
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddangos gafael ar gystrawen naturiol y Gymraeg, ee defnyddio amrywiaeth o ymadroddion a phatrymau brawddegol cywir.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to demonstrate a grasp of natural Welsh syntax and sentence structures, eg use a variety of phrases and sentence structures correctly.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Mali yn egluro beth yw idiom i Erin. Mae hi'n credu bod Erin yn deall ystyr yr idiomau, ond mewn gwirionedd mae Erin yn gweld enghreifftiau gweledol a llythrennol o’u hystyron.
ERIN Sori bo fi’n hwyr, o’dd rhaid i fi ‘neud fy ngwallt ar gyfer fy hunlun ‘newydd ddeffro’. Iawn, c’mon, ni’n hwyr.
MALI I beth?
ERIN Sai ‘di penderfynu eto, ond fydd e’n hwyl!
MALI Wel dyna fo, diolch byth… On i ’di cychwyn cael llond bol o aros.
ERIN Llond bol? On i’n meddwl bo ni’n bwyta yn y dre? Wedes di ar y ffôn bo ti ddim am fwyta, a nawr ma ’da ti lond bol?
MALI Na, idiom yw e.
ERIN Oi, pwy ti’n alw’n idiot?
MALI Idiom ydi pan ti’n defnyddio term neu ddywediad sy’n golygu rhywbeth arall.
ERIN Mae’r hwch wedi mynd trwy’r siop!
MALI Ie, enghraifft berffaith. Yn hytrach na dweud, ”Mae pethau wedi mynd yn wael ac yn gyflym iawn”, mae idiom yn defnyddio syniadau a delweddau i gyfleu hynny.
ERIN Joseff, mae e wedi mynd dros ben llestri.
MALI Da iawn Erin, enghraiffft dda arall. Dros ben llestri – idiom sy’n disgrifio pan ma pethau neu berson wedi mynd yn rhy bell gyda’i ymddygiad. Dros ben llestri.
ERIN Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn.
MALI Ie wir, fy hoff idiom, ffordd arall o ddweud mae hi’n glawio. Pam hen wragedd a ffyn, pwy â wyr? Ond dyna ydy pwynt idiom. Mae’n fwy diddorol na jyst dweud ‘ma hi’n glawio’.
ERIN A dyma Rhodri. Ma’ fe’n siarad trwy ei het.
MALI Ma’ hynny bach yn gas, ti’n gw'bod bod ‘siarad trwy dy het' yn golygu siarad mewn ffordd ddibwys a diflas.
ERIN Ond ma’ fe’n siarad trwy ei het.
MALI Erin!
RHODRI Ie, champion, ‘da chi isho set DJ dwy awr. Dawns, hip hop a stryd? Wrth gwrs. A darfod erbyn hanner dydd achos dyna pryd ma' meithrin yn cau. Oce cwl. Awe efo’r micsars!
ERIN Rhodri, pam bo ti’n siarad trwy dy het?
MALI Erin!
RHODRI Hei genod, licio’r ffordd newydd ’ma o wisgo het? Mae o mor cŵl, fi di’r unig berson sy’n meiddio’i neud o.
ERIN Mae angen tynnu blewyn o drwyn Rhodri.
MALI Erin, beth sy’n bod arnat ti? Dw i’n gallu gweld bo ti’n deall idiomau, ac felly dylse ti wybod bod 'tynnu blewyn o drwyn rhywun' yn golygu bod yn gas a phigo arnyn nhw…
RHODRI Na, ma’ hi’n iawn, ma’ isho tynnu blewyn o ’nhrwyn i.
Dacw Joseff yn dod, â’i wynt yn ei ddwrn!
MALI Ma’r idiom ‘gwynt yn ei ddwrn’ yn awgrymu bod person yn rhedeg nerth ei draed.
RHODRI Na, mae o wedi bod yn defnyddio past dannedd blas cyrri, ac am i mi weld os ydi o’n arogli’n neis, felly ddudis i wrtho fo i chwythu mewn i’w ddwrn, i mi fedru rhoi ’marn.
JOSEFF Shwmae bawb. Rhodri, ma ‘ngwynt i yn fy nwrn, cymra ‘roglad o hwnna, gw’boi.
MALI Ie, wel dyna ni, ma pawb yn deall idiomau nawr.
ERIN Hmm, ti’n meddwl? Sai di bod yn gwrando ar air ti ‘di ddweud. Beth yw idiom? Ti’n galw fi’n idiot?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall ystyr llythrennol yn ogystal ag ystyr trosiadol idiomau cyffredin Cymraeg
- dangos dealltwriaeth dda o gystrawen naturiol yr iaith Gymraeg a strwythurau brawddegol
- crefftio eu hiaith yn hyderus
- datblygu cywirdeb wrth ysgrifennu

