
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio strategaethau meddwl i alw tabl lluosi 4 i gof a'i ddefnyddio i ddatrys problemau rhannu.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use mental strategies to recall multiplication table 4 and use to solve division problems.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Mae grŵp o ffrindiau yn defnyddio mathemateg y pen i gyfuno eu tocynnau yn yr arcêd.
A group of friends do maths in their heads to put their tickets together in the arcade.
Sut i luosi yn eich pen
Iawn. 240 tocyn am y gitâr.
Bant â ni.
Gwych!
Ma 40 tocyn yn ddechre!
Sgwn i tase'r chwech ohonoch chi â 40 tocyn yr un, a'ch bod chi'n rhoi nhw i gyd at ei gilydd, fyddech chi'n gallu fforddio fe wedyn?
Chwech wedi ei luosi â 40.
Sydd yr un peth â chwech wedi ei luosi â phedwar wedi ei luosi â deg.
A ma' lluosi 'da phedwar yr un peth a dyblu.
A dyblu eto.
Ac i luosi â deg dw i'n gwybod bod angen gwneud y rhif deg gwaith yn fwy.
Shwt y'ch chi'n mynd i rannu'r gitâr?
Na fydde cymryd tro wedi bod yn well?
Nodiadau i rieni
- Rydym yn gallu lluosi rhifau mawr wrth rannu’r swm i fyny.
- Mae 6 x 40 yr un peth a 6 x 4 x 10. Felly, yn gyntaf rhaid lluosi 6 gyda 4 i wneud 24.
- Yna gallwn luosi 24 gyda 10 trwy symud y rhifau un golofn i’r chwith a llenwi’r colofnau sy'n weddill gyda 0. Hynny yw 24 x 10 = 240. Felly 6 x 40 = 240.
Notes for parents
- We can multiply larger numbers by making the numbers easier to manage.
- 6 x 40 is the same as 6 x 4 x 10. Therefore, you must first multiply 6 with 4 to make 24.
- Then you can multiply 24 with 10 by moving the number one column to the left and filling the other columns with 0, making 24 x 10 = 240. Therefore 6 x 40 = 240.

Beth yw 6 x 40?
- Mae 6 x 40 yn hafal i 6 x 4 x 10
- Mae 6 x 4 yn hafal i 6 x 2 x 2
- 6 x 2 x 2 = 24
- 24 x 10 = 240
- Felly mae 6 x 40 = 240
Torra’r swm i lawr gymaint ag sydd angen. Os wyt ti’n gwybod bod 6 x 4 = 24, does dim rhaid iti ei dorri i lawr i 6 x 2 x 2.

Gweithgaredd / Activity
Gwna’r symiau lluosi isod yn dy ben.
Do the multiplication sums below in your head.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
