
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio a dangos rhywfaint o afael ar batrymau cystrawennol y Gymraeg a geirfa wrth siarad.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to use and demonstrate some grasp of a range of Welsh syntax structures and vocabulary when speaking.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Kasia a Carter yn paratoi ar gyfer y disgo.
Paratoi ar gyfer y disgo
KASIA Wyt ti’n barod am dy ddisgo heno, Carter?
CARTER Disgo? Pa ddisgo?
KASIA Dy ddisgo yn neuadd y dref.
CARTER O, ie! Mae’n dechrau am chwech o’r gloch. Faint o’r gloch ydy hi nawr?
KASIA Saith o’r gloch y bore.
CARTER Grêt. Mae digon o amser gyda fi i baratoi felly.
Ond plîs Kasia, cadw golwg ar yr amser, iawn?
KASIA Iawn.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CARTER Amser cinio.
Mae hi’n hanner awr wedi deuddeg.
Amser i ymarfer eto.
KASIA Iawn.
Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
Mae hi’n bedwar o’r gloch. Amser te.
CARTER Amser i ymarfer eto.
KASIA Mae hi’n bump o’r gloch.
CARTER Mae’r amser yn hedfan…
KASIA Mae hi’n chwarter wedi pump.
Mae hi’n hanner awr wedi pump.
Mae hi’n chwarter i chwech.
CARTER Eh? Faint o’r gloch ydy hi, Kasia?
KASIA Yhy… mae’n iawn. Mae hi’n chwech o’r gloch…
CARTER Yn y bore.
KASIA/CARTER AAAAARGH!
CARTER O diâr. Rydyn ni’n rhy hwyr i’r disgo.
Gwell hwyr na hwyrach!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee …o'r gloch, hanner awr wedi, chwarter wedi, chwarter i, unarddeg, deuddeg
- strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Faint o’r gloch ydy hi?, Mae hi'n…
- adnabod idiom, ee gwell hwyr na hwyrach

Gweithgaredd 1
Llusga’r amser cywir at y cloc cywir.

Gweithgaredd 2
Llusga'r amser cywir at y cloc cywir.

Video
Kasia and Carter are preparing for the disco.
Paratoi ar gyfer y disgo
KASIA Wyt ti’n barod am dy ddisgo heno, Carter?
CARTER Disgo? Pa ddisgo?
KASIA Dy ddisgo yn neuadd y dref.
CARTER O, ie! Mae’n dechrau am chwech o’r gloch. Faint o’r gloch ydy hi nawr?
KASIA Saith o’r gloch y bore.
CARTER Grêt. Mae digon o amser gyda fi i baratoi felly.
Ond plîs Kasia, cadw golwg ar yr amser, iawn?
KASIA Iawn.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CARTER Amser cinio.
Mae hi’n hanner awr wedi deuddeg.
Amser i ymarfer eto.
KASIA Iawn.
Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
Mae hi’n bedwar o’r gloch. Amser te.
CARTER Amser i ymarfer eto.
KASIA Mae hi’n bump o’r gloch.
CARTER Mae’r amser yn hedfan…
KASIA Mae hi’n chwarter wedi pump.
Mae hi’n hanner awr wedi pump.
Mae hi’n chwarter i chwech.
CARTER Eh? Faint o’r gloch ydy hi, Kasia?
KASIA Yhy… mae’n iawn. Mae hi’n chwech o’r gloch…
CARTER Yn y bore.
KASIA/CARTER AAAAARGH!
CARTER O diâr. Rydyn ni’n rhy hwyr i’r disgo.
Gwell hwyr na hwyrach!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use particular vocabulary, eg …o'r gloch, hanner awr wedi, chwarter wedi, chwarter i, unarddeg, deuddeg (… o'clock, half past, quarter past, quarter to, eleven, twelve)
- structure a sentence using patterns such as, Faint o’r gloch ydy hi?, Mae hi'n… (What time is it?, It is…)
- recognise an idiom, eg gwell hwyr na hwyrach (better late than never)

Activity 1
Drag the correct time to the correct clock.

Activity 2
Drag the correct time to the correct clock.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
