
Ffocws dysgu
Defnyddia unedau amser safonol i ddarllen faint o’r gloch ydy hi ar glociau analog a chlociau digidol 12 awr.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Use standard units of time to read the time using both analogue and 12-hour digital clocks.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo
Fesul awr, mae tri chloc yn canu am eu diwrnod.
Clociau yn canu am yr amser
CLOC 1 & 2 Faint o’r gloch ydy hi?
CLOC 3 Mae hi’n saith o’r gloch.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser ysgol.
Mae hi’n amser ysgol.
Hwrê!
CLOC 2 & 3 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 1 Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser cinio.
Mae hi’n amser cinio.
Iym iym!
CLOC 3 & 1 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 2 Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
O, mae hi’n hanner awr wedi tri.
CLOCIAU Mae hi’n amser mynd adre.
Mae hi’n amser mynd adre.
Ieeeeeei!
Mae hi’n bedwar o’r gloch.
Mae hi’n bump o’r gloch.
Mae hi’n chwech o’r gloch.
Mae hi’n saith o’r gloch.
Amser gwely bawb. Nos da.
Aaaaa! Mae hi’n amser codi eto!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod oriau ar gloc digidol 12 awr
- dweud faint o'r gloch ydy hi am amserau 'o'r gloch'
- ymarfer dweud faint o'r gloch ydy hi
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- read the hours on a 12-hour digital clock
- say what time it is for 'o'clock' times
- practise telling the time

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Faint o'r gloch ydy hi?
What time is it?

Edrycha ar y cloc. Faint o'r gloch ydy hi?
Tynna lun o'r cloc ac ysgrifennu'r amser o dan y llun.
Look at the clock. What time is it?
Draw a picture of the clock and write the time under the picture.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Mae pedwar cloc isod. Wyt ti'n gallu dweud faint o'r gloch ydy hi am bob un?
Ysgrifenna'r amser ar gyfer pob un o'r clociau ar ddarn o bapur.
There are four clocks below. Can you tell the time for each one?
Write the time for each clock on a piece of paper.


Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
