Creu trafodaeth - Beth yw trafodaeth?

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i fynegi barn am bynciau a thestunau ysgrifenedig gan gynnig ambell reswm i gefnogi barn.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn how to express opinions about topics and written texts and include some supporting reasons.

This lesson includes:

  • three activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw trafodaeth?

Trafodaeth yw sgwrs am bwnc penodol rhwng dau neu fwy o bobl lle mae cyfle i fynegi barn ac efallai dod i gytundeb.

Mae trafodaeth yn gallu digwydd yn naturiol, neu fod wedi ei threfnu.

Byddai'r byd yn lle diflas, ond tawel iawn, pe bai pawb yn cytuno gyda'i gilydd ar bob pwnc o dan haul!

Llinell / Line

Mae pob math o drafodaethau i'w clywed ym mhob man, er enghraifft:

  • yn y dosbarth
  • ar y buarth
  • yn y cartref
  • ar y stryd
  • ar y teledu
  • ar y radio
  • ar-lein

Mae ychydig o wahaniaethau rhwng ffrae (cweryla) a dadl, sef trafodaeth rhwng pobl sy’n anghytuno. Ond, mae nodweddion sy'n gyffredin iddynt.

Mae'n debyg dy fod wedi ffraeo neu ddadlau gyda ffrind, brawd neu chwaer rhywbryd neu gilydd.

Fel arfer, mae'r ffrae neu'r ddadl am bethau digon dibwys. Er enghraifft, pa raglen deledu i'w gwylio neu faint o'r gloch mae amser gwely.

Mae ffrae neu ddadl yn digwydd ar hap, ble nad oes neb yn poeni am baratoi o flaen llaw.

Ar y llaw arall, mae'n bwysig trefnu trafodaeth ffurfiol, gan baratoi yn ofalus.

Dyma beth ydyn ni'n ei wneud gan amlaf yn yr ysgol:

  • penderfynu beth yw pwrpas y drafodaeth
  • gwneud gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth
  • penderfynu sut i gyflwyno barn
  • defnyddio iaith addas
  • mynegi safbwyntiau yn glir ac yn gryno
  • gwrando ac ymateb i ddadleuon pobl eraill
  • gofyn cwestiynau i aelodau’r grŵp
  • mynegi barn yn glir
  • dod i gasgliadau

Pan rwyt ti’n trafod pwnc penodol, mae'n bwysig peidio â gwylltio na mynd dros ben llestri pan rwyt ti’n anghytuno gyda barn rhywun arall.

Llinell / Line

Sut mae cynnal trafodaeth mewn ffordd synhwyrol?

Mae paratoi ar gyfer trafodaeth yn bwysig. Does dim pwrpas mynegi barn am destun neu bwnc penodol oni bai dy fod yn sicr o'r ffeithiau o flaen llaw. Sut allwn ni wneud hyn?

Gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth

  • Darllena lyfrau gwybodaeth, pamffledi ac adroddiadau papurau newydd.
  • Defnyddia'r we er mwyn casglu gwybodaeth am wahanol bynciau.
  • Darllena ffynonellau gwahanol er mwyn cael dwy ochr i'r pwnc.
  • Darllena'r wybodaeth yn gyflym i ddechrau, ond cofia edrych eto yn ofalus ar y wybodaeth rwyt ti yn ei ystyried sydd fwyaf perthnasol.
  • Uwchliwia ac ysgrifenna nodiadau byr am y ffeithiau pwysig.
  • Gallet ddefnyddio pwyntiau bwled, sef pwyntiau byr mewn rhestr, i gyflwyno'r wybodaeth yn glir ac yn gryno.

Bydd hyn o gymorth mawr wedyn pan fyddi di’n trafod.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Edrycha ar y clip yma o Anita a Diane yn siarad yn 'Pobol y Cwm'.

  • Ydy’r drafodaeth yn troi’n ffrae?
  • Ydy hi’n ddadl ffurfiol?
  • Wyt ti’n gallu gweld dwy ochr y ddadl?

Clicia yma i weld atebion gweithgaredd 1 ar gyfer Beth yw trafodaeth?

