
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio ffeithiau rhif er mwyn darllen ac ysgrifennu rhifau hyd at 1,000.
Mae'r wers yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use number facts in order to read and write numbers up to 1,000.
This lesson includes:
- one video
- three activities

Fideo / Video
Cyflwyniad i ddefnyddio'r pwynt degol i ddangos degfedau a chanfedau.
An introduction to using the decimal point to show tenths and hundredths.
Beth yw gwerth lle?
Rhain, yr 'unedau', yw'r rhifau lleiaf.
Ma nhw'n rhedeg o 1 i 9 ond yna ma'r rhifau'n dod i ben.
Paid poeni pwtyn.
Gawn ni chydig o help gan y bois mawr.
Ahem… Dewch allan â'r 'degau'!
Mae gwerth lle yn ein helpu ni i gyfrifo beth yw gwerth digid yn dibynnu ar ei safle, neu ei le, yn y rhif.
Beth am gyflymu pethau a gweld be sy'n digwydd pan ry ni'n cyrraedd 99.
Ry ni di rhedeg allan o rifau eto.
Tro hyn bydd angen y cannoedd arnom ni!
Nawr bo da ni'r cannoedd, y degau a'r unedau i gyd, neidiwn ni ymlaen…
…i'r miloedd, sydd hyd yn oed yn fwy eto!
Yna, paratowch eich hunain bois achos nesa…
…mae'n amser mynd mas o ma!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo bydd disgyblion yn gwybod:
- beth yw unedau, degau, cannoedd a miloedd
- bod rhif wedi ei wneud o ddigidau
- bod gwerth lle yn ein helpu ni i gyfrifo beth yw gwerth digid yn dibynnu ar ei safle yn y rhif
Notes for parents
After watching the video, students will know:
- what units, tens, hundreds and thousands are
- that a number is made up of digits
- that place value helps us calculate the value of a digit depending on its position within a number

Gwerth lle / Place value
Rydyn ni’n defnyddio penawdau gwerth lle fel 10, 100, 1000. Mae’r rhain yn ein helpu i wneud symiau a gweld pa rifau sy’n fwy na’i gilydd.
Mae rhif wedi’i wneud o un neu ragor o ddigidau. Mae’r rhif 6379, er enghraifft, wedi’i wneud o’r digidau 6, 3, 7 a 9.
6 mil, 3 chant, 7 deg a 9 uned.
We use place value headings like 10, 100, 1000. These help us to do sums and see which numbers are bigger than the others.
A number is made up of one or more digits. The number 6379, for example, is made up of the digits 6, 3, 7 and 9.
6 thousands, 3 hundreds, 7 tens and 9 units.


Gweithgaredd 1 / Activity 1
Gwna'r rhif 341
Make the number 341

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Gwna'r rhif 2164
Make the number 2164

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Gwna’r rhif pedair mil, dau gant, tri deg a chwech.
Make the number four thousand, two hundred, and thirty six.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
