
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau rhif er mwyn adnabod a deall odrifau ac eilrifau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to use number skills in order to recognise and understand odd and even numbers.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Gwylia'r mwncïod yn egluro beth yw eilrifau ac odrifau.
Watch the monkeys explaining odd and even numbers.
Mae rhifau cyfan naill ai yn odrifau neu’n eilrifau.
Beth am ofyn i’r mwncïod ein helpu ni?
Amser i bigo’r bananas!
Os 'dan ni’n rhannu nifer eilrif o fananas rhwng y ddau fwnci.
Yna bydd ganddyn nhw’r un nifer o fananas yr un.
Gwych! Mae pawb yn hapus.
Mae eilrifau wastad yn gallu cael eu rhannu rhwng dau.
Ac wastad yn gorffen gyda 0, 2, 4, 6 neu 8.
Ond os oes nifer odrif o fananas i’w rhannu.
Bydd gan un mwnci lai o fananas na’r llall.
Www… a dydy o ddim yn hapus am hynny o gwbl!
Mae odrifau wastad yn gorffen gydag 1, 3, 5, 7 neu 9.
Efallai buasai gwneud smŵddi o’r holl fananas ‘na yn haws na’u rhannu nhw!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw eilrifau ac odrifau
- deall bod eilrifau wastad yn gorffen gyda 0, 2, 4, 6, neu 8
- deall bod odrifau wastad yn gorffen gydag 1, 3, 5, 7, neu 9
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand what odd and even numbers are
- understand that even numbers always end with 0, 2, 4, 6, or 8
- understand that odd numbers always end with 1, 3, 5, 7, or 9

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Trefna’r bananas i mewn i odrifau ac eilrifau.
Arrange the bananas into odd numbers and even numbers.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
