
Ffocws dysgu
Dysga sut i adnabod a defnyddio enwau siapiau 3D.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to recognise and use the names of 3D shapes.
This lesson includes:
- one video
- one activity
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo i ddysgu mwy am siapiau 3D.
Watch the video to learn more about 3D shapes.
Beth yw siapiau 3D?
Ma siapau 2D yn ddiflas - ddim go iawn ond ges i'ch sylw chi yn do?
Mae gan siapiau 3D dri dimensiwn - hyd, lled a dyfnder.
Beth fyddai fersiwn 3D o sgwâr?
Ciwb.Mae gan giwb chwe wyneb sgwâr sydd i gyd o'r un maint.
Mae ciwboid fel ciwb wedi cael ei ymestyn, gyda dau wyneb sgwâr a phedwar wyneb petryal.
Ie… iawn. Dyna ddigon… diolch!
Beth am drionglau?
Mae trionglau'n troi'n byramidiau.
Rwyt ti nawr yn byramid sylfaen sgwâr, gyda phedwar wyneb trionglog a wyneb sgwâr ar gyfer dy ben-ôl.
Galli di gael pyramidiau gyda gwahanol waelod - trionglau, pentagonau, hecsagonau… unrhyw siâp.
Ac mae cylch yn troi'n sffêr gydag un wyneb mawr crwn, fel pêl.
Yn beffaith ar gyfer… rolio!
Ergyd wych! Ydych chi'n iawn…?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gwybod y canlynol:
- Mae gan siapiau 3D dri dimensiwn - hyd, lled a dyfnder.
- Mae sgwâr yn troi’n giwb ac mae gan giwb 6 wyneb sgwâr. Mae ciwb wedi ei ymestyn yn gwneud ciwboid. Mae ganddo 2 wyneb sgwâr a 4 wyneb petryal.
- Mae triongl yn troi’n byramid. Mae gan byramid sylfaen sgwâr 4 wyneb trionglog ac 1 wyneb sgwâr. Gellir cael pyramidiau gyda gwahanol sylfaen hefyd.
- Mae cylch yn troi’n sffêr. Mae ganddo un wyneb crwn.
Notes for parents
After watching the video, students will know the following:
- 3D shapes have 3 dimensions - length, width and depth.
- A square turns into a cube and a cube has 6 square faces. A stretched cube is called a cuboid, it has 2 square faces and 4 rectangular faces.
- A triangle turns into a pyramid. A square-based pyramid has 4 triangular faces and 1 square face. Pyramids can have bases of different shapes.
- A circle turns into a sphere. It has one round face.

Gweithgaredd / Activity
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl. Tynna lun y siapiau i gyd ac ysgrifenna enw pob siâp o dan y llun.
Download the worksheet from the Twinkl website. Draw a picture of each shape and write the name of each shape under each picture.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

