
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau mesur i ddewis unedau metrig priodol i fesur hyd, pwysau/màs a chynhwysedd.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to use measuring skills to choose appropriate metric units to measure length, weight/mass and capacity.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Mae pryfyn yn esbonio mesuriadau metrig.
A fly explains the metric measurements.
Beth yw mesuriadau metrig?
Mae'r system fetrig yn ddull o fesur pethau.
Wrth ddelio â hyd, y mesuriadau metrig yw: milimetrau, centimetrau, metrau, a chilometrau.
Byddai stamp yn cael ei fesur mewn milimetrau…
Mae deg milimetr mewn centimetr.
Byddem ym mesur tŷ dol mewn centimetrau.
Mae 100 o gentimetrau mewn metr.
Byddem yn mesur tŷ mewn metrau… ac mae 1000 o fetrau mewn cilometr.
Byddem yn mesur adeilad anhygoel o dal mewn metrau hefyd.
Paid! Mae mesuriadau metrig hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer pwysau pan fyddwn yn sôn am gramiau a chilogramiau ac mae mililitrau a litrau yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfaint.
Ffiw! Dyna lwc!
Nodiadau i rieni
- Gallwn fesur hyd gan ddefnyddio’r mesuriadau metrig yma: milimetrau (mm), centimetrau (cm), metrau (m) a chilometrau (km).
- Wrth fesur gwahanol bethau, rhaid ystyried pa uned fesur i ddefnyddio.
- Mae 10 mm mewn cm. Mae 100 cm mewn m. Mae 1000 m mewn km.
- Gallwn hefyd ddefnyddio mesuriadau metrig i fesur pwysau. Rydym yn defnyddio mililitrau (ml) a litrau (l) i fesur cyfaint a chilogramau (kg) i fesur pwysau.
Notes for parents
- We can measure length using these metric units: millimeters (mm), centimetres (cm), metres (m) and kilometres (km).
- When we measure different things, we must consider which unit is best to use.
- There are 10 mm in a cm. There are 100 cm in a m. There are 1000 m in a km.
- We also use metric units to measure weight. We use millilitres (ml) and litres (l) to measure volume and kilograms (kg) to measure weight.


Rydyn ni’n defnyddio’r system fetrig i fesur hyd, pwysau neu gyfaint rhywbeth. Caiff hyd ei fesur mewn milimetrau (mm), centimetrau (cm), metrau (m) neu gilometrau (km).
The metric system is used to measure the length, weight or volume of an object. Length is measured in millimetres (mm), centimetres (cm), metres (m) or kilometres (km).
- 1 cm = 10 mm
- 1 m = 100 cm
- 1 km = 1000 m
- tua lled stwffwl yw 1 cm / 1 cm is about the width of a staple
- tua lled gwely sengl yw 1 m / 1 m is about the width of a single bed

Caiff pwysau ei fesur mewn gramau (g) a chilogramau (kg). Caiff cyfaint ei fesur mewn mililitrau (ml) a litrau (l).
Weight is measured in grams (g) and kilograms (kg). Volume is measured in millilitres (ml) and litres (l).
- 1 kg = 1000 g
- 1 l = 1000 ml
- 1 kg yw pwysau saith afal / 1 kg is the weight of seven apples
- 1 l yw cyfaint carton o sudd oren / 1 l is the volume of a carton of orange juice

Gweithgaredd / Activity
Dewisa’r uned orau i fesur y gwrthrych.
Select the best unit to measure the object.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
