
Ffocws dysgu
Dysga sut i fynegi barn a syniadau’n eglur gan ddefnyddio geirfa arbenigol ac enghreifftiau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Lesson content
Learn how to express issues and ideas clearly, using specialist vocabulary and examples.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Cyflwyniad
Mae gan bawb farn am bob pwnc, dim ots pa mor ddibwys. Er enghraifft, mae modd i ti deimlo llawn mor gryf am hela llwynogod ag wyt ti am gael defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol, neu hyd yn oed am beth wyt ti eisiau i dy de heno.
Os wyt ti'n rhoi dy farn heb reswm ac heb dystiolaeth, dwyt ti ddim yn debygol o allu perswadio pobl i gytuno gyda ti.
I fynegi dy farn yn glir, mae'n bwysig:
- defnyddio termau mynegi barn
- rhoi rheswm i gefnogi dy farn
- cryfhau dy resymau gyda thystiolaeth a safbwyntiau gan eraill i gefnogi dy farn
Dyma rai termau i dy helpu i fynegi dy farn yn glir:
- yn fy marn i…
- ar yr un llaw… ar y llaw arall…
- dw i o'r farn bod…
- dw i'n meddwl bod…
- credaf fod…
- credaf yn gryf fod…
- un rheswm yw…
- yn sicr…
- rheswm arall yw…
- yn y pen draw…
- i grynhoi…

Fideo
Gwylltia Rhodri am fod ei dabled wedi colli pŵer. Dydy Erin ddim yn hapus am y ffordd y mae Rhodri’n mynegi ei farn ac felly ceisia hi ei helpu i ddatblygu ei farn.
RHODRI Maaaaaam! Mae batri’r tabled yn fflat. Lle mae fy ngwifren bŵer? Maaaaaaaam!!
ERIN Haia Rhodri, popeth yn iawn?
RHODRI Ma’ Mam a Dad wedi cuddio pob un charjar yn y tŷ, achos bo nhw’n credu mod i’n treulio gormod o amser ar fy nhabled! Ond dw i angen mynegi fy marn ar gêm newydd ‘Croesi’r Ffordd’. Sut allai wneud hynny heb bŵer?
ERIN Wel, pam na ddoi di am dro gyda fi, a gei di fynegi dy farn ar y gêm dwi’n hoffi chwarae? Ei henw yw ‘Bywyd Go Iawn’.
RHODRI Yyy, ar ba blatfform mae’r gêm ‘ma?
ERIN S’dim angen iti ei lawrlwytho, mi wyt ti wedi’i chwarae ers iti gael dy eni. Iawn, beth am gychwyn gyda mynegi barn ar un o lefelau syml y gêm, o’r enw ‘Sgwrs Normal Wyneb yn Wyneb’, sef beth sydd wedi bod yn digwydd ers iti ddod allan o’r tŷ.
RHODRI Yn fy marn i, mae o’n iawn.
ERIN Ie, mae angen bach mwy o waith na hynny. Yn gynta’, gwna ddatganiad am sut ti’n teimlo am y pwnc.
RHODRI Oce, wel, ar un llaw, mae siarad wyneb yn wyneb yn eitha’ pleserus, ond ar y llaw arall mae o hefyd braidd yn hen ffasiwn.
ERIN Nesa’, rho reswm am y datganiad yma.
RHODRI Wel, dwi o’r farn mod i’n medru cyfleu fy hun yn well wrth anfon negeseuon at bobl yn hytrach na siarad efo nhw.
ERIN Dwi angen enghraifft i bwysleisio’r pwynt yma.
RHODRI Wel, pan dwi’n anfon neges, mi fedra’i ddangos mod i’n hapus drwy ddanfon emoji o wyneb hapus. Neu os dwi’n drist, anfon wyneb trist.
ERIN Ma’ rheina yn bwyntiau dilys, ond wrth fynegi barn, mae angen iti ystyried gwahanol farnau, rhag ofn i dy ddadl fod yn rhy unllygeidiog. Mae emojis yn gallu cyfleu hapusrwydd, ond gelli di wneud hynny wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’ hefyd. Er enghraifft, nid oes ffôn gan mamgu, felly mae hi’n cyfleu hapusrwydd drwy sefyll o ‘mlaen i a gwenu.
RHODRI O ia!
ERIN Felly, mae angen crynhoi hyn i gyd, a dod i ryw fath o gasgliad.
RHODRI Wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’, mi rois i gynnig ar y lefel ‘Sgwrs Normal Wyneb yn Wyneb’. Roedd yn ddiddorol yn fy marn i, ond i fod yn onest mae’n well gen i gyfathrebu drwy decstio, oherwydd dwi’n teimlo ’mod i’n medru cyfleu fy hun yn well fel ‘na. Wedi dweud hynny, mae emojis yn bethau eitha’ amhersonol, a dwi rwan yn gwybod bod modd imi gyfleu fy emosiynau mewn ffordd fwy real wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’. Ond, yn y pen draw, mae’n well gen i decstio, achos mae fy wyneb i’n edrych yn rhyfedd pan dwi’n gwenu neu’n crio.
ERIN Da iawn. Barod am y lefel nesa’, ‘Prynu Rhywbeth o Siop Go Iawn’?
RHODRI Ond dw i’n meddwl fod prynu nwyddau oddi ar y we gymaint yn haws.
ERIN Pam?
RHODRI Achos mi fedra i gymryd fy amser i ddewis be dwi isho. Gêm gyfrifiadurol, er enghraifft. Mi fedra i ddewis y gêm, talu amdani, ac mae’n cyrraedd y diwrnod wedyn heb i mi orfod gadael y tŷ, ac felly dw i’n arbed arian bws.
ERIN Ie, ond pan ti’n chwarae ‘Bywyd Go Iawn’, fe alli di fynd i siop go iawn, a siarad gyda pherson, i ofyn eu barn nhw. Mae’n fwy personol, ac maen nhw’n gallu dy helpu i ddewis. Mewn â ti!
Beth yw dy farn ar y lefel ‘Prynu Rhywbeth o Siop Go Iawn’ felly?
RHODRI Credaf fod manteision di-ri i brynu nwyddau ar-lein. Dwi bendant yn meddwl ei bod hi’n system fwy cyfleus na gorfod cerdded yr holl ffordd i’r siop. Rheswm arall bod siopa ar-lein yn well yw oherwydd bod y nwyddau‘n aml yn rhatach. Ond, un peth chewch chi ddim wrth siopa ar-lein yw sgwrs ddifyr debyg i’r un ges i efo’r person tu ôl i’r cownter heddiw, sydd wedi fy narbwyllo i beidio prynu’r gêm on i isho, gan y bydd un well ar werth wythnos nesa’. Felly i grynhoi, mae siopa ar-lein yn fwy cyfleus ac yn rhatach, ond yn brofiad llai personol.
ERIN Mae ‘Bywyd Go Iawn’ yn grêt! Ti ddim angen bod ar dy dabled o hyd.
RHODRI Ia, wel, dwi ddim mor siŵr am hynny. Achos tra on i yn y siop, mi brynais i hwn!
Diolch am y gêm Erin, credaf yn gryf fod ‘Bywyd Go Iawn’ yn gêm eitha’ diddorol, achos bod y cymeriadau a’r graffeg yn ymddangos mor real. Yn y pen draw, dwi’n gwbod lle dwi isho bod. Adra efo fy nhabled!
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- mynegi barn yn hyderus, gan gefnogi eu safbwyntiau gyda thystiolaeth
- defnyddio a chofio termau mynegi barn

Gweithgaredd 1
Seren Y Flwyddyn
Eleni, mae gwobr ddychmygol newydd wedi cael ei chreu ar gyfer enwogion o’r enw ‘Seren Y Flwyddyn’. Mae’r pwyllgor sy’n rheoli’r gystadleuaeth wedi dewis 10 person ifanc i rannu eu barn, ac rwyt ti'n un ohonynt.
Dewisa un person enwog sydd, yn dy farn di, yn haeddu ennill gwobr ‘Seren Y Flwyddyn’. Bydd rhaid i ti berswadio’r pwyllgor mai dy berson enwog di sydd orau ar gyfer y wobr, a chyflwyno dy farn a dy resymau iddynt.
Cofia ddefnyddio termau mynegi barn, a chynnig rhesymau a thystiolaeth i gefnogi dy farn.

Gweithgaredd 2
Dewisa un elfen o fywyd ysgol hoffet ti addasu, dileu neu rywbeth hoffet ti gyflwyno o’r newydd. Rhaid i ti gyflwyno dy syniad yn glir ac yn drefnus gan ddefnyddio geirfa mynegi barn.
Bydd angen esbonio pam dy fod wedi dewis dy destun, a chynnig digon o resymau neu dystiolaeth i gefnogi dy farn er mwyn perswadio eraill i gytuno gyda ti.

Introduction
Everyone has an opinion about every subject, no matter how small or insignificant. For example, you can feel just as strongly about fox-hunting as you do about the use of mobile phones in school, or even about what you want for your tea tonight.
If you express your opinion without a reason or without any evidence, it's unlikely that you'll be able to persuade people to agree with you.
In order to be able to express your opinion clearly, it's important to:
- use terms that express opinion
- give a reason to support your opinion
- strengthen your reasons with evidence and standpoints from others to support your opinion
Here are some terms to help you express your opinion clearly:
- yn fy marn i… - in my opinion…
- ar yr un llaw… ar y llaw arall… - one the one hand… on the other hand…
- dw i o'r farn bod… - I'm of the opinion that…
- dw i'n meddwl bod… - I think that…
- credaf fod… - I believe that…
- credaf yn gryf fod… - I strongly believe that…
- un rheswm yw/ydy… - one reason is…
- yn sicr… - certainly…
- rheswm arall yw/ydy… - another reason is…
- yn y pen draw… - in the long run… / ultimately…
- i grynhoi… - to summarise

Video
Rhodri's annoyed that his tablet has lost power. Erin isn't happy about the way that Rhodri expresses himself, and so tries to help him develop his opinion.
RHODRI Maaaaaam! Mae batri’r tabled yn fflat. Lle mae fy ngwifren bŵer? Maaaaaaaam!!
ERIN Haia Rhodri, popeth yn iawn?
RHODRI Ma’ Mam a Dad wedi cuddio pob un charjar yn y tŷ, achos bo nhw’n credu mod i’n treulio gormod o amser ar fy nhabled! Ond dw i angen mynegi fy marn ar gêm newydd ‘Croesi’r Ffordd’. Sut allai wneud hynny heb bŵer?
ERIN Wel, pam na ddoi di am dro gyda fi, a gei di fynegi dy farn ar y gêm dwi’n hoffi chwarae? Ei henw yw ‘Bywyd Go Iawn’.
RHODRI Yyy, ar ba blatfform mae’r gêm ‘ma?
ERIN S’dim angen iti ei lawrlwytho, mi wyt ti wedi’i chwarae ers iti gael dy eni. Iawn, beth am gychwyn gyda mynegi barn ar un o lefelau syml y gêm, o’r enw ‘Sgwrs Normal Wyneb yn Wyneb’, sef beth sydd wedi bod yn digwydd ers iti ddod allan o’r tŷ.
RHODRI Yn fy marn i, mae o’n iawn.
ERIN Ie, mae angen bach mwy o waith na hynny. Yn gynta’, gwna ddatganiad am sut ti’n teimlo am y pwnc.
RHODRI Oce, wel, ar un llaw, mae siarad wyneb yn wyneb yn eitha’ pleserus, ond ar y llaw arall mae o hefyd braidd yn hen ffasiwn.
ERIN Nesa’, rho reswm am y datganiad yma.
RHODRI Wel, dwi o’r farn mod i’n medru cyfleu fy hun yn well wrth anfon negeseuon at bobl yn hytrach na siarad efo nhw.
ERIN Dwi angen enghraifft i bwysleisio’r pwynt yma.
RHODRI Wel, pan dwi’n anfon neges, mi fedra’i ddangos mod i’n hapus drwy ddanfon emoji o wyneb hapus. Neu os dwi’n drist, anfon wyneb trist.
ERIN Ma’ rheina yn bwyntiau dilys, ond wrth fynegi barn, mae angen iti ystyried gwahanol farnau, rhag ofn i dy ddadl fod yn rhy unllygeidiog. Mae emojis yn gallu cyfleu hapusrwydd, ond gelli di wneud hynny wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’ hefyd. Er enghraifft, nid oes ffôn gan mamgu, felly mae hi’n cyfleu hapusrwydd drwy sefyll o ‘mlaen i a gwenu.
RHODRI O ia!
ERIN Felly, mae angen crynhoi hyn i gyd, a dod i ryw fath o gasgliad.
RHODRI Wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’, mi rois i gynnig ar y lefel ‘Sgwrs Normal Wyneb yn Wyneb’. Roedd yn ddiddorol yn fy marn i, ond i fod yn onest mae’n well gen i gyfathrebu drwy decstio, oherwydd dwi’n teimlo ’mod i’n medru cyfleu fy hun yn well fel ‘na. Wedi dweud hynny, mae emojis yn bethau eitha’ amhersonol, a dwi rwan yn gwybod bod modd imi gyfleu fy emosiynau mewn ffordd fwy real wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’. Ond, yn y pen draw, mae’n well gen i decstio, achos mae fy wyneb i’n edrych yn rhyfedd pan dwi’n gwenu neu’n crio.
ERIN Da iawn. Barod am y lefel nesa’, ‘Prynu Rhywbeth o Siop Go Iawn’?
RHODRI Ond dw i’n meddwl fod prynu nwyddau oddi ar y we gymaint yn haws.
ERIN Pam?
RHODRI Achos mi fedra i gymryd fy amser i ddewis be dwi isho. Gêm gyfrifiadurol, er enghraifft. Mi fedra i ddewis y gêm, talu amdani, ac mae’n cyrraedd y diwrnod wedyn heb i mi orfod gadael y tŷ, ac felly dw i’n arbed arian bws.
ERIN Ie, ond pan ti’n chwarae ‘Bywyd Go Iawn’, fe alli di fynd i siop go iawn, a siarad gyda pherson, i ofyn eu barn nhw. Mae’n fwy personol, ac maen nhw’n gallu dy helpu i ddewis. Mewn â ti!
Beth yw dy farn ar y lefel ‘Prynu Rhywbeth o Siop Go Iawn’ felly?
RHODRI Credaf fod manteision di-ri i brynu nwyddau ar-lein. Dwi bendant yn meddwl ei bod hi’n system fwy cyfleus na gorfod cerdded yr holl ffordd i’r siop. Rheswm arall bod siopa ar-lein yn well yw oherwydd bod y nwyddau‘n aml yn rhatach. Ond, un peth chewch chi ddim wrth siopa ar-lein yw sgwrs ddifyr debyg i’r un ges i efo’r person tu ôl i’r cownter heddiw, sydd wedi fy narbwyllo i beidio prynu’r gêm on i isho, gan y bydd un well ar werth wythnos nesa’. Felly i grynhoi, mae siopa ar-lein yn fwy cyfleus ac yn rhatach, ond yn brofiad llai personol.
ERIN Mae ‘Bywyd Go Iawn’ yn grêt! Ti ddim angen bod ar dy dabled o hyd.
RHODRI Ia, wel, dwi ddim mor siŵr am hynny. Achos tra on i yn y siop, mi brynais i hwn!
Diolch am y gêm Erin, credaf yn gryf fod ‘Bywyd Go Iawn’ yn gêm eitha’ diddorol, achos bod y cymeriadau a’r graffeg yn ymddangos mor real. Yn y pen draw, dwi’n gwbod lle dwi isho bod. Adra efo fy nhabled!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- express their opinions confidently by backing their standpoints with evidence
- use and remember terms that will help them express their opinions confidently in Welsh

Activity 1
Star of the Year
This year a new imaginary prize called ‘Seren Y Flwyddyn’ (Star of the Year) has been created for celebrities. The committee who manages the competition has chosen 10 young people to share their opinions on it, and you're one of them.
Choose one famous person or celebrity who, in your opinion, deserves to win the ‘Seren Y Flwyddyn’ prize. You'll have to persuade the committee that your celebrity is the best person for the prize, and express your opinion and reasons to them.
Remember to use terms that express opinion, and offer reasons and evidence to support your opinion.

Activity 2
Choose one element of school life that you'd like to change, remove or something brand new that you'd like to introduce. You must express your idea clearly and in an organised way by using appropriate vocabulary for expressing an opinion.
You'll need to explain why you've chosen your idea, and offer enough reasons or evidence to support your opinion in order to persuade others to agree with you.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