Idiomau Cymraeg
Dyma restr o rai idiomau Cymraeg a'u hystyron.
| Idiom | Ystyr | |
|---|---|---|
| A'i wynt yn ei ddwrn. / A'i gwynt yn ei dwrn. | Rhedeg yn gyflym iawn. | |
| Ar bigau’r drain. | Yn nerfus. | |
| Bwrw hen wragedd a ffyn. | Bwrw glaw yn drwm. | |
| Cadw draenog yn ei boced/phoced. | Tynn gydag arian; ddim yn hoffi gwario arian. | |
| Cael llond bol | Diflasu; cael digon. | |
| Cyntaf i’r felin caiff falu. | Cael mantais dros eraill drwy gymryd y cam cyntaf. | |
| Dyfal donc a dyrr y garreg. | Dal ati er mwyn llwyddo. | |
| Mae angen tynnu blewyn o'i drwyn/thrwyn. | Bod yn gas a phigo ar rywun. | |
| Mynd dros ben llestri. | Gor-wneud pethau; mynd yn rhy bell o ran ymddygiad. | |
| Rhaid cropian cyn cerdded. | Gwneud pethau syml cyn cychwyn ar y pethau cymhleth. | |
| Rhoi’r ffidil yn y to. | Rhoi'r gorau i wneud rhywbeth. | |
| Siarad trwy ei het. | Siarad mewn ffordd ddibwys a diflas. | |
| Y drwg yn y caws. | Y brif broblem. | |
| Bod yn wên o glust i glust. | Yn gwenu'n fawr. |

Gweithgaredd 1
Llenwa'r blychau i gwblhau’r idiomau isod.

Gweithgaredd 2
Llenwa'r blychau i gwblhau’r idiomau isod.