Llinell / Line

Paratoi ar gyfer trafodaeth

Pan rwyt ti'n paratoi ar gyfer trafodaeth, mae'n bwysig dy fod yn gwrando ar farn a safbwyntiau pobl eraill.

Ystyr y gair 'safbwynt' yw’r ffordd mae person yn edrych ar sefyllfa.

Os wyt o blaid syniad, rwyt yn ei gefnogi.

Os wyt ti yn erbyn syniad, rwyt ti’n anghytuno gyda’r ddadl neu safbwynt arbennig.

Llinell / Line

Rheoli'r Wyddfa

Edrycha ar y fideo yma, o wefan BBC Radio Cymru, sy’n dangos pobl yn dringo i gopa’r Wyddfa.

A ddylai’r hanner miliwn sy’n cerdded yr Wyddfa dalu am y fraint?

Wyt ti o blaid neu yn erbyn y syniad y dylai pobl dalu i ddringo’r Wyddfa?

Gallet gofnodi'r dadleuon ar daflen syml gan nodi pwyntiau o blaid mewn un golofn a phwyntiau yn erbyn mewn colofn arall.

Dyma enghraifft o ddadleuon o blaid ac yn erbyn codi tâl i ddringo’r Wyddfa.

O blaidYn erbyn
1. Mae gormod o bobl yn cerdded yno. Gan na fydd pawb am dalu, bydd llai o bobl yn penderfynu mynd am dro yno.1. Mae pobl wedi bod yn cerdded y llwybrau ar hyd y blynyddoedd heb orfod talu ceiniog. Nid yw’n deg i newid y sefyllfa nawr.
2. Mae angen arian i dalu am y gwaith cynnal a chadw ac i sicrhau bod y llwybrau yn ddiogel i bawb drwy gydol y flwyddyn.2. Mae mynd am dro yn yr awyr iach yn beth da i bawb. Mae’n ymarfer corff ac yn dda i'r iechyd meddwl.
3. Mae cerddwyr yn gadael sbwriel ac mae angen talu pobl i gasglu eu sbwriel.3. Nid yw pawb yn gallu fforddio talu i fwynhau cerdded ar y llwybrau. Ni fydd pobl dlawd yn cael yr un cyfle.
4. Mae angen arian ar y cyngor a byddai’r arian ychwanegol yma yn helpu i dalu am wasanaethau eraill fel addysg.4. Fe all gwirfoddolwyr gasglu sbwriel a helpu gyda’r gwaith cynnal a chadw i arbed costau.

Mae'n bwysig dy fod yn gallu cynnig rhesymau i gefnogi dy safbwyntiau. Gallet ddefnyddio termau fel 'oherwydd' neu 'achos' er mwyn rhoi rhesymau i gefnogi dy safbwynt, er enghraifft:

"Mae angen i bob plentyn ysgol gael cyfrifiadur, oherwydd mae angen gwneud gwaith cartref ar-lein yn y tŷ."

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Ceisia gwblhau'r brawddegau hyn, ar ddarn o bapur neu yn ddigidol, gan ddefnyddio 'oherwydd' neu 'achos'.

  1. Dylai plant gerdded i'r ysgol os yn bosibl oherwydd…

  2. Dylai plant Cymru gael diwrnod i ffwrdd o'r ysgol ar Ddydd Gŵyl Dewi achos…

  3. Mae angen mwy o amser ar gyfer Addysg Gorfforol ar amserlen yr ysgol oherwydd…

  4. Dylai disgyblion wisgo gwisg ysgol oherwydd…

  5. Mae angen llai o waith cartref oherwydd…

Clicia yma i weld atebion gweithgaredd 2 ar gyfer Beth yw trafodaeth?

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Gwranda ar y clip yma o wefan Radio Cymru. Mae Iolo Williams yn sôn am y cynnydd enfawr mewn sbwriel plastig sydd yn y môr.

Mae Cadi a Jac wedi bod yn trafod a ddylai’r llywodraeth wahardd dŵr potel yng Nghymru, sy'n defnyddio plastig.

Mae Jac yn anghytuno gyda Cadi. Mae Cadi o blaid ac mae Jac yn erbyn. Mae Jac yn hoff iawn o ddŵr potel ac yn erbyn y syniad o’i wahardd.

Beth wyt ti’n meddwl yw rhesymau Jac?

Cadi - o blaidJac - yn erbyn
1. Mae pobl yn taflu poteli plastig heb feddwl am y problemau mae hyn yn achosi.1.
2. Mae’n cymryd blynyddoedd mawr i blastig bydru.2.
3. Nid yw dŵr potel yn well safon na dŵr tap.3.
4. Mae dŵr tap yn rhad ac mae dŵr potel yn wastraff arian.4.
5. Mae’r gost o gludo dŵr potel i’r siopau o amgylch Prydain yn wastraff.5.

What is a discussion?

A discussion is a conversation between two or more people about a specific topic, where they have an opportunity to express their opinion and perhaps come to an agreement.

A discussion can occur naturally, or be arranged.

The world would be a very boring, but very quiet, place if everyone agreed with each other about every topic under the sun!

Llinell / Line

All kinds of discussions can be heard everywhere, for example:

  • in the classroom
  • on the playground
  • at home
  • on the street
  • on the television
  • on the radio
  • online

There are a few differences between an argument (verbal fight) and a debate, which is a discussion between people who disagree. But there are similarities too.

It’s likely that you have argued or debated with a friend, a brother or a sister at one time or another.

The argument or debate is usually to do with something trivial. For example, which television programme to watch or when your bedtime is.

An argument or debate happens at random, where nobody goes to the trouble of preparing beforehand.

On the other hand, it’s important to organise a formal discussion and prepare carefully.

This is what we usually do at school:

  • decide what the purpose of the discussion is
  • do some research and gather information
  • decide how to present an opinion
  • use appropriate language
  • express opinions clearly and succinctly
  • listen and respond to other people’s arguments
  • ask questions to group members
  • clearly express opinions
  • come to conclusions

When discussing a specific topic, it’s important not to get angry or go over the top when disagreeing with someone else’s opinion.

Llinell / Line

How to hold a discussion in a sensible manner?

It’s important to prepare for a discussion. There’s no point expressing an opinion about a specific topic or subject unless you are certain of the facts beforehand. How can we do this?

Research and gathering information

  • Read informative books, pamphlets and newspaper reports.
  • Use the internet to gather information about different topics.
  • Read different sources in order to look at the topic from both sides.
  • Read the information quickly to begin with, but remember to look carefully at the information you consider to be most relevant.
  • Highlight the important facts and write down brief notes about them.
  • You could use bullet points (a list of concise points) to present the information clearly and succinctly.

This will be very helpful to you when discussing.

Llinell / Line

Activity 1

Look at this clip of Anita and Diane, talking in the soap opera 'Pobol y Cwm'.

  • Does the discussion turn into an argument?
  • Is it a formal argument?
  • Can you see two sides to the argument?

Click here for the answers to activity 1

Llinell / Line

Preparing for a discussion

When preparing for a discussion, it's important that you listen to other people’s opinions.

The word ‘view’, or ‘viewpoint’, means how a person looks at a situation.

If you are for an idea, you support it.

If you are against an idea, you disagree with the argument or a specific view.

Llinell / Line

Regulating Snowdon (Yr Wyddfa)

Look at this video from the BBC Radio Cymru website showing people climbing up to the summit of Snowdon.

Should the half a million people walking up Snowdon pay for the privilege?

Are you for or against the idea that people should pay to go up Snowdon?

You could jot down the arguments on a simple sheet, making a note of pointso blaid(for) in one column and pointsyn erbyn(against) in another.

Here are examples of argumentso blaid(for) andyn erbyn(against) charging people to climb Snowdon.

