
Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i iaith ac arddull ysgrifennu blog
- Enghreifftiau o flogiau
- Un gweithgaredd i ymarfer ysgrifennu’n anffurfiol
- Un gweithgaredd i ysgrifennu blog gwyliau
Lesson content
- One introduction to the language and style of blog writing
- Examples of blogs
- One activity to practise writing informally
- One activity to write a holiday blog

Blog
Dyddiadur personol ar-lein yw blog.
Gall unrhyw un sefydlu blog. Mae'n ffordd hawdd o gysylltu a rhannu gwybodaeth gyda phobl eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o fater penodol.
Pwrpas blog yw bod y person sy'n ysgrifennu'r blog yn trafod testun sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw.
Felly, mae blog yn gallu trafod unrhyw bwnc, ond dyma enghreifftiau o destunau poblogaidd:
- digwyddiad
- taith
- barn am bwnc penodol
- adolygu ffilm, darn o gerddoriaeth neu nofel
Iaith ac arddull blog
Mae'r rhan fwyaf o flogwyr yn defnyddio arddull anffurfiol wrth ysgrifennu, hynny yw y math o Gymraeg y byddet ti'n ei defnyddio mewn llythyr at ffrind neu mewn neges e-bost.
- Mae angen i ti ysgrifennu’n gronolegol, hynny yw mewn trefn amser, ee bore, wedyn prynhawn, ac yna'r nos.
- Gan amlaf, mae angen ysgrifennu yn y person cyntaf (fi/ni).
- Defnyddia iaith bob dydd yn hytrach na iaith ffurfiol, ee dw i/rwy'n; chdi; bant.
- Cadwa’r wybodaeth yn syml gyda brawddegau byr.
- Dewisa deitl sy’n tynnu sylw ac sy’n crynhoi cynnwys y blog.
Sut i ddenu pobl at dy flog?
Mae dros 31 miliwn o bobl yn y byd yn blogio, sy’n golygu ei fod yn gyfrwng poblogaidd i rannu gwybodaeth. Felly, sut mae denu sylw at dy flog?
Mae iaith ac arddull yn bwysig, ond hefyd cofia:
- ysgrifenna flog sy’n dy ddiddori di, yna rwyt ti’n debygol o siarad gydag angerdd
- defnyddia luniau trawiadol i gyflwyno gwybodaeth
- ceisia osod y blog mewn ffordd sy’n ddeniadol ac yn hawdd i’w ddarllen
- cofia - gall unrhyw un ysgrifennu blog, felly paid â bod ofn rhoi cynnig arni!
Agoriad blog
Mae'r llinell gyntaf mewn unrhyw flog yn rhoi'r cyfle i ti ddenu dy ddarllenwyr yn syth.
Drwy hoelio sylw'r darllenwyr, gydag unrhyw lwc, bydden nhw'n dymuno darllen gweddill dy flog. Wedi'r cwbl, mae mwy gen ti i’w ddweud yng ngweddill y blog, a fydd yn y pendraw, gobeithio, yn procio meddwl y darllenydd.
Dyma rai enghreifftiau o sut i fachu diddordeb y darllenydd ar dechrau dy flog:
- dyfyniad diddorol
- ystadegyn syfrdanol
- ffaith nad ydy’r darllenydd yn gwybod amdani
- hiwmor
- cwestiwn sy'n procio meddwl y darllenydd

Enghraifft 1 / Example 1
Dyma enghraifft sy'n cynnwys iaith ac arddull arferol blog.
Merched ysbrydoledig
Mae diwedd y flwyddyn yn adeg dda am restr, dydy? Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn merched arbennig. Dyma ddwy sydd wedi fy ysbrydoli i fwyaf.
Greta Thunberg
Ai Greta Thunberg yw merch enwoca’r byd? Synen i daten!! Mae’r ferch ifanc hon, gyda’i llais bychan ond neges bwysig yn gyfarwydd i bobl o bedwar ban byd, o hemisffer y de i hemisffer y gogledd. Mae ei hymgyrch i ddenu sylw at newid hinsawdd wedi ysbrydoli pobl ifanc i godi eu llais a mynnu bod gwleidyddion yn troi eu sylw at ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd. Mae’n ddi-flewyn ar dafod, sy’n ypsetio rhai gwleidyddion ond yn fy mhlesio i - merch ifanc sy’n dweud ei dweud, beth sy’ ddim i’w hoffi?
Billie Eilish
Am lais, am dalent! Nid ar chwarae bach mae cynhyrchwyr 'franchise' James Bond yn gwahodd rhywun i ysgrifennu a recordio cân agoriadol un o’u ffilmiau, ond mae’r fraint honno’n dweud yn glir cymaint o dalent yw’r gantores ifanc yma. Gyda’i llais soprano hudolus, mae ei harddull canu’n freuddwydiol ac yn wahanol iawn i’r traciau pop ac R&B digon cyffredin sy’n amlwg ar hyd siartiau cerddoriaeth y byd. A hithau ‘mond yn ddeunaw oed, mae’r dyfodol yn ddisglair tu hwnt i gantores ‘Cân y Flwyddyn’, Grammy’s 2020, Billie Eilish.

Enghraifft 2 / Example 2
Dyma enghraifft o flog gwyliau. Mae'n cynnwys iaith ac arddull arferol blog, ond mae hefyd yn defnyddio lluniau a lliwiau deniadol i ddenu'r darllenwyr.


Gweithgaredd 1
Mae angen defnyddio iaith anffurfiol wrth ysgrifennu blog.
Newidia’r brawddegau ffurfiol isod i Gymraeg anffurfiol, gan edrych yn benodol ar y ffurfiau berfol. Mae'r enghraifft gyntaf wedi ei gwneud yn barod.
| Cymraeg ffurfiol | Cymraeg anffurfiol | |
|---|---|---|
| Cerddaf i’r dref. | Dw i’n cerdded i’r dre'. | |
| Af allan i’r siop bob dydd. | ||
| Nid wyf yn hoffi mynd yn y car. | ||
| Nid oeddwn yn mwynhau teithio pan oeddwn yn fach. | ||
| Nid oedd gennym ni anifail anwes. | ||
| Euthum i ar wyliau haf i Sbaen. | ||
| Cefais feic pan oeddwn yn ddeuddeg oed. | ||
| Credaf fy mod yn eu hadnabod yn weddol dda. |

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dychmyga dy fod eisiau ysgrifennu blog am wyliau arbennig.
Cyn mynd ati i ysgrifennu dy flog gwyliau, arbrofa gyda dy agoriad trwy ddefnyddio’r enghreifftiau rwyt ti wedi dysgu amdanyn nhw uchod. Cofia gallet ti ddewis o bump gwahanol fath o agoriad cyn i ti ysgrifennu gweddill dy flog, sef:
- dyfyniad diddorol
- ystadegyn syfrdanol
- ffaith nad ydy’r darllenydd yn gwybod amdani
- hiwmor
- cwestiwn sy'n procio meddwl y darllenydd
Pa bynnag agoriad rwyt ti'n ei ddewis o'r rhestr uchod, cofia fod yn gryno ac i’r pwynt!

Nodiadau i rieni
Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw blog
- deall pa fath o iaith ac arddull i'w defnyddio mewn blog
- ysgrifennu blog yn hyderus, gan ddefnyddio iaith anffurfiol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand what a blog is
- understand the type of language and style required in a blog
- confidently write a blog using informal language

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