Video
Mali explains to Erin what an idiom is. She thinks that Erin understands the meaning of the idioms, but in reality Erin sees visual and literal examples of their meanings.
ERIN Sori bo fi’n hwyr, o’dd rhaid i fi ‘neud fy ngwallt ar gyfer fy hunlun ‘newydd ddeffro’. Iawn, c’mon, ni’n hwyr.
MALI I beth?
ERIN Sai ‘di penderfynu eto, ond fydd e’n hwyl!
MALI Wel dyna fo, diolch byth… On i ’di cychwyn cael llond bol o aros.
ERIN Llond bol? On i’n meddwl bo ni’n bwyta yn y dre? Wedes di ar y ffôn bo ti ddim am fwyta, a nawr ma ’da ti lond bol?
MALI Na, idiom yw e.
ERIN Oi, pwy ti’n alw’n idiot?
MALI Idiom ydi pan ti’n defnyddio term neu ddywediad sy’n golygu rhywbeth arall.
ERIN Mae’r hwch wedi mynd trwy’r siop!
MALI Ie, enghraifft berffaith. Yn hytrach na dweud, ”Mae pethau wedi mynd yn wael ac yn gyflym iawn”, mae idiom yn defnyddio syniadau a delweddau i gyfleu hynny.
ERIN Joseff, mae e wedi mynd dros ben llestri.
MALI Da iawn Erin, enghraiffft dda arall. Dros ben llestri – idiom sy’n disgrifio pan ma pethau neu berson wedi mynd yn rhy bell gyda’i ymddygiad. Dros ben llestri.
ERIN Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn.
MALI Ie wir, fy hoff idiom, ffordd arall o ddweud mae hi’n glawio. Pam hen wragedd a ffyn, pwy â wyr? Ond dyna ydy pwynt idiom. Mae’n fwy diddorol na jyst dweud ‘ma hi’n glawio’.
ERIN A dyma Rhodri. Ma’ fe’n siarad trwy ei het.
MALI Ma’ hynny bach yn gas, ti’n gw'bod bod ‘siarad trwy dy het' yn golygu siarad mewn ffordd ddibwys a diflas.
ERIN Ond ma’ fe’n siarad trwy ei het.
MALI Erin!
RHODRI Ie, champion, ‘da chi isho set DJ dwy awr. Dawns, hip hop a stryd? Wrth gwrs. A darfod erbyn hanner dydd achos dyna pryd ma' meithrin yn cau. Oce cwl. Awe efo’r micsars!
ERIN Rhodri, pam bo ti’n siarad trwy dy het?
MALI Erin!
RHODRI Hei genod, licio’r ffordd newydd ’ma o wisgo het? Mae o mor cŵl, fi di’r unig berson sy’n meiddio’i neud o.
ERIN Mae angen tynnu blewyn o drwyn Rhodri.
MALI Erin, beth sy’n bod arnat ti? Dw i’n gallu gweld bo ti’n deall idiomau, ac felly dylse ti wybod bod 'tynnu blewyn o drwyn rhywun' yn golygu bod yn gas a phigo arnyn nhw…
RHODRI Na, ma’ hi’n iawn, ma’ isho tynnu blewyn o ’nhrwyn i.
Dacw Joseff yn dod, â’i wynt yn ei ddwrn!
MALI Ma’r idiom ‘gwynt yn ei ddwrn’ yn awgrymu bod person yn rhedeg nerth ei draed.
RHODRI Na, mae o wedi bod yn defnyddio past dannedd blas cyrri, ac am i mi weld os ydi o’n arogli’n neis, felly ddudis i wrtho fo i chwythu mewn i’w ddwrn, i mi fedru rhoi ’marn.
JOSEFF Shwmae bawb. Rhodri, ma ‘ngwynt i yn fy nwrn, cymra ‘roglad o hwnna, gw’boi.
MALI Ie, wel dyna ni, ma pawb yn deall idiomau nawr.
ERIN Hmm, ti’n meddwl? Sai di bod yn gwrando ar air ti ‘di ddweud. Beth yw idiom? Ti’n galw fi’n idiot?
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand the literal and figurative meaning of common Welsh idioms
- demonstrate a good grasp of natural Welsh syntax and sentence structures
- craft their language confidently
- develop accuracy when writing

Welsh idioms
Here are the literal and actual meanings of the idioms.
| Idiom | Literal meaning | Actual meaning | |
|---|---|---|---|
| A'i wynt yn ei ddwrn. / A'i gwynt yn ei dwrn. | And his/her breath in his/her fist. | To run very fast. | |
| Ar bigau’r drain. | On the spikes of thorns. | To be nervous. | |
| Bwrw hen wragedd a ffyn. | Raining old women and walking sticks. | To rain very heavily. | |
| Cadw draenog yn ei boced/phoced. | To keep a hedgehog in his/her pocket. | Mean with money. | |
| Cael llond bol | To have a belly full. | To be fed up. | |
| Cyntaf i’r felin caiff falu. | The first one to the mill may grind. | Having an advantage over others by taking the first step. | |
| Dyfal donc a dyrr y garreg. | A persistent blow will break the rock. | To stick at something in order to succeed. | |
| Mae angen tynnu blewyn o'i drwyn/thrwyn. | A hair needs to be pulled from his/her nose. | Being nasty and picking on someone. | |
| Mynd dros ben llestri. | To go over the dishes | To go over the top. | |
| Rhaid cropian cyn cerdded. | It's necessary to crawl before walking. | Do simple things before starting on complicated things. | |
| Rhoi’r ffidil yn y to. | To put the violin in the attic. | To give something up. | |
| Siarad trwy ei het. | To talk through his/her hat. | To talk nonsense. | |
| Y drwg yn y caws. | The bad in the cheese. | The main problem. | |
| Bod yn wên o glust i glust. | To be a smile from ear to ear. | To smile broadly. |

Activity 1
Fill the gaps to complete the idioms below.

Activity 2
Fill the gaps to complete the idioms below.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
