Gwerthfawrogi 'Sŵn' gan T Llew Jones

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un gerdd i’w hastudio
  • Tri gweithgaredd i ymarfer sgiliau gwerthfawrogi a chreu barddoniaeth
  • Un fideo gyda syniadau i dy ysbrydoli i ysgrifennu darn o farddoniaeth

Lesson content

  • One poem to study
  • Three activities to practise poetry writing and appreciation
  • One video with ideas to inspire you to write a poem
Llinell / Line

Mae sŵn yn chwarae rhan bwysig mewn barddoniaeth o bob math: sŵn a rhythm y gerdd; y synau mae’r bardd yn ei ddisgrifio i greu darlun a phwysigrwydd sŵn wrth ddisgrifio emosiwn.

Pa synau wyt ti’n eu hoffi? Pa synau wyt ti’n eu casáu? Oes rhai synau yr wyt yn eu clywed ar un adeg o’r dydd yn unig?

Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia’r fideo neu darllena’r gerdd sy’n trafod pa synau mae’r bardd, T Llew Jones yn eu clywed yn y nos.

'Sŵn' gan T Llew Jones

Liw nos ni chlywir, medden nhw,
Ond hwtian oer y gwdi-hŵ:
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu’n drwm.

Ond celwydd noeth yw hynny i gyd,
Mae’r nos yn llawn o sŵn o hyd;
Mi glywais i, un noson oer,
Sŵn cŵn yn udo ar y lloer.

Mi glywais wedyn, ar fy ngair,
Sŵn llygod bach yn llofft y gwair –
Rhyw sŵn fel sŵn y gwynt trwy’r dail,
Rhyw gyffro bach a sibrwd bob yn ail.

A chlywais wedyn, ar ôl hyn,
Grawcian brogaod yn y llyn;
A chlywais unwaith, ar fy ngwir,
Gyfarth y llwynog o’r Graig Hir.

Pan ddring y lloer a’r sêr i’r nen,
A gwaith y dydd i gyd ar ben,
Pan gilia pawb i’r tŷ o’r clos,
Cawn gyfle i wrando ar leisiau’r nos.

Trysorfa T. Llew Jones, gol. Tudur Dylan Jones, Gomer, 2004

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Llunia restr o’r holl anifeiliaid sy’n ymddangos yn y gerdd. Pa synau maen nhw’n eu gwneud?

AnifailSŵn

Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 1 - Gwerthfawrogi 'Sŵn' gan T Llew Jones

Llinell / Line

Er mwyn cyfleu’r synau sydd yn y gerdd, mae’r bardd yn defnyddio nifer o dechnegau. Beth am i ni astudio tri?

Odli

Efallai dy fod wedi sylwi ar batrwm yn y gerdd. Odl yw’r enw ar y patrwm yma. Mae’r bardd yn defnyddio odl er mwyn rhoi rhythm i’r gerdd i helpu cyfleu’r sŵn.

Liw nos ni chlywir, medden nhw,
Ond hwtian oer y gwdi-hŵ:
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu’n drwm.

  • Mae geiriau olaf llinell 1 a llinell 2 yn odli gyda'i gilydd.
  • Mae geiriau olaf llinell 3 a llinell 4 hefyd yn odli gyda'i gilydd.
  • Yr enw ar bâr o linellau sy'n odli fel hyn yw 'cwpled'.
  • Wyt ti'n gallu dod o hyd i'r parau eraill sy'n odli?

Ansoddeiriau

Mae’r bardd hefyd yn defnyddio ansoddeiriau. Gair sy’n disgrifio yw ansoddair. Er enghraifft:

  • hapus
  • cyffrous
  • rhewllyd

Yma, mae’r bardd yn defnyddio’r ansoddeiriau i bwysleisio bod rhai pobl yn credu bod y nos yn ddistaw, a’r unig beth i’w glywed yw’r gwdi-hŵ. Mae’n mynd ymlaen i bwysleisio pa mor anghywir yw hyn.

Wyt ti’n gallu gweld enghreifftiau eraill o ansoddeiriau yn y gerdd? Beth yw eu heffaith?

Cymariaethau / Cyffelybiaethau

Gwelwn enghraifft o gyffelybiaeth yn y gerdd hefyd. Defnyddiwn gyffelybiaeth wrth gymharu dau beth. Er enghraifft:

  • yn boeth fel yr haul
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Wyt ti’n gallu gweld enghraifft o ansoddair yn y pennill isod?

Liw nos ni chlywir, medden nhw,
Ond hwtian oer y gwdi-hŵ:
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu’n drwm.

Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 2 - Gwerthfawrogi 'Sŵn' gan T Llew Jones

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

A weli di enghraifft o gyffelybiaeth yn y pennill yma?

Mi glywais wedyn, ar fy ngair,
Sŵn llygod bach yn llofft y gwair –
Rhyw sŵn fel sŵn y gwynt trwy’r dail,
Rhyw gyffro bach a sibrwd bob yn ail.

Clicia neu bwysa yma i weld atebion gweithgaredd 3 - Gwerthfawrogi 'Sŵn' gan T Llew Jones

Llinell / Line

Felly, defnyddia’r bardd nifer o dechnegau er mwyn helpu creu darlun a chyfleu ei neges. Ond beth yw neges T Llew Jones? Beth mae o’n ei ddweud wrthym yn y gerdd?

Efallai ei fod am ddenu ein sylw i’r holl synau gwych sydd i’w clywed yn ystod y nos. Efallai ei fod eisiau denu ein sylw at fyd natur, a’r holl anifeiliaid sy’n effro yn ystod y nos.

Gan fod pob un ohonom yn dehongli cerdd yn wahanol, efallai dy fod di’n gweld rhywbeth arall yma. Mae hynny’n hollol iawn.

Llinell / Line

Gweithgaredd 4 / Activity 4

Pa synau wyt ti’n eu clywed yn ystod y nos?

Llunia restr o’r synau sydd i’w clywed yn dy gartref. Ychwanega ansoddeiriau a chyffelybiaethau er mwyn disgrifio’r sŵn.

Sut sŵn ydy o? Beth mae’r sŵn yn ei wneud?

Beth am roi tro ar ysgrifennu darn o farddoniaeth am bethau sy’n digwydd yn y nos?

Ceisia ddefnyddio odl a chofia ei osod fel cerdd.

Mae gennyt ti rai syniadau’n barod am bethau sy’n digwydd o gwmpas dy gartref ond mae croeso i ti ysgrifennu am bethau sy’n digwydd ymhellach i ffwrdd, efallai yn y dref neu ym myd natur.

Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn gallu:

  • gwerthfawrogi’r defnydd o odl, ansoddeiriau a chymariaethau mewn darn o farddoniaeth
  • ysgrifennu darn o farddoniaeth

Notes for parents

After completing the lesson, students will be able to:

  • appreciate the use of rhyme, adjectives and similes in a piece of poetry
  • write a piece of poetry

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU