
Ffocws dysgu
Dysga gyfrif i 100 ac i gyfrif mewn degau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to count to 100 and to count in tens.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Gwylia Zac a Zoe yn gwerthu tocynnau raffl gan ddysgu sut i gyfrif ar yr un pryd.
Watch Zac and Zoe sell raffle tickets and learn to count at the same time.
ZOE Dyma ni! Gwobr gyntaf y raffl!
ZAC Dw i am ddechrau gwerthu tocynnau raffl rŵan!
ZOE Mae’n rhaid rhoi hanner y tocynnau yn y bwced raffl i ddechrau, Zac.
Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg, pum deg, chwe deg, saith deg, wyth deg, naw deg, cant!
Barod!
JERRY Ga’ i dri deg tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Tri deg punt os gwelwch yn dda.
Tri deg tocyn. Pob lwc.
HELEN Ga’ i bedwar deg pedwar tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg tocyn…
…pedwar deg un, pedwar deg dau, pedwar deg tri, pedwar deg pedwar tocyn. Pedwar deg pedwar punt os gwelwch yn dda.
Pob lwc.
HELEN Sawl tocyn sy’ gyda ni gyda’n gilydd?
JERRY Ym…mae tri deg a phedwar deg pedwar yn gwneud saith deg pedwar.
HELEN Rydyn ni’n mynd i ennill y raffl!
ZOE Sawl tocyn sy’ ar ôl Zac?
ZAC Deg, dau ddeg, dau ddeg un, dau ddeg dau, dau ddeg tri, dau ddeg pedwar, dau ddeg pump, dau ddeg chwech.
ZORA Ga’ i ddau ddeg pump tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Dau ddeg pum punt os gwelwch yn dda.
Pob lwc.
Dim ond un tocyn sy’ ar ôl!
ZOE Dydy’r tocyn yna ddim yn mynd i ennill y raffl. Rho’r tocyn i Gel!
ZAC Mae hi’n amser tynnu’r raffl!
ZOE Rhif cant sy’n ennill!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall yn weledol sut mae rhifau yn cynyddu
- cyfrif mewn degau ac unedau hyd at 100
- defnyddio'r gair 'sawl' yn gywir
Notes for parents
After watching the animation, students will be able to:
- visualise how numbers increase
- count in tens and units up to 100
- use the word sawl (how many) correctly as an alternative to faint (how many)

Gweithgaredd 1 /Activity 1
Gwna'r symiau isod.
Do the sums below.
10 + 16 =
23 + 8 =
44 + 14 =
53 + 23 =
16 + 17 =

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
