Torri dy wallt

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddeall a defnyddio iaith sy’n briodol ar gyfer ysgrifennu, ee ansoddair.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • pedwar gweithgaredd

Learning focus

Learn how to understand and use language appropriate to writing, eg adjective.

This lesson includes:

  • one video
  • four activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo

Mae Rav yn ymweld ag Elin yn y siop trin gwallt i gael steil gwallt newydd.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall a defnyddio geirfa arbennig, ee hen ffasiwn, cyrliog, casáu, (yn) ddel
  • deall sut i ddefnyddio ansoddeiriau
  • strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Dw i'n hoffi…, Dw i ddim yn hoffi…
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Dydy Rav ddim yn hoffi’r steil gwallt yma. Pam?

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Rho'r geiriau yn y drefn gywir er mwyn gwneud brawddeg.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

  1. Beth am fynd ati i ddisgrifio dy wallt dy hun gan ddefnyddio'r patrwm:
  • Mae gen i wallt …

Efallai byddi di eisiau defnyddio mwy nag un ansoddair i ddisgrifio dy wallt, er enghraifft:

  • Mae gen i wallt hir, du, tonnog.
  1. Nawr, beth am ddisgrifio gwallt dy deulu a dy ffrindiau, er enghraifft:
  • Mae gan Dad wallt …
  • Mae gan Nain wallt …
  • Mae gan Rav wallt …

Dyma rai ansoddeiriau i dy helpu:

  • syth
  • cyrliog
  • tonnog
  • pigog
  • del
  • byr
  • hir
  • seimllyd
  • du
  • brown
  • porffor
  • glas
  • coch
  • pinc
  • melyn
  • llwyd
  • gwyn
Llinell / Line

Gweithgaredd 4

Pa fath o wallt wyt ti'n ei hoffi? Pa fath o wallt dwyt ti ddim yn ei hoffi?

Defnyddia'r patrymau isod i fynegi dy farn:

  • Dw i'n hoffi gwallt …
  • Dw i ddim yn hoffi gwallt …

Video

Rav visits Elin at the hairdresser to get a new hairstyle.

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • understand and use specific vocabulary, eg hen ffasiwn, cyrliog, casáu, (yn) ddel (old-fashioned, curly, to hate, pretty)
  • understand how to use adjectives
  • structure a sentence using patterns such as, Dw i'n hoffi… (I like…) and Dw i ddim yn hoffi… (I don't like…)
Llinell / Line

Activity 1

Why does Rav not like this hairstyle?

Llinell / Line

Activity 2

Place the words in the correct order to make a sentence.

Llinell / Line

Activity 3

  1. How about describing your own hair using the pattern:

Mae gen i wallt … (I have … hair.)

Maybe you'll want to use more than one adjective to describe your hair, for example:

  • Mae gen i wallt hir, du, tonnog. (I have long, black, wavy hair.)
  1. Now, how about describing the hair of your family and friends, for example:
  • Mae gan Dad wallt … (Dad has … hair.)
  • Mae gan Nain wallt … (Grandmother has … hair.)
  • Mae gan Rav wallt … (Rav has … hair.)

Here are some adjectives to help you:

  • syth (straight)
  • cyrliog (curly)
  • tonnog (wavy)
  • pigog (spiky)
  • del (pretty)
  • byr (short)
  • hir (long)
  • seimllyd (greasy)
  • du (black)
  • brown (brown)
  • porffor (purple)
  • glas (blue)
  • coch (red)
  • pinc (pink)
  • melyn (blond)
  • llwyd (grey)
  • gwyn (white)
Llinell / Line

Activity 4

What kind of hair do you like? What kind of hair do you not like?

Use the patterns below to express your opinion:

  • Dw i'n hoffi gwallt … (I like … hair.)
  • Dw i ddim yn hoffi gwallt … (I don't like … hair.)

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU