddiwedd llinellau.
Geiriau sy'n swnio'n debyg i'w gilydd yw odl.
Mae coch a moch yn swnio'n debyg felly maen nhw'n odli.
Dyma rai enghreifftiau eraill i ti:
glas + blas
rhos + nos
dydd + rhydd
pen + pren
byd + i gyd

Gweithgaredd 1
Beth am chwarae gêm odli gyda rhywun yn y tŷ? Gofynna iddyn nhw roi gair i ti a cheisia feddwl am air sy’n odli.
Dyma un enghraifft i ti ddechrau:
Jac do + to

Sut mae dangos patrwm odli?
Edrycha eto ar y pennill hwn o'r gerdd 'Dyheu am yr Haf'. Wyt ti’n gallu gweld y geiriau sy’n odli?
Awyr las a chaeau gwyrddion,
Haul yn euraidd, blodau gwynion.
Lliwiau’r haf, nosweithiau hirion,
Sydd yn llanw fy mreuddwydion.
Mae geiriau sy'n odli ar ddiwedd pob llinell.
Un ffordd dda o ddangos patrwm odli yw defnyddio llythrennau cynta'r wyddor - a, b, c.
Edrycha ar y geiriau olaf yn y pennill nesaf:
Bodiau nhraed i sydd yn cosi, (a)
Eisiau mynd o hyd ac o hyd, (b)
I anturio, gweld a sylwi ©
Ar yr harddwch sydd yn y byd. (b)
Y patrwm yw abcb gan fod 'b' a 'b' yn odli.

Gweithgaredd 2
Gwranda ar Manon Awst yn darllen ei cherdd ‘Ar ddiwrnod olaf blwyddyn ysgol arall’ ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru. Wyt ti’n gallu clywed y geiriau sy’n odli?

Gweithgaredd 3
Pa liwiau sy'n odli gyda'r geiriau isod?
- boch
- celyn
- llyn
- plas
- tinc
- tŷ
- Urdd

Gweithgaredd 4
Darllena’r ddau bennill isod, yna meddylia am air i orffen y cerddi, fel bod patrwm 'abcb' yma.
Rwy’n mynd i Aberdaron
I aros yn yr haf
I nofio yn y tonnau
A joio’r tywydd…
Roedd Wil yn hoffi siopa
Bob Sadwrn yn y dre,
Cyn gorffen yn y caffi
Gyda’i ffrind er mwyn cael…


What is a poem?
A poem is a piece of poetry. Poetry is fun and a good way of playing with words.
The world of nature can give poets ideas when they write their poems.


You're a poet too!
Maybe you haven't realised it yet, but - just like poets do - you have probably noticed that some things look similar to other things and can describe them carefully and in a different way.

- Have you ever thought that broccoli looks like a tree?
- Have you ever thought that clouds are similar to sheep without legs floating in the sky?
- Have you ever thought that water cascading down a waterfall is similar to milk?
Images like this are all around us all day and every day. Take a look.

Here’s an example of a poem.
Read the poem 'Dyheu am yr Haf' (Longing for the summer).
Dyheu am yr Haf
Awyr las a chaeau gwyrddion,
Haul yn euraidd, blodau gwynion.
Lliwiau’r haf, nosweithiau hirion,
Sydd yn llanw fy mreuddwydion.

Longing for summer
Blue skies and green fields,
The golden sun, white flowers.
The colours of the summer, long evenings,
Fill my dreams.

What is a rhyme?
In a poem, the words at the end of the lines often rhyme.
A rhyme refers to words that sound similar.
The Welsh word coch (red) sounds similar to the Welsh word moch (pigs), so that means that they rhyme.
Here are some other examples of words that rhyme:
glas + blas (blue + taste)
rhos + nos (moor + night)
dydd + rhydd (day + free)
pen + pren (head + wood)
byd + i gyd (world + all)

Activity 1
How about playing a rhyming game with someone in the house? Ask them to give you a word and try and think of a word that rhymes with it.
Here's one example to start:
Jac do + to (crow + roof)

How to show a rhyming pattern
Look again at this verse from the poem Dyheu am yr Haf. Can you see the words that rhyme?
Awyr las a chaeau gwyrddion,
Haul yn euraidd, blodau gwynion.
Lliwiau’r haf, nosweithiau hirion,
Sydd yn llanw fy mreuddwydion.
The words that rhyme are all at the end of each line.
One good way of showing a rhyming pattern is to use the first letters of the alphabet - a, b, c.
Look at the last words in the next verse:
Bodiau nhraed i sydd yn cosi, (a)
Eisiau mynd o hyd ac o hyd, (b)
I anturio, gweld a sylwi ©
Ar yr harddwch sydd yn y byd. (b)
My big toes are itching, (a)
Wanting to go again and again, (b)
To explore, see and notice ©
The beauty of the world. (b)
The pattern is abcb because line 'b' and line 'b' rhyme.

Activity 2
Listen to Manon Awst reading her poem 'Ar ddiwrnod olaf blwyddyn ysgol arall' on Aled Hughes' programme on BBC Radio Cymru. Can you hear the rhyming words?

Activity 3
Which colours rhyme with the words below?
- boch (cheek)
- celyn (holly)
- llyn (lake)
- plas (manorhouse, mansion)
- tinc (tink, tone, hint)
- tŷ (house)
- Urdd (guild, league, order, as in Eisteddfod yr Urdd)

Activity 4
Read the two verses below, and think about a word to finish each verse, to create an ‘abcb’ pattern here.
Rwy’n mynd i Aberdaron
I aros yn yr haf
I nofio yn y tonnau
A joio’r tywydd ________ .
I'm going to Aberdaron
To stay there in the summer
To swim in the waves
And enjoy the _______ weather.
Roedd Wil yn hoffi siopa
Bob Sadwrn yn y dre,
Cyn gorffen yn y caffi
Gyda’i ffrind er mwyn cael __________ .
Wil liked to shop
Every Saturday in town,
Before ending up in the café
With his friend in order to have ________ .

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
