
Ffocws dysgu
Dysga ddweud faint o'r gloch ydy hi i’r 5 munud agosaf.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to tell the time to the nearest 5 minutes.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Gwylia'r clociau yn canu am yr amser.
Watch the clocks singing about the time.
CLOC 1 & 2 Faint o’r gloch ydy hi?
CLOC 3 Mae hi’n saith o’r gloch. Mae hi’n wyth o’r gloch. Mae hi’n naw o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser ysgol! Mae hi’n amser ysgol! Hwrê!
CLOC 2 & 3 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 1 Mae hi’n ddeg o’r gloch. Mae hi’n unarddeg o’r gloch. Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser cinio. Mae hi’n amser cinio. Iym iym!
CLOC 3 & 1 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 2 Mae hi’n un o’r gloch. Mae hi’n ddau o’r gloch. Mae hi’n dri o’r gloch. O, mae hi’n hanner awr wedi tri.
CLOCIAU Mae hi’n amser mynd adre. Mae hi’n amser mynd adre. Ieeeeeei!
Mae hi’n bedwar o’r gloch.
Mae hi’n bump o’r gloch.
Mae hi’n chwech o’r gloch.
Mae hi’n saith o’r gloch.
Amser gwely bawb. Nos da.
Aaaaaa! Mae hi’n amser codi eto!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- ymarfer dweud faint o'r gloch ydy hi rhwng o'r gloch a hanner awr wedi'r awr
- teimlo'n fwy hyderus wrth ddweud faint o'r gloch ydy hi
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- practise telling the time between o'clock and half past the hour
- feel more confident telling the time

Clociau
Pan mae’r bys mawr ar y rhif 12, mae’n golygu ei bod hi’n o’r gloch ac mae'r bys bach yn dweud pa awr ydy hi.
Er enghraifft, pan mae’r bys mawr ar y rhif 12 a’r bys bach ar y rhif 10, mae hi’n ddeg o’r gloch.
Clocks
When the big hand is on the number 12, this means it is o'clock, and the little hand tells us what hour it is.
For example, when the big hand is on the number 12 and the little hand on the number 10, it is 10 o'clock


Nawr, faint o'r gloch ydy hi rhwng o’r gloch ac hanner awr wedi?
Rydym yn gwybod bod 60 munud mewn awr.
Edrycha ar y clociau isod i weld yr amser ym mhob llun.
Now, what about the time between o'clock and half past the hour?
We know that there are 60 minutes in an hour.
Look at the clocks below to see what the time is in each picture.
10.00
Mae hi'n ddeg o'r gloch

It is ten o'clock
10.05
Mae hi'n bum munud wedi deg

It is five past ten
10.10
Mae hi'n ddeg munud wedi deg

It is ten past ten
10.15
Mae hi'n bymtheg munud wedi deg
Mae hi'n un deg pump munud wedi deg
Mae hi'n chwarter wedi deg

It is quarter past ten
10.20
Mae hi'n ugain munud wedi deg
Mae hi'n ddauddeg munud wedi deg

It is twenty past ten
10.25
Mae hi'n bum munud ar hugain wedi deg
Mae hi'n ddauddeg pum munud wedi deg

It is twenty five past ten
10.30
Mae hi'n hanner awr wedi deg

It is half past ten

Gweithgaredd / Activity
Dy dro di yw hi nawr. Tynna lun cloc ar gyfer pob un o'r amseroedd isod. Ysgrifenna'r amser ar bwys pob llun.
Now it's your turn. Draw a picture of a clock for each of the times below. Write the time next to each clock.
- 9.05
- 9.10
- 9.15
- 9.20
- 9.25

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
