
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad ar sut i ysgrifennu'n ddisgrifiadol
- Pedwar gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu'n ddisgrifadol
Lesson content
- One introduction to writing descriptively
- Four activities to practise writing descriptively

Beth yw disgrifiad?
Mewn disgrifiad o le neu olygfa mae’n rhaid i ti beintio llun gyda geiriau.
Mae angen i ti gynnwys nodweddion arddull amrywiol i wneud dy waith yn ddiddorol.
Iaith ac arddull disgrifiad
- Mae'n iawn ysgrifennu disgrifiad yn yr amser gorffennol neu’r amser presennol.
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y person cyntaf, ee:
- gwelaf/gwelais
- clywaf/clywais
- aroglaf/aroglais
- teimlaf/teimlais
- blasaf/blasais
- Mae angen i ti gofio treiglo’n feddal ar ôl berf gryno, ee:
- gwelaf bobl
- clywaf leisiau
- aroglais fwg
- teimlaf wynt cryf
- Rhaid i ti amrywio dechrau brawddegau, hynny yw, paid â dechrau pob brawddeg gyda 'Mae…' neu 'Roedd…'
Ceisia gynnwys y nodweddion canlynol i wneud dy ddisgrifiad yn fwy diddorol:
- Ansoddeiriau - geiriau sy'n disgrifio enw. Maen nhw'n gallu creu darlun cliriach yn ein meddyliau am wrthrych sy'n cael ei ddisgrifio.
- Adferfau - geiriau sy'n disgrifio berfau. Maen nhw'n gallu creu darlun cliriach yn ein meddyliau am sut mae rhywbeth yn cael ei wneud.
- Cyflythrennu - ailadrodd geiriau gyda'r un llythyren. Mae cyflythrennu yn gallu nodi'r teimlad o sain a symudiad, neu'n gallu atgyfnerthu teimladau, neu glymu rhestr o eiriau at ei gilydd.
- Ailadrodd - y weithred o wneud rhywbeth fwy nag unwaith. Bydd hyn naill ai yn pwysleisio'r geiriau sy'n cael eu hailadrodd neu'n creu rhythm yn dy waith ysgrifenedig.
- Cymariaethau - y syniad o gymharu dau beth gyda'i gilydd. Mae'r dechneg hon yn galluogi'r darllenydd i ddeall sut mae pethau'n ymddangos neu sut maen nhw'n digwydd. Geiriau sy'n dangos cymhariaeth yw:
- 'fel'
- 'mor… â …'
- 'cyn… â…'
- 'megis'
- Trosiadau - mae pwrpas trosiadau yn debyg iawn i bwrpas cymariaethau. Mae trosiadau yn dweud bod rhywbeth yn rhywbeth arall yn hytrach na'i gymharu â rhywbeth arall.
- Personoli - y dechneg o ddisgrifio gwrthrychau fel person. Mae hyn yn gallu gwneud i wrthrychau ymddangos yn bethau byw, sy'n gallu gwneud yr un pethau ag y mae person yn gallu eu gwneud.
Apelio at y synhwyrau
Wrth ddisgrifio lle neu leoliad, dylet ti gyfeirio at y synhwyrau drwy nodi:
- beth wyt ti’n ei weld
- beth wyt ti’n ei glywed
- beth wyt ti’n ei arogli
- beth wyt ti’n ei deimlo
- beth wyt ti’n ei flasu

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Mae ffyrdd effeithiol gelli di eu defnyddio i wella dy frawddegau disgrifiadol drwy ychwanegu manylion pellach. Y ffordd gyntaf yw drwy ychwanegu ansoddeiriau.
Edrycha ar y llun isod ac ysgrifenna rai o'r ansoddeiriau gelli di eu defnyddio.


