
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddeall a defnyddio iaith sy’n briodol ar gyfer ysgrifennu, ee ansoddair.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to understand and use language appropriate to writing, eg adjective.
This lesson includes:
- one video
- three activities

For an English version of this lesson, scroll below.
Fideo
Mae losin yn siop y sinema yn canu am sut maen nhw’n teimlo.
ELIN Bore da, bore da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
BANANA Dw i’n hapus, diolch. Dw i’n hapus a blasus a melys.
Whiiiii!
ELIN Bore da, bore da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
SIOCLED Dw i wedi blino. Dw i wedi blino, dw i wedi blino’n lân.
Whiiii…
ELIN O p’nawn da, O p’nawn da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
DYMI SUR Dw i’n drist.
ELIN O, na!
DYMI SUR Dw i’n drist, mae fy ffrindiau wedi mynd… Aaaargh…
ELIN Sut wyt ti rŵan?
DYMI SUR Dw i’n drist iawn. Dw i eisiau crio.
POPCORN Hei, paid crio,
Ie, paid ypsetio!
Dere i joio,
Gyda ni!
Dy ffrindie newydd di!
DYMI/POPCORN Whiiiii! Hi hi hi hi hi!
ELIN O p’nawn da, o p’nawn da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
P’nawn da.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- gofyn cwestiynau syml, Sut wyt ti? ac ymateb yn addas
- defnyddio ansoddeiriau mewn brawddegau
- dehongli tabl er mwyn casglu gwybodaeth

Gweithgaredd 1
Mae nifer o ansoddeiriau (geiriau disgrifio) yn y fideo, megis hapus, blasus a melys. Wyt ti'n gallu meddwl am ansoddeiriau i ddisgrifio losin?
Isod, mae rhestr o eiriau:
- dyn
- castell
- tŷ
- mynydd
- gardd
Tynna lun o bob gair a defnyddia'r gair mewn brawddeg gydag ansoddeiriau addas.

Enghraifft - Mae'r tŷ yn fach ac yn las


Gweithgaredd 2
- Darllena'r brawddegau isod. Mae ansoddeiriau yn y brawddegau. Wyt ti'n gallu gweld ble maen nhw?
- Mae'r banana melyn yn dawnsio.
- Mae'r losin yn felys.
- Mae'r siocled yn fendigedig.
- Mae'r siop fach ar agor tan yn hwyr.
Dangosa ble maen nhw drwy gopïo'r brawddegau ar ddarn o bapur a thanlinella'r ansoddeiriau.
- Nesa, newidia'r ansoddeiriau yn y brawddegau uchod am rai newydd.
Enghraifft
- Brawddeg wreiddiol: Mae'r banana melyn yn dawnsio
- Brawddeg newydd: Mae'r banana blasus yn dawnsio.

Gweithgaredd 3
Edrycha ar y tabl isod. Mae'n dangos manylion am bobl gwahanol.
| Pwy | Disgrifiad | |
|---|---|---|
| Siân | yn hapus | |
| Salah | yn drist | |
| Jac | yn ddoniol | |
| Sioned | yn flinedig | |
| Nisien | yn ddrwg | |
| Anusha | yn siaradus |
Defnyddia'r wybodaeth er mwyn ysgrifennu brawddeg am bob un o'r cymeriadau.
Enghraifft
- Mae Siân yn hapus.

Video
Sweets in the cinema sing about how they feel.
ELIN Bore da, bore da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
BANANA Dw i’n hapus, diolch. Dw i’n hapus a blasus a melys.
Whiiiii!
ELIN Bore da, bore da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
SIOCLED Dw i wedi blino. Dw i wedi blino, dw i wedi blino’n lân.
Whiiii…
ELIN O p’nawn da, O p’nawn da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
Bore da.
Helo. Sut wyt ti heddiw?
DYMI SUR Dw i’n drist.
ELIN O, na!
DYMI SUR Dw i’n drist, mae fy ffrindiau wedi mynd… Aaaargh…
ELIN Sut wyt ti rŵan?
DYMI SUR Dw i’n drist iawn. Dw i eisiau crio.
POPCORN Hei, paid crio,
Ie, paid ypsetio!
Dere i joio,
Gyda ni!
Dy ffrindie newydd di!
DYMI/POPCORN Whiiiii! Hi hi hi hi hi!
ELIN O p’nawn da, o p’nawn da,
Dewch mewn i’r siop da-da,
Sydd yn y sinema,
P’nawn da.
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- ask simple questions, Sut wyt ti? and answer appropriately
- use adjectives in sentences
- interpret a table to extract information

Activity 1
There are a number of adjectives (describing words) in the video, such as hapus (happy), blasus (tasty), melys (sweet).
Can you think of adjectives to describe sweets?
Below is a list of words. Draw a picture of each word and use the word in a sentence with suitable adjectives.

Example - Mae'r tŷ yn fach ac yn las. (The house is small and blue)


Activity 2
- Read the sentences below. There are adjectives in the sentences. Can you see where they are?
- Mae'r banana melyn yn dawnsio. (The yellow banana is dancing.)
- Mae'r losin yn felys. (The sweets are sweet.)
- Mae'r siocled yn fendigedig. (The chocolate is wonderful.)
- Mae'r siop fach ar agor tan yn hwyr. (The little shop is open late.)
Show where the adjectives are by copying the sentences onto a piece of paper and underline the adjectives.
- Next, swap the adjectives in the sentences for different adjectives.
Example
- Original sentence: Mae'r banana melyn yn dawnsio. (The yellow banana is dancing).
- New sentence: Mae'r banana blasus yn dawnsio. (The tasty banana is dancing).

Activity 3
Look at the table below. It shows details about different people.
| Pwy | Disgrifiad | |
|---|---|---|
| Siân | yn hapus | |
| Salah | yn drist | |
| Jac | yn ddoniol | |
| Sioned | yn flinedig | |
| Nisien | yn ddrwg | |
| Anusha | yn siaradus |
Here's the table in English.
| Who | Description | |
|---|---|---|
| Siân | happy | |
| Salah | sad | |
| Jac | funny/amusing | |
| Sioned | tired | |
| Nisien | naughty | |
| Anusha | talkative/chatty |
Use the information to write a sentence about each of the characters.
Example
- Mae Siân yn hapus. (Sian is happy).

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
