
Ffocws dysgu
Dysga sut i adeiladu ar brofiad blaenorol, a siarad yn hyderus gan egluro dy hun drwy:
- drefnu yr hyn rwyt ti'n ei ddweud
- ddewis geiriau’n fwriadol
- gynnwys manylder perthnasol
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- pump o weithgareddau
Learning focus
Learn how to build on previous experience, speaking confidently and making yourself clear by:
- organising what you say
- choosing words deliberately
- including relevant detail
This lesson includes:
- one video
- five activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Rhys yn gwneud dyddiadur fideo am ddyddiau’r wythnos.
Dyddiau’r wythnos
RHYS Ah! Dyma fo! Fy nghamera fideo!
Helo. Rhys ydw i. Dw i’n gwneud dyddiadur fideo am ddyddiau’r wythnos.
Dydd Llun, dw i’n chwarae gyda’r gath.
Dydd Mawrth, dw i’n rhoi bwyd i’r pysgodyn aur.
Pa ddiwrnod ydy hi heddiw? O ie! Dydd Mercher.
Dydd Mercher, dw i’n glanhau cawell y gwningen.
Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
PAROT Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
RHYS Mae’n ddydd Gwener heddiw a dw i’n mynd â’r pry cop am dro.
Mae’n rhaid i mi helpu dad yfory.
Mae’n ddydd Sadwrn heddiw a dw i’n siopa gyda dad.
Dydd Sul, dw i’n hoffi ymlacio gyda’r anifeiliaid.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- adrodd dyddiau’r wythnos
- defnyddio profiadau personol i siarad am ddyddiau’r wythnos
- defnyddio patrymau iaith syml
- creu dyddiadur syml

Gweithgaredd 1
Adrodda ddyddiau’r wythnos i oedolyn yn Gymraeg.
Gwna hyn yn Saesneg hefyd os wyt ti eisiau.

Gweithgaredd 2
Tynna luniau o beth rwyt ti’n ei wneud bob diwrnod yr wythnos.
Nesa, defnyddia’r lluniau i siarad am bob diwrnod, er enghraifft:
Dydd Llun, dw i’n gwylio’r teledu.
Gofynna i oedolyn am help os oes angen.

Gweithgaredd 3
Siarada am weithgareddau rwyt ti wedi eu gwneud ar ddyddiau gwahanol yn ystod yr wythnos. Beth oedd dy hoff ddiwrnod a pham?
Ysgrifenna hyn ar bapur a llenwa'r blychau fel yn yr enghreifftiau isod:
Fy hoff ddiwrnod yr wythnos yma yw Dydd ___________________________ .
Dydd ___________________________ yw fy hoff ddiwrnod, achos ___________________________ .
Gofynna i rywun arall beth yw eu hoff ddiwrnod nhw.

Gweithgaredd 4
Edrycha ar yr amserlen isod:
Fy wythnos i
| Diwrnod yr wythnos | Gweithgaredd | |
|---|---|---|
| Dydd Llun | Darllen llyfr | |
| Dydd Mawrth | Reidio beic yn y stryd | |
| Dydd Mercher | Chwarae yn yr ardd | |
| Dydd Iau | Helpu yn y tŷ | |
| Dydd Gwener | Tynnu lluniau | |
| Dydd Sadwrn | Mynd â’r ci am dro | |
| Dydd Sul | Cysgu’n hwyr |
Gyda help oedolyn, defnyddia’r wybodaeth yn y tabl uchod er mwyn ysgrifennu brawddeg am bob diwrnod yr wythnos.
Cofia ddefnyddio prif lythren ar ddechrau brawddeg ac atalnod llawn ar y diwedd, er enghraifft:
Dydd Llun, dw i’n darllen llyfr.

Gweithgaredd 5
Edrycha ar yr amserlen eto:
Fy wythnos i
| Diwrnod yr wythnos | Gweithgaredd | |
|---|---|---|
| Dydd Llun | Darllen llyfr | |
| Dydd Mawrth | Reidio beic yn y stryd | |
| Dydd Mercher | Chwarae yn yr ardd | |
| Dydd Iau | Helpu yn y tŷ | |
| Dydd Gwener | Tynnu lluniau | |
| Dydd Sadwrn | Mynd â’r ci am dro | |
| Dydd Sul | Cysgu’n hwyr |
Nawr, defnyddia’r wybodaeth i ofyn cwestiynau, er enghraifft:
Beth wyt ti’n gwneud Dydd Llun?
Rhaid i’r person arall dy ateb di:
Dydd Llun, dw i’n _______________________________________ .
Mae’r atebion i gyd yn y tabl. Gofynna i oedolyn am help. Gwna hyn ar gyfer pob diwrnod.
Nesa, defnyddia’r wybodaeth hon i ofyn y cwestiwn:
Beth yw dy hoff ddiwrnod di?
Rhaid i’r person arall dy ateb di:
Fy hoff ddiwrnod yw Dydd ________________________________ , achos ________________________________ .
I orffen, dylai person arall ofyn y cwestiwn canlynol i ti:
Beth yw dy hoff ddiwrnod di?
Tybed pa ddiwrnod byddi di'n dewis o'r tabl?