O blaidYn erbyn
1. Mae gormod o bobl yn cerdded yno. Gan na fydd pawb am dalu, bydd llai o bobl yn penderfynu mynd am dro yno.1. Mae pobl wedi bod yn cerdded y llwybrau ar hyd y blynyddoedd heb orfod talu ceiniog. Nid yw’n deg i newid y sefyllfa nawr.
2. Mae angen arian i dalu am y gwaith cynnal a chadw ac i sicrhau bod y llwybrau yn ddiogel i bawb drwy gydol y flwyddyn.2. Mae mynd am dro yn yr awyr iach yn beth da i bawb. Mae’n ymarfer corff ac yn dda i'r iechyd meddwl.
3. Mae cerddwyr yn gadael sbwriel ac mae angen talu pobl i gasglu eu sbwriel.3. Nid yw pawb yn gallu fforddio talu i fwynhau cerdded ar y llwybrau. Ni fydd pobl dlawd yn cael yr un cyfle.
4. Mae angen arian ar y cyngor a byddai’r arian ychwanegol yma yn helpu i dalu am wasanaethau eraill fel addysg.4. Fe all gwirfoddolwyr gasglu sbwriel a helpu gyda’r gwaith cynnal a chadw i arbed costau.

Here's a translation of the table.

ForAgainst
1. Too many people are walking there. Not everyone will want to pay, so fewer people will decide to go walking there.1. People have been walking these paths for years without having to pay a penny. It’s not fair to change the situation now.
2. Money is needed to pay for the maintenance of the paths and to make sure they are safe for everyone all year round.2. Going for a walk in the fresh air is good for everyone. It’s a form of exercise and it’s good for mental health.
3. Walkers leave litter behind and people have to be paid to pick up their rubbish.3. Not everyone can afford to pay to enjoy going for a walk on the paths. Poor people won’t have the same opportunities.
4. The council needs money and this extra funding would help pay for other services, such as education.4. Volunteers can collect litter and help with the maintenance work to save money.

It's important you are able give reasons to support your opinions. You could use terms such as achos or oherwydd (which both mean 'because' or 'as') to give reasons to support your opinion, for example:

"Mae angen i bob plentyn ysgol gael cyfrifiadur, oherwydd mae angen gwneud gwaith cartref ar-lein yn y tŷ."

(“Every school pupil needs a computer because they need to do homework online from home.”)

Llinell / Line

Activity 2

Try and complete these sentences, on a piece of paper or digitally, using the words 'oherwydd' or 'achos' (because).

  1. Dylai plant gerdded i'r ysgol os yn bosibl oherwydd…

  2. Dylai plant Cymru gael diwrnod i ffwrdd o'r ysgol ar Ddydd Gŵyl Dewi achos…

  3. Mae angen mwy o amser ar gyfer Addysg Gorfforol ar amserlen yr ysgol oherwydd…

  4. Dylai disgyblion wisgo gwisg ysgol oherwydd…

  5. Mae angen llai o waith cartref oherwydd…

Here's a translation of the sentences.

  1. Children should walk to school if possible because…
  2. Children in Wales should have a day off school on St David’s Day because…
  3. More time should be allocated to Physical Education in the school timetable as…
  4. Pupils should wear a school uniform because…
  5. Pupils should be given less homework because…

Click here for the answers to activity 2

Llinell / Line

Activity 3

Listen to this clip from Radio Cymru's website.Iolo Williams discusses the huge increase in plastic waste in the sea.

Cadi and Jac have been discussing whether the government should ban bottled water in plastic bottles in Wales.

Jac disagrees with Cadi. Cadi is for and Jac is against. Jac likes bottled water very much and is against the idea of banning it.

What do you think are Jac's reasons?

Cadi - o blaidJac - yn erbyn
1. Mae pobl yn taflu poteli plastig heb feddwl am y problemau mae hyn yn achosi.1.
2. Mae’n cymryd blynyddoedd mawr i blastig bydru.2.
3. Nid yw dŵr potel yn well safon na dŵr tap.3.
4. Mae dŵr tap yn rhad ac mae dŵr potel yn wastraff arian.4.
5. Mae’r gost o gludo dŵr potel i’r siopau o amgylch Prydain yn wastraff.5.

Here's a translation of the table:

Cadi - forJac - against
1. People throw away plastic bottles without considering the problems caused by this.1.
2. It takes many years for plastic to decompose.2.
3. The quality of bottled water is no better than that of tap water.3.
4. Tap water is cheap and bottled water is a waste of money.4.
5. The cost of delivering bottled water to shops across Britain is wasteful.5.

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU