
Ffocws dysgu
Dysga ddefnydio sgiliau mesur i ddeall a rhoi trefn ar ddyddiau’r wythnos.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to use measuring skills to understand and put the days of the week in order.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo
Mae Rhys yn gwneud dyddiadur fideo am ddyddiau’r wythnos.
Dyddiau’r wythnos
RHYS Ah! Dyma fo! Fy nghamera fideo!
Helo. Rhys ydw i. Dw i’n gwneud dyddiadur fideo am ddyddiau’r wythnos.
Dydd Llun, dw i’n chwarae gyda’r gath.
Dydd Mawrth, dw i’n rhoi bwyd i’r pysgodyn aur.
Pa ddiwrnod ydy hi heddiw? O ie! Dydd Mercher.
Dydd Mercher, dw i’n glanhau cawell y gwningen.
Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
PAROT Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
RHYS Mae’n ddydd Gwener heddiw a dw i’n mynd â’r pry cop am dro.
Mae’n rhaid i mi helpu dad yfory.
Mae’n ddydd Sadwrn heddiw a dw i’n siopa gyda dad.
Dydd Sul, dw i’n hoffi ymlacio gyda’r anifeiliaid.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- adrodd dyddiau’r wythnos yn y drefn gywir
- defnyddio profiadau personol i siarad am ddyddiau’r wythnos
Notes for parents
After watching the video, pupils will be able to:
- name the days of the week in the correct order
- use personal experiences to talk about days of the week

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Ysgrifenna ddyddiau'r wythnos yn y drefn gywir, yn dechrau gyda Dydd Sul a gorffen gyda Dydd Sadwrn.
Write the days of the week in the correct order, starting with Sunday and finishing with Saturday.
- Sawl diwrnod sydd mewn un wythnos? / How many days are there in one week?
- Sawl diwrnod sydd mewn dwy wythnos? / How many days are there in two weeks?
- Sawl diwrnodd sydd yn y penwythnos? / How many days are there in a weekend?

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Wyt ti'n gwybod sawl mis sydd mewn blwyddyn? / Do you know how many months there are in a year?
Wyt ti'n gallu enwi'r misoedd i gyd? / Can you name all the months of the year?
Sawl mis sydd mewn hanner blwyddyn? / How many months are there in half a year?
Wyt ti'n gallu ysgrifennu ateb i gwestiwn 3 fel ffracsiwn? / Can you write the answer to question 3 as a fraction?
Clicia yma i weld yr atebion i'r cwestiynau. / Click here for the answers.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