Video
Rhys is making a video diary of the days of the week.
Dyddiau’r wythnos
RHYS Ah! Dyma fo! Fy nghamera fideo!
Helo. Rhys ydw i. Dw i’n gwneud dyddiadur fideo am ddyddiau’r wythnos.
Dydd Llun, dw i’n chwarae gyda’r gath.
Dydd Mawrth, dw i’n rhoi bwyd i’r pysgodyn aur.
Pa ddiwrnod ydy hi heddiw? O ie! Dydd Mercher.
Dydd Mercher, dw i’n glanhau cawell y gwningen.
Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
PAROT Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
RHYS Mae’n ddydd Gwener heddiw a dw i’n mynd â’r pry cop am dro.
Mae’n rhaid i mi helpu dad yfory.
Mae’n ddydd Sadwrn heddiw a dw i’n siopa gyda dad.
Dydd Sul, dw i’n hoffi ymlacio gyda’r anifeiliaid.
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- name the days of the week
- use personal experiences to talk about days of the week
- use simple language patterns
- create a simple diary

Activity 1
Repeat the days of the week to an adult in Welsh.
Do this in English too if you wish.

Activity 2
Draw pictures, of what you do on each day of the week.
Next, use your pictures to talk about each day, for example:
Dydd Llun, dw i'n gwylio'r teledu.
(On Monday, I watch television.)
Ask an adult to help you, if necessary.

Activity 3
Talk about the activities that you have done on different days of the week. Which was your favourite day and why?
Write this down on paper and fill in the gaps like in the examples below:
- Fy hoff ddiwrnod yr wythnos yma yw ___________________________ .
(My favourite day this week is ___________________________ . )
- ___________________________ yw fy hoff ddiwrnod, achos ___________________________ .
(___________________________ is my favourite day of the week, because ___________________________ .)
Ask someone else what their favourite day of the week is.

Activity 4
Look at the timetable below.
Fy wythnos i(My week)
| Diwrnod yr wythnos (Day of the week) | Gweithgaredd (Activity) | |
|---|---|---|
| Dydd Llun (Monday) | Darllen llyfr (read a book) | |
| Dydd Mawrth (Tuesday) | Reidio beic yn y stryd (ride a bike in the street) | |
| Dydd Mercher (Wednesday) | Chwarae yn yr ardd (play in the garden) | |
| Dydd Iau (Thursday) | Helpu yn y tŷ (help in the house) | |
| Dydd Gwener (Friday) | Tynnu lluniau (draw pictures) | |
| Dydd Sadwrn (Saturday) | Mynd â’r ci am dro (take the dog for a walk) | |
| Dydd Sul (Sunday) | Cysgu’n hwyr (sleep late) |
With the help of an adult, use this information to write a sentence about every day of the week.
Remember to use a capital letter at the start of a sentence and a full stop at the end, for example:
Dydd Llun, dw i’n darllen llyfr.
(On Monday, I read a book).

Activity 5
Look at the timetable again.
Fy wythnos i
| Diwrnod yr wythnos (Day of the week) | Gweithgaredd (Activity) | |
|---|---|---|
| Dydd Llun (Monday) | Darllen llyfr (read a book) | |
| Dydd Mawrth (Tuesday) | Reidio beic yn y stryd (ride a bike in the street) | |
| Dydd Mercher (Wednesday) | Chwarae yn yr ardd (play in the garden) | |
| Dydd Iau (Thursday) | Helpu yn y tŷ (help in the house) | |
| Dydd Gwener (Friday) | Tynnu lluniau (draw pictures) | |
| Dydd Sadwrn (Saturday) | Mynd â’r ci am dro (take the dog for a walk) | |
| Dydd Sul (Sunday) | Cysgu’n hwyr (sleep late) |
Now, use the information to ask questions, for example:
__Beth wyt ti’n gwneud Dydd Llun? (What do you do on Monday?)
The other person must answer:
Dydd Llun, dw i’n ___________________________ .(Monday, I ___________________________.)
All the answers are in the table. Ask an adult for help. Do this for each one.
Next, use this information to ask:
Beth yw dy hoff ddiwrnod di?
(What is your favourite day?)
The other person must answer:
__Fy hoff ddiwrnod yw Dydd __________________________________, achos ________________________________ .
(My favourite day is ____________________________, because ____________________________.)
To finish, the other person should ask the following question to you:
Beth yw dy hoff ddiwrnod di?
(What is your favourite day?)
Which day from the table will you choose?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
