Cyfri 1-100
ZOE Dyma ni! Gwobr gynta’ y raffl!
ZAC Dw i am ddechrau gwerthu tocynnau raffl rŵan!
ZOE Mae’n rhaid rhoi hanner y tocynnau yn y bwced raffl i ddechrau, Zac.
Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg, pum deg, chwe deg, saith deg, wyth deg, naw deg, cant!
Barod!
JERRY Ga’ i dri deg tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Tri deg punt os gwelwch yn dda.
Tri deg tocyn. Pob lwc.
HELEN Ga’ i bedwar deg pedwar tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Deg, dau ddeg, tri deg, pedwar deg tocyn…
…pedwar deg un, pedwar deg dau, pedwar deg tri, pedwar deg
pedwar tocyn. Pedwar deg pedwar punt os gwelwch yn dda.
Pob lwc.
HELEN Sawl tocyn sy’ gyda ni gyda’n gilydd?
JERRY Ym…mae tri deg a phedwar deg pedwar yn gwneud saith deg pedwar.
HELEN Rydyn ni’n mynd i ennill y raffl!
ZOE Sawl tocyn sy’ ar ôl Zac?
ZAC Deg, dau ddeg, dau ddeg un, dau ddeg dau, dau ddeg tri, dau ddeg pedawr, dau ddeg pump, dau ddeg chwech.
ZORA Ga’ i ddau ddeg pump tocyn os gwelwch yn dda?
ZAC Dau ddeg pump punt os gwelwch yn dda.
Pob lwc.
Dim ond un tocyn sy’ ar ôl!
ZOE Dydy’r tocyn yna ddim yn mynd i ennill y raffl. Rho’r tocyn i Gel!
ZAC Mae hi’n amser tynnu’r raffl!
ZOE Rhif cant sy’n ennill!


