
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau geometreg i adnabod a chategoreiddio trionglau, sgwariau, petryalau, pentagonau a hecsagonau, gan gynnwys siapiau afreolaidd.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to use geometry skills to recognise and classify triangles, squares, rectangles, pentagons and hexagons, including irregularcases.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Dewch i gwrdd a chymharu'r siapiau gwahanol ym mharti'r polygonau.
Come and meet and compare the different shapes in the polygons' party.
Croeso i barti'r polygonau.
Polygonau yn unig sy'n cael dod, felly rhaid bod yn siâp dau ddimensiwn gydag ochrau syth.
Mae polygonau yn gallu cael eu grwpio o ran y nifer o ochrau sydd gyda nhw.
Dewch i ni gwrdd â'r criwiau gwahanol.
Criw da o'r pedrochrau 'ma.
Maent i gyd yn siapau pedwar ochr gydag onglau mewnol sy'n adio i 360 gradd.
Pwy sy' 'da ni fan hyn te?
Wrth gwrs. Sgwâr. Shwmae!
Petryal. Sut mae'r hwyl?
Rhombws, pleser fel arfer.
Paralelogram, cyfarchion.
Barcud! Hi.
A Trapesiwm, dyna chi!
Diolch bois, mwynhewch.
Dyma'r trionglau, siâp sydd â thri ochr gydag onglau mewnol yn adio i gant ac wyth deg gradd.
Triongl isosgeles, anghyfochrog, hafalochrog ac ongl sgwâr. Welwn ni chi whap!
O… y… helo, dyma'r polygonau afreolaidd.
Mae 'da'r criw yma ochrau o wahanol hyd ac onglau gwahanol.
Maen nhw'n… wel yn afreolaidd.
Ydych chi'n mwynhau eich hunain?
Hmm, symudwn ni 'mlaen.
Diolch bawb!
Nawr gall y parti ddechrau go iawn. Drychwch pwy sy ma!
Pentagon. Hecsagon. Heptagon. Octagon… a…
Pwy yw hwn? Cylch? Cylch!
Does dim ochrau syth 'da ti!
Dwyt ti ddim yn bolygon wyt ti?
Sori, ond dyna'r rheolau.
Nodiadau i rieni
- Polygon yw siâp dau ddimensiwn gydag ochrau syth.
- Mae polygonau yn gallu cael eu grwpio o ran faint o ochrau sydd gyda nhw.
- Mae polygon gyda 4 ochr yn cael ei alw’n pedrochr. Mae’r onglau mewnol yn adio i wneud 360 gradd. Mae’r sgwâr, petryal, rhombws a pharalelogram, barcud a thrapesiwm yn enghreifftiau o bedrochr.
- Mae polygon gyda 3 ochr yn cael ei alw’n triongl. Mae’r onglau mewnol yn adio i wneud 180 gradd.
- Mae triongl isosgeles, triongl anghyfochrog, triongl hafalochrog a thriongl ongl sgwâr yn enghreifftiau o drionglau.
- Mae polygonau sydd ag ochrau o wahanol hyd ac onglau gwahanol yn cael eu galw’n polygonau afreolaidd.
- Dydy cylch ddim yn bolygon oherwydd does dim ochrau syth ganddo.
- Mae pentagon, hecsagon, heptagon ac octagon hefyd yn enghreifftiau o bolygonau.
Notes for parents
- *A polygon is a two dimensional shape with straight sides. *
- *Polygons can be grouped according to the number of sides they have. *
- *A polygon with 4 sides is called a quadrilateral. Their inner angles make a total of 360 degrees. A square, rectangle, rhombus, parallelogram, kite and trapezium are all examples of quadrilaterals. *
- *A polygon with 3 sides is called a triangle. Their inner angles make a total of 180 degrees. *
- *The isosceles triangle, scalene triangle, equilateral triangle and a right-angled triangle are all examples of these. *
- *Polygons with lengths of different sizes and angles are called irregular polygons. *
- *A circle is not a polygon because it does not have straight sides. *
- *A pentagon, hexagon, heptagon and octagon are all examples of polygons. *


Parti’r polygonau
Dim ond siapiau 2D gydag ochrau syth sydd wedi’u gwahodd i barti’r polygonau.
Pedrochrau
Mae gan bedrochrau 4 ochr ac mae eu honglau mewnol yn adio i 360°.
Mae sgwâr, petryal, rhombws, paralelogram, barcud a thrapesiwm i gyd yn bedrochrau.
Trionglau
Mae gan drionglau 3 ochr. Mae eu honglau mewnol yn adio i 180°.
Dyma’r mathau o driongl sydd:
- isosgeles
- hafalochrog
- anghyfochrog
- ongl sgwâr
Polygonau afreolaidd
Mae gan bolygonau afreolaidd ochrau o wahanol hyd a gwahanol onglau.
Polygonau rheolaidd
Mae enwau gan siapiau eraill sydd ag ochrau o’r un hyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- pentagon, sydd â 5 ochr
- hecsagon, sydd â 6 ochr
- heptagon, sydd â 7 ochr
- octagon, sydd ag 8 ochr
Mae’r siapiau hyn i gyd yn wahanol, ond polygonau ydyn nhw i gyd.

The polygons' party
Only 2D shapes with straight sides are invited to the polygon party.
Quadrilaterals
Quadrilaterals have 4 sides and their internal angles add up to 360°.
A square, rectangle, rhombus, parallelogram, kite and trapezium are all quadrilaterals.
Triangles
Triangles have 3 sides. Their internal angles add up to 180°.
The types of triangle are:
- isosceles
- equilateral
- scalene
- right-angled
Irregular polygons
Irregular polygons have sides of different lengths and angles.
Regular polygons
There are names for other shapes with sides of the same length.These include:
- pentagon, which has 5 sides
- hexagon, which has 6 sides
- heptagon, which has 7 sides
- octagon, which has 8 sides
All these shapes are different, but they are all polygons.

Gweithgaredd / Activity
Dewisa’r siâp sy’n ateb y disgrifiad: trapesiwm - triongl - petryal
Select the shape that fits the description:trapesiwm (trapezium) - triongl (triangle) - petryal (rectangle)

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
