
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio geirfa briodol, gan gynnwys geiriau ac ymadroddion pwnc benodol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to use appropriate vocabulary, including subject-specific words and phrases.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Carter eisiau mynd i sglefrfyrddio cyn mynd i’r ysgol.
Cwestiynau am yr ysgol
JERRY Bore da, Carter. Ydy hi’n amser mynd i’r ysgol?
CARTER Na. Mae awr tan amser cofrestru.
JERRY Dw i wedi anghofio. I ba ysgol wyt ti’n mynd?
CARTER Dw i’n mynd i Ysgol Rhosfawr.
JERRY Beth yw dy hoff bwnc di?
CARTER Dw i eisiau mynd mas, tadcu!
JERRY Wyt ti’n hoffi Cymraeg? Saesneg? Gwyddoniaeth efallai?
Neu wyt ti’n hoffi Sbaeneg? Technoleg? Celf?
CARTER Ymmm…
JERRY Neu wyt ti’n hoffi cerdd? Dw i’n caru chwarae’r sacsoffon!
CARTER Dw i’n hoffi mathemateg.
JERRY O, da iawn.
CARTER Beth wyt ti eisiau nawr?
JERRY Oes athrawon llym gyda ti?
CARTER Oes.
JERRY Wel, mae hi’n amser mynd i’r ysgol!
Mae’n amser gwisgo nawr. Paid anghofio dy waith cartref!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee pwnc, Cymraeg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Sbaeneg, Technoleg, Celf, Cerdd, Mathemateg, llym, amser gwisgo, gwaith cartref
- strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Beth yw…?, Wyt ti'n…?

Gweithgaredd 1
Pa bwnc ysgol sydd yma?

Gweithgaredd 2
Ysgrifenna beth yw dy hoff bwnc yn yr ysgol a pham, ee:
- Fy hoff bwnc yn yr ysgol yw Hanes, achos mae'n ddiddorol.
Nawr ysgrifenna beth yw dy gas bwnc yn yr ysgol, ee:
- Fy nghas bwnc yn yr ysgol yw Gwyddoniaeth, achos mae'n ddiflas.
Gofynna i aelodau'r teulu beth yw, neu beth oedd, ei hoff neu eu cas bynciau yn yr ysgol ac ysgrifenna'r wybodaeth i lawr, ee:
- Hoff bwnc Dad yn yr ysgol oedd Cerdd, achos mae e'n hoffi canu.
- Cas bwnc fy chwaer yn yr ysgol yw Ymarfer Corff, achos dydy hi ddim yn mwynhau rhedeg pan mae hi'n oer tu allan.

Video
Carter wants to go skateboarding before going to school.
Cwestiynau am yr ysgol
JERRY Bore da, Carter. Ydy hi’n amser mynd i’r ysgol?
CARTER Na. Mae awr tan amser cofrestru.
JERRY Dw i wedi anghofio. I ba ysgol wyt ti’n mynd?
CARTER Dw i’n mynd i Ysgol Rhosfawr.
JERRY Beth yw dy hoff bwnc di?
CARTER Dw i eisiau mynd mas, tadcu!
JERRY Wyt ti’n hoffi Cymraeg? Saesneg? Gwyddoniaeth efallai?
Neu wyt ti’n hoffi Sbaeneg? Technoleg? Celf?
CARTER Ymmm…
JERRY Neu wyt ti’n hoffi cerdd? Dw i’n caru chwarae’r sacsoffon!
CARTER Dw i’n hoffi mathemateg.
JERRY O, da iawn.
CARTER Beth wyt ti eisiau nawr?
JERRY Oes athrawon llym gyda ti?
CARTER Oes.
JERRY Wel, mae hi’n amser mynd i’r ysgol!
Mae’n amser gwisgo nawr. Paid anghofio dy waith cartref!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use specific vocabulary, eg pwnc, Cymraeg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Sbaeneg, Technoleg, Celf, Cerdd, Mathemateg, llym, amser gwisgo, gwaith cartref (subject, Welsh, English, Science, Spanish, Technology, Art, Music, Mathematics, strict, time to get dressed, homework)
- structure a sentence using patterns such as, Beth yw…?, Wyt ti'n…? (What is…?, Do you…?)

Activity 1
Which school subjects are these?

Activity 2
Write down your favourite subject in school and the reason why, eg:
- Fy hoff bwnc yn yr ysgol yw Hanes, achos mae'n ddiddorol. (My favourite subject in school is History, because it's interesting.)
Now, write about the subject you dislike most in school, eg:
- Fy nghas bwnc yn yr ysgol yw Gwyddoniaeth, achos mae'n ddiflas. (My most hated subject in school is Science, because it's boring.)
Ask members of your family what is, or what was, their favourite and most disliked subject in school and write the information down, eg:
- Hoff bwnc Dad yn yr ysgol oedd Cerdd, achos mae e'n hoffi canu. (Dad's favourite lesson in school was Music, because he likes singing.)
- Cas bwnc fy chwaer yn yr ysgol yw Ymarfer Corff, achos dydy hi ddim yn mwynhau rhedeg pan mae hi'n oer tu allan. (My sister's most hated subject in school is PE, because she doesn't enjoy running when it's cold outside.)

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