Proses ysgrifennu'n ddisgrifiadol
Edrycha ar y frawddeg hon:
Es i i'r ffair.
Drwy ychwanegu o leiaf un neu ddau o ansoddeiriau, mae'r frawddeg yn swnio llawer mwy disgrifiadol:
Es i i'r ffair lliwgar a phrysur.
Nawr, newidia'r ferf am air sy'n fwy manwl o ran ystyr ac sy'n fwy disgrifiadol nag 'es i':
Rhedais i'r ffair lliwgar a phrysur.
Nawr, mae modd ychwanegu at y frawddeg drwy ddefnyddio cysylltair, megis 'a' neu 'ac':
Rhedais i'r ffair lliwgar a phrysur ac edmygais y stondinau hardd.
Beth am ychwanegu idiom, fel 'nerth fy nhraed' hefyd?
Rhedais nerth fy nhraed i'r ffair lliwgar a phrysur ac edmygais y stondinau anhygoel.
Enghraifft o'r broses
Edrycha ar sut i wella brawddeg syml drwy ychwanegu manylder at y ferf a defnyddio cymariaethau.
Parhaodd y ffair drwy'r nos.
Ychwanega ansoddeiriau:
Parhaodd y ffair drwy'r nos dywyll a serennog.
Drwy newid y ferf i air mwy manwl, bydd y darllenydd yn cael ymdeimlad gwell o awyrgylch y ffair.
Byrlymodd y ffair drwy'r nos dywyll a serennog.
Byddai adferfau yn ychwanegu at fanylder y digwyddiadau:
Byrlymodd y ffair yn swnllyd ac yn ddibaid drwy'r nos dywyll a serennog.
Er mwyn cynhyrchu brawddeg ddisgrifiadol y tu hwnt, beth am orffen gyda chymhariaeth?
Byrlymodd y ffair yn swnllyd ac yn ddibaid drwy'r nos dywyll a serennog, fel rhaeadr ewynnog yng nghefn gwlad.
Mae hi nawr yn hawdd i weld y gwahaniaeth rhwng y ddwy frawddeg:
- Parhaodd y ffair drwy'r nos.
- Byrlymodd y ffair yn swnllyd ac yn ddibaid drwy'r nos dywyll a serennog, fel rhaeadr ewynnog yng nghefn gwlad.
Defnyddia'r broses hon o ychwanegu at dy frawddegau wrth i ti ysgrifennu'n ddisgrifiadol.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Cywira’r brawddegau canlynol.
- Clywais lleisiau yn siarad yn frwd.
- Aroglais mwg drewllyd wrth gerdded i mewn i’r ystafell.
- Teimlais gwres yr haul yn llosgi fy nghroen.
- Gwelais torf o bobl yng nghanol sgwâr y dref.
- Blasais byrgyr seimllyd.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Dyma enghraifft o ddisgrifiad o ffermdy:
Rwyf am sôn wrthych am gartref fy nain - Fferm Glan-yr-afon. Heb amheuaeth mae’n lle godidog yng nghanol prydferthwch cefn gwlad gogledd Cymru. Mi fyddai rhai yn dweud mai lle digon di-nod mewn ardal ddigon anghysbell ydyw, ond, i mi, mae’r fferm yn llawn atgofion ac mae’r ffermdy yn ddewin yn llawn hud a lledrith.
Mae’r golygfeydd hardd yn fy rhyfeddu. Wedi amgylchynu’r ffermdy mae blanced werdd gydag ambell flodyn yn ymestyn i’r haul neu ddafad yn pori. Mae’n lle cymharol dawel heblaw am ambell dractor yn chwyrnu. Wrth gamu allan o’r car gallaf glywed yr adar yn canu fel côr swynol.
Peidiwch â meddwl bod y fferm yn dawel fel y bedd drwy’r amser, mae chwerthin uchel a siarad diddiwedd fy nain a’i ffrindiau siaradus i'w glywed weithiau. Bydd briwsion y cacennau cri ffres o’r popty yn dawnsio oddi ar wefusau’r cyfeillion wrth iddynt roi’r byd yn ei le. Pan fyddwch yn cerdded trwy ddrws cul y ffermdy gallwch arogli’r bara ffres sy’n pobi yn y popty sy’n deffro rhyw deimlad bywiog yn eich corff. Mae’r ffermdy ar ei orau pan mae’r haul yn edrych lawr arno ac yn gwenu. Yn wir dyma’r lle gorau yn y byd.
Edrycha ar y darn yn ofalus. Noda enghreifftiau o’r nodweddion arddull isod ynddo:
- cymhariaethau
- trosiadau
- ansoddeiriau
- personoli

Gweithgaredd 4 / Activity 4
Ysgrifenna ddisgrifiad byr o’r olygfa tu allan i ffenest dy ystafell wely. Rhaid i ti gynnwys:
- y pum synnwyr – clywed, gweld, arogli, blasu, teimlo
- chwech ansoddair
- dwy adferf
- dwy gymhariaeth neu drosiad
- un cyflythreniad
- un enghraifft o bersonoli
- ailadrodd

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
